Ymwelwyr rhyngwladol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel ymwelydd rhyngwladol, p’un ai a ydych chi’n ymweld â’r sioe oherwydd rhesymau busnes neu i fwynhau, fe’ch gwahoddir i ymweld â’r Pafiliwn Rhyngwladol. Yn ogystal â chroeso cynnes, yno, gallwch chi ganfod:

  • Stiwardiaid gwybodus sydd ag amrywiaeth o sgiliau ieithyddol
  • Canllawiau i’ch helpu i elwa’n llawn o’ch ymweliad â’r sioe
  • Copi o raglen y sioe am ddim
  • Lle i ymlacio a chwrdd â ffrindiau hen a newydd, a rhwydweithio â hwy
  • Lle i gwrdd â’ch grŵp neu eich teulu
  • Lluniaeth ysgafn am ddim (Te, Coffi, Pice ar y Maen)
  • WiFi am ddim
  • Lle i wefru eich ffonau a’ch cyfrifiaduron llechen
  • Ystafell cyfarfodydd busnes fechan sydd ar gael i gynnal cyfarfodydd preifat
  • Cyfleusterau toiledau

Os ydych chi’n ymwelydd rhyngwladol, dewch i gofrestru yn y pafiliwn yn Rhodfa K, ble rhoddir bathodyn i chi yn cynnig mynediad am ddim i chi i’r Pafiliwn Rhyngwladol tra byddwch yn y sioe.

Nodyn, eleni ni fydd y Pafiliwn Rhyngwladol ar agor drwy gydol y digwyddiad ac weithiau bydd ar gau ar gyfer cyfarfodydd busnes a digwyddiadau, felly gwiriwch yr oriau agor wrth gofrestru.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi!

Prynwch eich tocynnau ymlaen llaw

Os prynwch chi eich tocynnau ar-lein, gallwch chi arbed arian ac osgoi'r ciwiau ger y fynedfa hefyd.