Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-22 May 2022.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-21 Gorffennaf 2022.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
28-29 Tachwedd 2022.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Maes Sioe Frenhinol Cymru Llanelwedd Llanfair ym Muallt LD2 3SY
Lleolir maes y sioe ble mae’r A470 a’r A483 yn croesi yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, a cheir nifer da o arwyddion i gyfeirio pobl i’r digwyddiad o bob cyfeiriad.
Mae lle i barcio ceir AM DDIM ar gael ym mhen isaf maes y sioe, ac mae o fewn cyrraedd agos ar droed o’r brif fynedfa. Mae lle parcio agosach ar gael yn ein maes parcio ar gyfer ymwelwyr sy’n arddangos Bathodyn Glas.
Dilynwch gyfeiriad y traffig a chyfarwyddiadau’r stiwardiaid parcio i sicrhau eich bod chi’n parcio yn gyflym ac yn ddiogel.
Ein gorsaf drenau agosaf yw Builth Road, ychydig dros filltir o faes y sioe.
I gael rhagor o wybodaeth a’r amserlen ddiweddaraf: www.thetrainline.com www.nationalrail.co.uk
Bydd gwasanaeth bws rheolaidd T4 rhwng y Drenewydd a Chaerdydd yn stopio yn Llanfair ym Muallt a Llanelwedd, ac nid yw’n bell i gerdded oddi yno i faes y sioe.
I gael rhagor o wybodaeth a’r amserlen ddiweddaraf: www.trawscymru.info www.traveline.cymru