Neuadd Fwyd - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wedi’i hadeiladu yn 2010 mewn ymateb i alwadau cynyddol am lecyn arddangos cyfoes, mae’r Neuadd Fwyd yn sefyll ar leoliad dethol ar faes y sioe ar safle’r hen Neuadd Llanelwedd, ac mae rhai o’r coed aeddfed a’r nodweddion archeolegol wedi’u cadw fel canolbwyntiau allweddol y datblygiad. Mae rhannau o’r ardd furiog wreiddiol wedi’u cadw hefyd fel nodweddion yn nhirluniad caled y Neuadd Fwyd newydd.

Yn fewnol, mae’r adeilad yn cynnwys neuadd arddangos fawr agored gyda phyllau gwasanaeth tanddaearol mewn mannau strategol. Mae ymolchfeydd ategol a lle storio cyfagos o fewn y cyfadeilad. Mae’r llawr cyntaf yn cynnwys lle agored sy’n addas ar gyfer llawer defnydd megis arddangosfeydd, lansiadau, cynadleddau ayb ac mae wedi’i gyflenwi â chegin fach.

Yn ystod Sioe’r Haf a’r Ffair Aeaf defnyddir yr adeilad fel lleoliad i arddangos bwyd a diod yn unig gydag arddangosfeydd o gynhyrchion a gynhyrchwyd neu a broseswyd yng Nghymru. Mae ar gael i’w hurio trwy gydol gweddill y flwyddyn ac o ystyried ei chwmpas byddai’n addas ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau mawr sydd â’r gallu i eistedd hyd at 500 o giniawyr neu gynulleidfa o tua 1000. Cafodd seremoni wobrwyo Gwir Flas Cymru, a fu ar y teledu, ei chynnal yno yn 2012 ac ysgogodd y trefnwyr i wneud y sylw fod “y man cyfarfod yn wych ac ni fyddem yn petruso dim wrth argymell eich man cyfarfod i’n cleientiaid”.

Manylion Technegol

Hyd yr Ystafell: 47.860m

Lled yr Ystafell: 29m

Arwynebedd Llawr: 1363m²

Gorffeniad y Llawr: Hygienic Epoxy Resin

Toiledau ac ystafell ymolchi

Chyfleusterau Pobl Anabl

WiFi

Cegin fach

Ystafell gyfarfod ar y llawr cyntaf ar wahân

Cynllun Llawr
Diddordeb mewn Hurio'r Man Cyfarfod hwn?