Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Rydym yn falch o gynnal detholiad gwych o stondinau bwyd a diod Cymreig o ansawdd uchel yn Ffair Aeaf 2024…

 

Y Ffair Aeaf – Arddangoswyr y Neuadd Fwyd

A Bit of Pickle

Busnes teuluol bach sy’n cynhyrchu cyffeithiau, siytni, picls a chynhyrchion tsili cartref gan ddefnyddio cymaint o gynnyrch cartref â phosibl.

www.abitofapickle.com

Aber Falls Distillery Ltd

Distyllfa Aber Falls yw’r ddistyllfa chwisgi gyntaf yng Ngogledd Cymru ers dros 100 mlynedd! Mae’n cynhyrchu wisgi Cymreig brag sengl, ynghyd â dewis o gin a gwirodydd. Dros y blynyddoedd, mae wedi rhyddhau chwisgi unigryw o’r ddistyllfa, ac mae’r diweddaraf yn cynnwys chwisgi ag oed cynharaf o 6 oed.

www.aberfallsdistillery.com

Abi’s Macarons

Yn cynhyrchu macarons crefftus yn ogystal â chacennau priodas, darnau canol, rhoddion priodas ac anrhegion o safon uchel iawn.

www.abismacarons.com

Anglesey Foods Ltd

Mae Anglesey Foods yn datblygu ac yn cynhyrchu cynnyrch i swyno’u cwsmeriaid. Maen nhw’n arbenigo mewn cynhyrchion â’u brand eu hunain, label gwyn a chyfanwerthu a gallant anfon archebion o unrhyw faint ledled y wlad.

Axeljack Brewery

Mae bragdy AxelJack yn gwneud cwrw a seidr crefftus Cymreig o ffynonellau cynaliadwy, ac wedi’u cynhyrchu mewn ffordd gyfrifol.

www.axeljackbrewery.co.uk

Barti Rum

Mae Barti Rum yn rym sbeislyd cyffrous a aned yn Sir Benfro yn 2018. Mae gwymon gwyllt o arfordir hardd Gorllewin Cymru yn cael ei drwytho i godi a chyfoethogi

cyfuniad o flasau clasurol.

www.Bartirum.wales

Bee Welsh Honey Company

Mêl a chynhyrchion gwenyn Cymreig sydd wedi ennill gwobrau, yn syth o’r gwenyn a cheidwad y gwenyn yng Nghanolbarth Cymru. Dewch i flasu gwir flas Cymru, o feillion yr iseldir i rug yr ucheldir.

www.beewelshhoney.com

Blas Y Tir

Tyfwr cynnyrch Cymreig sy’n cyflenwi pob manwerthwr mawr. Mae ganddo chwaer- gwmni sy’n cyflenwi llaeth Cymreig i archfarchnadoedd.

www.Blasytir.com

Caws Cenarth Cheese

Gwneuthurwyr caws crefftus sydd wedi ennill gwobrau lu.

www.cawscenarth.co.uk

Caws Teifi Cheese

Mae Caws Teifi Cheese ar fferm deuluol organig yng Ngheredigion lle maen nhw’n gwneud caws crefftus sydd wedi ennill gwobrau lu, o’r llaeth amrwd organig gorau, o ffynonellau lleol. Mae ei chwaer-gwmni, Da Mhile, ar yr un fferm ac yn gwneud gwirodydd organig wedi’u hysbrydoli gan eu hamgylchedd a’u hanes.

www.teificheese.co.uk www.damhile.co.uk

Celtic Pie Company

Mae Farm Fresh/Celtic Pie & Pastry Co yn chwaer-gwmni i Castell Howell sy’n hyrwyddo cynnyrch Cymreig.

www.celticpie.co

Celtic Spirit Company

Gwirodydd a gwirodlynnau a wnaed ar Ynys Môn sydd wedi ennill gwobrau.

www.celticspirit.co.uk

Cig Carw Llŷn

Cig carw a gynhyrchir yn foesegol ac yn gynaliadwy o fuches o hyddod brith ar Benrhyn Llŷn.

Mae’r holl waith prosesu’n cael ei wneud gennym ni ein hunain yn ein safle bwtsiera pwrpasol ar y fferm.

www.cigcarwllyn.co.uk

Condessa Welsh Liqueurs

Gwirodydd a gwirodlynnau a wnaed ar Ynys Môn sydd wedi ennill gwobrau lu. www.condessa.co.uk

Crwst

Mae Crwst yn cynhyrchu bwydydd crefftus o’r popty, o fara surdoes i doesenni brioche a chwyrliadau sinamon, ynghyd â sawsiau sydd wedi ennill gwobrau fel Caramel Hallt a Menyn Mêl Cymru.

www.crwst.cymru

CwmFarm Charcuterie Products

Charcuterie a Biltong yn Ne Cymru sydd wedi ennill gwobrau.

www.cwmfarm.co.uk

Cywain

Mae Cywain yn cynnig llwyfan i gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru i brofi masnach yn Neuadd Fwyd CAFC.

www.cywain.cymru

Dewi Roberts Butchers

Cigydd teuluol sydd wedi bod yn masnachu ers 40 mlynedd ac sydd wedi tyfu’n

barhaus. Mae’n falch o fod yn gysylltiedig â’r Sioe Frenhinol ers 28 mlynedd.

www.Dewirobertsbutchers.co.uk

Distyllfa Ffynnon Môn

Yr unig ddistyllfa sy’n defnyddio ei dŵr ffynnon ei hun i wneud ei hamrywiaeth a’i dewis eang o alcohol.

www.angleseyspring.co.uk

Dotty Doughnuts

Cwmni Cymreig a theuluol balch sydd wedi ymrwymo i ddod â’r toesenni mwyaf o ran maint a moethusrwydd i chi.

Emburs Dessert Bar

Pwdinau a phopty Emburs. Danteithion i dynnu dŵr o’r dannedd ar gyfer eich caffi, eich bwyty neu’ch siop. Gallwch archebu pwdinau unigryw, cacennau caws, a chacennau at bob achlysur. Byrddau pwdin ar gael. Gallwch eu gweld mewn digwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig.

www.emburs.co.uk

Fat Bottom Welsh Cakes

Amrywiaeth o wahanol Bice ar y Maen o flasau gwahanol gan gynnwys Lemwn, Caramel Hallt a Thraddodiadol, a mwy.

www.fatbottomwelshcakes.com

Gasm Drinks Ltd

Mae Gasm Drinks yn cynhyrchu coctels blasus sy’n trwytho gwin pefriog a jin ffrwythau mewn 3 blas anhygoel, eirin surion bach (yr un gwreiddiol), eirin a mafon, wedi’u cynhyrchu mewn poteli a chaniau.

www.gasmdrinks.co.uk

Gower Preserves

Jamiau, siytni ac a chondimentau o safon uche, i gyd wedi’u gwneud ar Benrhyn

godidog Gŵyr. Dim lliwiau, blasau na chadwolion artiffisial.

www.gowerpreserves.co.uk

Gwenyn Gruffydd

Mae gan Gwenyn Gruffydd wenynfeydd yn nyffryn prydferth y Tywi, yn swatio i’r gorllewin o Fannau Brycheiniog a hyd fryniau a dyffrynnoedd tonnog Ceredigion ac arfordir ysblennydd Sir Benfro, ac felly mae’n fêl arbennig iawn.

www.gwenyngruffydd.co.uk

Gwinllan Blue Moon

Cwmni bach ifanc yng Nghanolbarth Cymru sy’n cynhyrchu 3 math o win o rawnwin a dyfir ar eu fferm. Mae eu gwin o ansawdd uchel iawn ac mae wedi bod yn 10 Downing Street ar 2 achlysur. Bydd profiadau blasu gwin ar y fferm a chyfleoedd i ymweld â’r winllan yn dechrau yn 2025.

www.bluemoonwines.co.uk

Gwinllan Cwm Deri

Mae Ystâd Cwm Deri yn un o’r ychydig fusnesau sydd wedi ennill eu plwyf hiraf yng Nghymru sy’n cynhyrchu a gwerthu Gwinoedd a Gwirodlynnau. Edrychwch ar eu detholiad hyfryd o gynhyrchion wedi’u crefftio â llaw!

www.cwm-deri.com

Ham Caerfyrddin

Mae Ham Caerfyrddin yn Ham sydd wedi’i sychu yn yr aer ac mae ganddo amddiffyniad PGI.

www.carmarthendeli.co.uk

Henllan Bakery

Becws crefftus, teuluol sydd bellach yn nwylo’r bedwaredd genhedlaeth, ac yn cynhyrchu nwyddau o ansawdd uchel o’r popty ers 1908.

www.henllanbread.co.uk

Hensol Castle Distillery

Hensol Castle Distillery yw’r unig ddistyllfa yn y DU sydd wedi’i lleoli mewn castell o’r 17eg ganrif ac mae hefyd yn gartref i Ganolfan Ymwelwyr sydd wedi ennill gwobrau.

www.hensolcastledistillery.com

Hufen Iâ Golwg y Mynydd

Llaeth cyfoethog a hufennog ffres o ffermydd Sir Gaerfyrddin wedi’i basteureiddio i greu ei hufen iâ melfedaidd sydd wedi ennill gwobrau, neu ei gyfuno i’w hysgytlaeth hufen iâ blasus

www.mountainviewicecream.com

Hufenfa De Arfon

Mae Hufenfa De Arfon ar Benrhyn prydferth Llŷn yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae’n fenter gydweithredol rhwng ffermwyr ac yn casglu’r llaeth Cymreig lleol gorau yn unig. Mae HDA yn cynhyrchu dewis anhygoel o gawsiau a menyn Cymreig sy’n cael eu marchnata o dan frand Dragon.

www.dragonwales.co.uk / www.sccwales.co.uk

Little Black Hen

Yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, mae’n creu jamiau, siytni a finegr crefftus mewn sypiau bach.

Wedi’u gwneud â llaw yn fy nghegin gartref gofrestredig gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau.

www.littleblackhen.com

Llanfaes Dairy Ice Cream

Hufen iâ a iâ ffrwythau crefftus wedi’u cynhyrchu yn eu parlwr yn Aberhonddu a Bae Caerdydd.

www.llanfaesdairy.com

M&M Beverages Ltd

Fodca Mêl Cymreig a Charamel Hallt a Gin Mêl Cymreig 2B a 10 blas o’r Tonic

Buzbee gorau i fynd gyda nhw.

www.mandmbeverages.co.uk

Marie Cresci’s Cheesecakes

Cacennau caws cartref unigol.

Medd Mynydd-Mountain Mead Ltd

Mae Mountain Mead yn gwmni cynhyrchu medd yng Ngwynedd sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’n cynnig dewis o fedd â sylfaen mêl sy’n defnyddio’r dull traddodiadol o eplesu mêl i wneud diod alcoholig.

www.mountainmead.co.uk

Morgans Brew Tea & Tea Gin

Detholiad o de dail rhydd, a thrwythiadau perlysieuol a ffrwythau, Gin, Gwin Te a medd te.

www.morgansbrewtea.co.uk

Pembrokeshire Chilli Farm

Yng nghalon cefn gwlad Sir Benfro, mae Pembrokeshire Chilli Farm wedi ennill gwobrau ac wedi magu enw da rhagorol am gynhyrchu dewis eang o sawsiau tsili gwych, jamiau a sbeisys anhygoel.

www.pembrokeshirechillifarm.com

Pembrokeshire Gold Oil

Mae Pembrokeshire Gold Oil yn cynhyrchu olew had rêp wedi’i wasgu’n oer a’i drwytho, o’r fferm i’r fforc. Maen nhw’n tyfu, yn cynaeafu, ac yn gwasgu eu cynnyrch o ansawdd uchel, ac yn eu gosod mewn poteli, ar y fferm deuluol.

www.pembrokeshiregold.co.uk

Penwaun Farm

Fferm fechan sy’n canolbwyntio ar fridiau prin a brodorol, cig eidion Dexter wedi’i fwydo 100% ar laswellt, porc Tamworth a defaid corn Wiltshire. Y cyfan wedi’u

magu mewn ffordd gynaliadwy.

www.penywaunfarm.co.uk

Printed Chocolates

Rhowch eiriau ar siocled y Nadolig hwn – siocledi unigryw wedi’u hargraffu gyda dyluniadau unigryw. Mae modd eu personoli a’u cael yn Gymraeg!

www.printedchocolates.co.uk

Radnor Hills Mineral Water Company Ltd

Mae eu dewis o ddiodydd o ansawdd uchel wedi’u gwasgu yn cymryd eu henw o’r fferm deuluol. Wedi’u crefftio o gyfuniad o ddŵr ffynnon pur Radnor Hills a chynhwysion hollol naturiol.

www.radnorhills.co.uk

Ridiculously Rich by Alana

Mae Ridiculously Rich by Alana yn cynnig amrywiaeth blasus o gacennau wedi’u gwneud â llaw, wedi’u pobi yn eu becws yn Aberystwyth.

www.ridiculouslyrichbyalana.co.uk

Rose Cottage Drinks

Busnes bach teuluol sy’n cynhyrchu gwirodlynnau a choctels. Rhowch gynnig ar eu gwirodlyn gin danadl poethion sy’n blasu ychydig fel mynd â’r ci am dro hir ar hyd llwybr ceffylau!

www.rosecottagedrinks.co.uk

Rym Bullion

Mae Bullion yn frand o rym sbeislyd o ansawdd uchel sydd wedi’i ddistyllu yn Demerara a’i gyfuno â blasau naturiol a sbeisys o bob cwr o’r byd. Mae eu rym yn cael ei ddistyllu dair gwaith yn un o’r distyllfeydd gorau yn ardal Guiana a cheir pedwerydd distylliad yn seler Bullion. Rydyn ni’n defnyddio dŵr pur o Gymru wedi’i hidlo trwy fynyddoedd Bannau Brycheiniog i greu’r elicsirau unigryw a blasus.

www.bullionrum.com

Sanclêr Organic

Mae Sanclêr Organic yn cynhyrchu kefir/iogwrt a chaws ar fferm yng Ngorllewin Cymru.

www.sanclerorganic.co.uk

Sarah Bunton Chocolates

Ym Mynyddoedd Cambria, mae Sarah wedi bod yn cynhyrchu siocledi a chyffug sydd wedi ennill gwobrau yn ei gweithdy ers 2009. Mae Sarah yn defnyddio’r cynhwysion gorau, ac yn gwneud siocledi hardd â llaw yn fedrus, gan gyfuno blasau clasurol â’i chyffyrddiadau arbennig ei hun i greu canlyniadau blasus ac arloesol.

www.sarahbunton.co.uk

Seidr Gwynt y Ddraig

Cynhyrchydd Seidr mwyaf Cymru, sydd eleni’n dathlu 20 mlynedd o ddod â’i amrywiaeth o Seidr Cymreig o ansawdd arbennig i’w gwsmeriaid gwerthfawr.

www.gwyntcidershop.com

Siop Gacennau Gwen

Cacennau cartref o ansawdd uchel wedi eu gwneud gartref i’w harchebu gan Gwen Bulman-Rees sy’n gyfeillgar ac yn broffesiynol.

Snowdonia Cheese Co Ltd

Mae Snowdonia Cheese Company yn fusnes teuluol, a sefydlwyd yng Ngogledd Cymru yn 2001, ac mae’n cael ei ysbrydoliaeth o wyrddni ffrwythlon hardd Eryri yng Ngogledd Cymru. Fe ddechreuon nhw trwy ddefnyddio cynhwysion ffres i grefftio caws Cheddar a Red Leicester naturiol, o’r radd flaenaf a oedd yn cyfuno dyfnder blas neilltuol gyda gwead hufennog hudolus.

www.snowdoniacheese.co.uk

Spirit of Wales

Sefydlwyd yn 2021 gan dîm o ddistyllwyr angerddol, sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cynhwysion gorau, ysbrydoliaeth o dirweddau Cymru a dulliau distyllu traddodiadol i greu gwirodydd unigryw o ansawdd uchel sy’n crisialu calon Cymru.

www.spiritofwales.com

Taste of Persia

Busnes yn Nhrefynwy sy’n arbenigo ar fwydydd Persiaidd mewn marchnadoedd, digwyddiadau ac arlwyo preifat.

The Authentic Curry Company Ltd

Cyflenwyr cynnyrch Cymreig ar gyfer y gwasanaeth bwyd a manwerthu ers dros 25 mlynedd. Yn falch iawn o ddefnyddio cynnyrch Cymreig anhygoel yn eu cynnyrch a’u harddangos yn y Ffair Aeaf.

www.authenticcurry.co.uk

The Blaenafon Cheddar Co Ltd

Busnes teuluol sy’n cynhyrchu rhai o’r cawsiau sydd wedi ennill y mwyaf o wobrau yng Nghymru. Yn berffaith ar gyfer byrddau caws teuluol adeg y Nadolig neu i’w rhoi fel anrhegion i anwyliaid a ffrindiau.

The Dell Vineyard Ltd

Gwinllan fach deuluol yn Rhaglan, Sir Fynwy. Mae’n cynhyrchu gwinoedd llonydd a phefriog sydd wedi ennill gwobrau.

www.thedellvineyard.co.uk

The Fudge Foundry

Cynhyrchwyr cyffug â siocled o Wlad Belg sydd wedi ennill gwobrau lu mewn amrywiaeth o flasau crefftus unigryw. Fe’u gwneir mewn sypiau bach gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau.

www.thefudgefoundry.co.uk

The Gelateria

Mae’r Gelateria yn barlwr hufen iâ sy’n gweini gelato wedi’i wneud yn ffres sydd wedi ennill gwobrau.

www.thegelateria.co.uk

The Gower Gin Company Gŵyr

Distyllfa sydd wedi ennill achrediad SALSA a nifer o wobrau, sydd wedi’i lleoli ar Benrhyn Gŵyr. Mae’n cynhyrchu gin, fodca a vermouth o’r ansawdd uchaf ynghyd â choctels sy’n barod i’w hyfed.

www.thegowergincompany.wales

The Original Welsh Oggie Pie Co

Cynhyrchion wedi’u pobi a’u cynhyrchu yng Nghymru. Darperir cynhyrchion o ansawdd uchel gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a gwasanaeth da a ffyddlon, i gwsmeriaid ar draws y DU.

Trailhead Fine Foods Ltd

Byrbrydau cig eidion protein uchel wedi’u crefftio â llaw yn eu cegin eu hunain mewn tref fach yng Nghanolbarth Cymru! Ac mae wedi ennill gwobrau hefyd!

www.getjerky.wales

Trefaldwyn Cheese

Mae Trefaldwyn Cheese yn wneuthurwr caws bach teuluol sy’n defnyddio llaeth organig o fferm y teulu.

www.trefaldwyn-cheese.com

Tregroes Waffles

Does ‘na ddim byd tebyg i Waffl Tregroes a does unman fel eu becws. Gydag ysbrydoliaeth gan yr amgylchedd a’r bobl o’u cwmpas, maent yn defnyddio symffonïau o hud persawrus sy’n tynnu dŵr o’r dannedd i greu waffls y mae pobl o bedwar ban byd yn eu mwynhau.

www.tregroeswaffles.co.uk

Welsh Brew Tea / Paned Gymreig

Mae Welsh Brew Tea / Paned Gymreig wedi bod yn cyfuno te i’w hychwanegu at

ddŵr gwych Cymru ers 1989.

www.welshbrewtea.co.uk

Welsh Cottage Cakes

Mae gwreiddiau Welsh Cottage Cakes yn mynd yn ôl i gymuned wledig Gorllewin Cymru ac mae ei seiliau yn gadarn ar ryseitiau gwreiddiol a dulliau pobi traddodiadol, sy’n nodweddiadol o goginio ‘ffermdy’ flynyddoedd lawer yn ôl. Cwmni blaengar hefyd, sy’n parhau i fuddsoddi er mwyn datblygu cacennau a chyfuniadau blas newydd ac arloesol.

www.welshcottagecakes.co.uk

Welsh Homestead Smokery

Mae Welsh Homestead Smokery yn dŷ mygu sydd wedi ennill gwobrau. Mae’n cynhyrchu cyfuniadau blas anarferol wedi’u trwytho â blas ac arogl syml o fwg coed.

www.welshsmokery.co.uk

 

Welsh Lady Preserves

Mae Welsh Lady yn gwneud cyffeithiau melys a chondimentau sawrus sydd wedi ennill gwobrau – wedi’u gwneud â llaw a chariad, o’u cartref nhw i’ch cartref chi!

www.welshladypreserves.com

Wickedly Welsh Chocolate Company

Mae Wickedly Welsh Chocolate Company yn fusnes teuluol ac mae ei berchnogion Karen a Mark yn wirioneddol angerddol ynghylch popeth sy’n ymwneud â siocled.

www.wickedlywelsh.co.uk

A HOFFECH CHI WYBOD RHAGOR AM Y NEUADD FWYD?
LAURA ALEXANDER
Ymgynghorydd Stondinau Masnach y Neuadd Fwyd
Ffôn
07773384569