Ymgeisiwch am stondin masnach - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Stondinau Masnach yn y Ffair Aeaf

Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig nwyddau fel cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, pob math o nwyddau cartref a llawer mwy.

Cysylltwch

Cyflwynwch eich datganiad diddordeb cychwynnol ar gyfer Ffair Aeaf 2024 isod.

Arwainlyfr i Arddangoswyr

Cyn i chi Ymgeisio

Parthau Masnachu


Arddangos yn y Neuadd Fwyd

Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.

Cysylltwch

Os hoffech wneud cais am gyfle i arddangos eich cynnyrch ochr yn ochr â’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, cysylltwch ag Ymgynghorydd Stondin Fasnach y Neuadd Fwyd, Laura Alexander ar foodhall@rwas.co.uk neu ffoniwch 07773384569.