Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
19-20 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
24-27 Gorffennaf 2023.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
27-28 Tachwedd 2023.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn cynnig amrywiaeth enfawr o gyfleoedd masnachol i gwmnïau sy’n cynnig nwyddau fel cynnyrch amaethyddol, iechyd a harddwch, cyflenwadau anifeiliaid anwes, pob math o nwyddau cartref a llawer mwy.
I drafod arddangos yn y Ffair Aeaf, e-bostiwch Swyddog Stondinau Masnach, Simon ar simon@rwas.co.uk neu ffoniwch 01982 508095.
Mae’r Neuadd Fwyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn arddangos bwyd a gaiff ei dyfu, ei ddatblygu, ei bacio neu ei gynhyrchu yng Nghymru.
Os hoffech wneud cais am gyfle i arddangos eich cynnyrch ochr yn ochr â’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, llenwch y ffurflen gais isod a’i dychwelyd i foodhall@rwas.co.uk erbyn 6ed Hydref 2023.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y nodiadau canllaw cyn gwneud cais.