Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn wreiddiol fel Cymdeithas Amaethyddol Genedlaethol Cymru yn 1904. Cynhaliwyd y cyfarfod cyffredinol cyntaf o’r sylfaenwyr a’r cefnogwyr, a fynychwyd gan 20 ffigwr amlwg o Gymru, yn Ystafell Bwyllgora Deuddeg Tŷ’r Cyffredin yn Llundain. Fe wnaethant basio nifer o reolau ar gyfansoddiad y gymdeithas a dyfarnu mai’r amcanion fyddai gwella magu stoc ac annog amaethyddiaeth ledled Cymru.
Mae hi’n deyrnged i’r arloeswyr cynnar hynny, ac eraill a’u dilynodd, fod yr amcanion hyn wedi’u cyflawni. Mae da byw Cymru yn arwain y byd ac mae amaethyddiaeth yng Nghymru, drwy fedr ac ymdrech, wedi goroesi llawer o’r sialensau a wynebwyd gan y diwydiant ffermio yn y blynyddoedd canol, a bu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wrth graidd cynnydd amaethyddol yng Nghymru drwy’r holl amser hwnnw.
Heddiw, mae’r gymdeithas yn sefydliad cenedlaethol sy’n annwyl gan bobl trwy Gymru a thu hwnt, nid yn unig gan ffermwyr a’r gymuned wledig ond gan bobl o bob cefndir, y mae llawer ohonynt wedi dod i ystyried Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt eu blwyddyn.
Nid felly y bu hi bo amser. Brithwyd dechreuadau’r gymdeithas gan broblemau ac anghydfod ac weithiau hyd yn oed elyniaeth lwyr gan amryw o wrthwynebwyr a charfanau penderfynol a oedd â syniadau gwahanol, yr oeddynt yn teimlo’n gryf yn eu cylch, am lawer o faterion. Serch hynny, trechwyd y sgarmesau dechreuol hyn yn y pen draw a goroesodd a datblygodd y gymdeithas yn ystod ei blynyddoedd cychwynnol yn Aberystwyth, ble cynhaliwyd y sioe gyntaf ym mis Awst 1904 o dan lywyddiaeth Iarll Powys, ac yna drwy’i bodolaeth ymfudol yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf pan symudodd y sioe i 37 o wahanol leoliadau bob yn ail rhwng Gogledd a De Cymru.
Yn cael ei chanlyn yn aml gan anawsterau ariannol, a fyddai’n cael eu creu gan amlaf gan y gost o symud o un safle sioe i’r llall, nid tan yr ymgartrefodd y Sioe Fawr ar ei safle presennol yn Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, yn 1963, y dechreuodd pethau gymryd tro parhaol er gwell yn ariannol ac fel arall. Hyd yn oed wedyn roedd ei sefyllfa yn dal yn ansicr a bu’n rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd yn ystod y blynyddoedd cynnar yn Llanelwedd i gadw’r gymdeithas i fynd.
Denodd y sioe gyntaf yn Aberystwyth 442 o gynigion da byw. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1908, fe wnaeth 23 o drenau arbennig a oedd yn cynnwys 224 o wagenni gwartheg a cheffylau gyrraedd Aberystwyth ynghyd â 100 o gerbydau i deithwyr yn cludo ymwelwyr o bell ac agos i’r sioe.
Bellach, bydd oddeutu 8000 o gynigion da byw ac 20,000 o geir bob dydd ynghyd â channoedd o lorïau a threlars stoc yn cydgyfeirio at faes y sioe yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer yr achlysur pedwar diwrnod blynyddol sydd wedi tyfu i fod yn sioe amaethyddol fwyaf poblogaidd Prydain.
Mae llwyddiant Sioe Frenhinol Cymru wedi rhoi bod i ddau ddigwyddiad gwych arall – y Ffair Aeaf a sefydlwyd yn 1990, a’r Ŵyl Tyddyn a Gardd a gynhaliwyd ar faes y sioe am y tro cyntaf yn 2003; enw’r digwyddiad hwnnw erbyn hyn yw’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Mae’r ddau ddigwyddiad wedi tyfu’n gyflym o ran statws a phwysigrwydd ac maent ymhlith yr atyniadau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.
Heddiw, mae rôl Sioe Frenhinol Cymru ar ei gwedd gyfoes yn un gron a chyflawn. Yn ogystal â’i phrif swyddogaeth o arddangos goreuon da byw Cymru a’r bwyd a diod rhagorol a gynhyrchir yng Nghymru, mae’n cwmpasu rhychwant ehangach ffermio a bywyd gwledig ac yn llwyddo i bontio’r bwlch rhwng gwlad a thref. Mae’n darparu rhywbeth i ddiddori pawb drwy’i hamrywiaeth caleidosgopaidd o weithgareddau, sy’n cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, a rhaglen 12 awr o adloniant cyffrous sy’n parhau trwy gydol pob un o bedwar diwrnod y sioe.
Mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei fwynhau gan y miloedd o gystadleuwyr, arddangoswyr ac ymwelwyr a fydd yn mynychu’r sioe flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae hefyd yn datblygu’n lle pwysig i wneud busnes a thrafod gwleidyddiaeth. Bydd dwsinau o bwysigion a gwneuthurwyr polisi amlwg yn dod ynghyd yno, felly mae’r sioe yn cynnig llwyfan rhyngwladol i hwyluso trafodaethau sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru a’r economi wledig rhwng nifer o unigolion a sefydliadau dylanwadol iawn.