Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Bob blwyddyn, bydd gan y gymdeithas Sir Nawdd wahanol. Mae hyn yn tarddu o hanes cynnar y sioe, pan newidiai ei leoliad flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn symud o gwmpas yr hen siroedd yng Nghymru.
Ers symud i’n cartref parhaol yn Llanelwedd yn 1963, mae’r siroedd yn eu tro yn Sir Nawdd. Yn ystod eu blwyddyn benodol, bydd y Sir Nawdd yn penodi Llywydd a Llysgenhades y Gymdeithas, yn ogystal â chymryd cyfrifoldeb am godi arian a threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i hyrwyddo gwaith y gymdeithas a’r digwyddiadau.
Strwythur unigryw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol yw beth sy’n gwneud y gymdeithas yn wahanol i rai eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn cadw perchnogaeth o’r digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian yr holl siroedd ers 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, ac mae’r cyfan wedi’i fuddsoddi’n ôl i faes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchnogaeth o’n safle.
Eleni, dyma gyfle Ceredigion i fod yn Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
Mae dwsin o ddigwyddiadau eisoes wedi eu cynnal, ac mae ymdrechion codi arian y sir brysur bellach yn eu hanterth. Y flwyddyn nesaf, Ceredigion fydd ein Sir Nawdd. Cynhelir digwyddiad amaethyddol Ceredigion ar ddydd Iau 30 Mai 2024 ar Fferm Prifysgol Aberystwyth, Trawsgoed.
2025 Caernarfon
2026 Sir Frycheiniog
2027 Ynys Môn
2028 Maesyfed
2029 Gwent
2030 Meirionnydd
2031 Sir Gaerfyrddin
2032 Maldwyn
2033 Sir Benfro
2034 Clwyd
2035 Morgannwg
2036 Ceredigion