Ceredigion 2024 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Llywydd 2024 – Denley Jenkins

Fel Ffermwr sydd wedi byw ac wedi ffermio yng Ngheredigion erioed, pleser o’r mwyaf i mi yw cynrychioli fy sir yn ystod ei Blwyddyn Nawdd. Anrhydedd o’r mwyaf oedd cael fy newis yn Llywydd ar gyfer 2024.

Yn fy marn i, mae cael sir nawdd yn syniad arbennig o dda ac mae pob un o siroedd Cymru yn cael cyfle i gyfrannu yn ei thro. Mae hyn yn gyfle i gael pobl allan gyda’i gilydd ymhob un o’r ardaloedd, a chynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhywbeth at ddant pob un.

Cefais fy ngeni a fy magu yng nghalon Ceredigion, ym mhentref Mydroilyn. Credwch fi neu beidio, roeddwn i’n godro tua 100 o wartheg ar fferm yr aelwyd cyn i ni briodi ym mis Gorffennaf 1979.

Maen nhw’n dweud bod mudiad y CFfI yn fiwro ar gyfer priodasau ac roedd hyn yn sicr yn wir yn ein hachos ni. Brenda oedd Brenhines CFfI y Sir yn 1978 ac roeddwn i’n Gadeirydd y Sir yn 1977. Ac mae dyled y ddau ohonom yn fawr iawn i fudiad y CFfI.

Credaf yn gryf fod cefnogi’r sioeau lleol yn bwysig er mwyn creu safon benodol ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru, a chynnal y safon honno. A dyma lwyfan yw hon – y llwyfan orau!

Mae sioe Dyffryn Teifi yn agos iawn at fy nghalon ac mae’n braf nodi bod 3 o Lywyddion y Sioe Frenhinol wedi deillio o’r pwyllgor, sef y diweddar Mr Tom Evans, Troedyraur, yn 1995, Mr Seimon Thomas, Drysgolgoch, 2019. A minnau yn ffodus iawn i gael eu dilyn yn 2024.

Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod i’n aelod o’r pwyllgor cyntaf a wnaeth sefydlu’r Ffair Aeaf nôl yn 1989. Yn Ffair Aeaf 2022, bues i’n ffodus, ynghyd â Gwyn Edwards o Glwyd, i dderbyn rhodd yn gofnod am ein gwasanaeth i’r Ffair Aeaf dros y 30 mlynedd ddiwethaf.

Uchafbwynt bob blwyddyn i mi yw’r Ffair Aeaf ac mae’n braf ei gweld yn datblygu o flwyddyn i flwyddyn a bellach yn denu arddangoswyr o’r Alban ac Iwerddon. Mae dyfodol y Ffair yn edrych yn bositif iawn wrth i ni weld yr holl ieuenctid yn camu ymlaen i gystadlu ym mhrif gylchoedd pob adran.

Ni fyddai’r Ffair Aeaf mor llwyddiannus oni bai am arweinyddiaeth y Cadeiryddion ar hyd y blynyddoedd. Y diweddar Verney Pugh, y diweddar George Hughes, y diweddar Emyr Lewis ac yn bresennol o dan arweinyddiaeth gadarn Mr Alwyn Rees.

Buodd Brenda a minnau yn ffodus iawn i gael dathlu carreg filltir yn hanes y Gymdeithas yn Llundain gyda chynrychiolwyr Sioe Frenhinol Cymru.

Roedd y digwyddiad yn dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 120 mlwydd oed.

Cawsom brynhawn diddorol tu hwnt yn Ystafell Bwyllgora rhif 12 yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan yn clywed yr hanes am sut y dechreuodd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904 ac yn darllen amdano.

Mawr ddiolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am ei pharodrwydd i’n cefnogi gyda’n gwaith, ac am ei gwaith caled yn paratoi’r wybodaeth hanesyddol ar ein cyfer ni fel Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mewn unrhyw fusnes llwyddiannus, mae gwaith tîm yn hanfodol, ac rwy’n ddiolchgar yn dragywydd i fy nhîm personol i. Mae fy ngwraig, Brenda, ein plant, Teleri, Teifi a Tomos, a’u teuluoedd nhw wedi bod yn gefnogol iawn ac wrth law bob tro i fy helpu mewn unrhyw ffordd.

Hoffwn ddiolch i’r holl swyddogion ac aelodau yng Ngheredigion am yr hwyl a’r cyfeillgarwch yr ydyn ni wedi eu rhannu yn ystod y digwyddiadau codi arian ac, wrth gwrs, i’r rheiny yn Llanelwedd sydd wedi ein cynorthwyo ar hyd y ffordd. Mae’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli, Yr Athro Wynne Jones, a Chadeirydd y Cyngor, Nicola Davies, a’r holl aelodau o staff wedi bod yn gymorth diderfyn i ni oll.

Mae Brenda a minnau yn edrych ymlaen at eich gweld chi oll yn ystod digwyddiadau 2024, a diolchaf unwaith eto i fy ffrindiau yng Ngheredigion am yr anrhydedd mawr o gael fy newis fel eich Llywydd.

Denley Jenkins FRAgS

Llysgennad 2024 – Esyllt Griffiths

Yn gefnogwr brwd i’r Sioe, braint enfawr i mi yw cael fy ethol yn Llysgennad CAFC ym mlwyddyn nawdd Ceredigion.

Er fy mod erbyn hyn yn byw yn Llanwenog gyda fy ngŵr Llŷr a’m mab bach Osian, mae fy ngwreiddiau yn ddwfn yng ngogledd y sir, wedi fy magu ar fferm Pantlleinau gan fynychu’r ysgol gynradd yn Llangwyryfon. Mynychais ysgol Penweddig cyn graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Ers sawl blwyddyn bellach rwy’n gweithio i Menter a Busnes fel Cydlynydd Digwyddiadau Cyswllt Ffermio.

Mae gennyf lawer o atgofion melys o fynychu’r sioe’n flynyddol ers i mi gael fy ngeni, gan garafanio’n flynyddol gyda fy nheulu pan oeddwn i’n blentyn, yna gyda fy ffrindiau, a bellach gyda fy nheulu bach fy hun. Y tro diwethaf i Geredigion noddi’r Sioe yn 2010, roedd fy nau frawd, Dyfan a Rhodri, a minnau yn dathlu’n pen blwydd yn ddeunaw oed. Pa anrheg well allai fod i ni’r tripledi na derbyn aelodaeth Llywodraethwr Oes yn anrheg pen blwydd.

Dechreuodd fy niddordeb yng ngweithgareddau Ceredigion o’r Gymdeithas yn ôl yn 2010 pan ymunais â Phwyllgor Merched Sioe’r Cardis. Yn fuan wedyn, ymunais â Phwyllgor Ymgynghorol CAFC Ceredigion ac rwy’n parhau i fod yn aelod o’r pwyllgor hwnnw. Braf cael bod yn rhan o dîm gweithgar, brwdfrydig sy’n

cyd-weithio’n ddiwyd i godi arian ar draws y sir. Rwy’n gyd-ysgrifennydd Pwyllgor Codi Arian Canol y Sir, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Criw’r Cardis sy’n gyfrifol am nwyddau marchnata Sioe’r Cardis. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gwmni Ifor Williams am fenthyg y trelar i storio a chludo’r nwyddau i’r digwyddiadau amrywiol, ac i Cynnal y Cardi am y nwyddau marchnata, o’r gasebos i’r baneri amrywiol. Gwelwyd y trelar yn gwibio ar draws y Sir yn wythnosol, o’r noson Cneifio Cyflym a’r diwrnod Rasys Tractorau yng ngwaelod y sir, i’r Sioe Ffasiwn a’r Rali CFfI yng nghanol y sir, i Sioe Talybont a Chyngerdd Sioe’r Cardis yng ngogledd y sir. Yn bersonol, bu mynychu’r sioeau yn gyfle arbennig i mi hyrwyddo gwaith y gymdeithas, ac i werthfawrogi cyfraniad pawb sy’n gweithio’n ddiflino yn eu cymunedau i gadw’r sioeau bach i fynd. Bûm yn cystadlu, stiwardio a beirniadu mewn sawl sioe leol hefyd.

Ers sawl blwyddyn bellach, rwyf wedi bod yn aelod o Bwyllgor Cenedlaethau’r Dyfodol y Gymdeithas, gyda dyfodol y Gymdeithas a’i digwyddiadau yn ganolog i drafodaethau’r Pwyllgor, gyda’n cyfraniadau yn bwydo i mewn i drafodaethau Bwrdd y Gymdeithas. Rwyf hefyd yn aelod o Bwyllgor Crefftau Cartref y Sioe, wedi stiwardio a chystadlu yn rheolaidd yn yr adran hon. Teimlaf i hi’n fraint cael cynrychioli Ceredigion ar Fwrdd y Gymdeithas, ac fel aelod ifanc a newydd o’r pwyllgor, rwy’n edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf.

Bûm yn ffodus iawn i gael fy newis i’r Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yn 2022, a rhaid diolch i Sir Nawdd Morgannwg am y weledigaeth hon. Bu’n rhaglen lawn o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, bu’n gyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant, ac mae wedi rhoi sail berffaith i mi ar gyfer fy mlwyddyn.

Bu’r cyfleoedd a’r profiadau tra oeddwn yn aelod o’r CFfI yn amhrisiadwy i mi. Yn ifanc iawn, yn ogystal â’r ochr gymdeithasol a chystadleuol, sylweddolais fy mod yn

hoffi’r ochr ddemocrataidd, a chefais gyfle ar lefel clwb, Sir a Chymru i gyfrannu at hyn drwy fod yn aelod ar amryw o bwyllgorau. Bu Fforwm Ieuenctid y Sir yn gyfle arbennig i ddysgu sut i gadeirio cyfarfod, ac ar ddiwedd fy nghyfnod fel aelod, bûm yn Gadeirydd Sir Ceredigion am ddwy flynedd. Braint arall oedd cael bod yn Frenhines y Sir. A minnau’n berson cymdeithasol, manteisiais ar bob cyfle i deithio drwy’r rhaglen teithiau tramor, o’r Alban i Ganada, a thra oeddwn yn Gadeirydd y Pwyllgor Rhyngwladol ar lefel Cymru, braf oedd croesawu aelodau tramor a’u gwesteion yn ystod wythnos y Sioe yn Llanelwedd. Rwy’n parhau i fod yn cefnogi’r CFfI, yn aelod cyswllt ac yn arweinydd ar Glwb Llangwyryfon.

Mae’r prosiect a ddewisais ar gyfer fy mlwyddyn, sef ‘Cyfraniad y Sioe i Les Iechyd Meddwl pobl cefn gwlad’ yn berthnasol iawn wrth i ni ymateb i’r ymgynghoriad i ddiwygio’r flwyddyn ysgol. Daeth yn amlwg beth mae’r Sioe yn ei olygu i nifer o bobl boed hwy’n ymwelwyr, aelodau, cystadleuwyr, stiwardiaid, stondinwyr neu’n rhanddeiliaid. Roeddwn yn teimlo fod angen codi ymwybyddiaeth o gyfraniad y Gymdeithas at ddiwallu’r anghenion hyn a chodi ymwybyddiaeth a chydweithio hefyd gyda phartneriaid megis DPJ, Tir Dewi a RABI. Cafwyd llawer o hwyl yn cyhoeddi’r calendr Noeth gyda chanran o’r elw yn mynd i’r elusennau hyn.

Fel darpar lysgennad cefais y cyfle i gyfarfod cymaint o bobl weithgar ac ysbrydoledig. Mae wedi gwneud imi sylweddoli faint o waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni ym mhob un o’r digwyddiadau.

Edrychaf ymlaen at hyrwyddo a chodi proffil y Gymdeithas a chyfarfod gyda chi yn yr Ŵyl Wanwyn, Y Sioe a’r Ffair Aeaf, gyda diolch i Jacob am fy rhoi ar ben ffordd a bod yn gwmni gwych y llynedd.

Esyllt Ellis Griffiths