Ymgeiswyr wedi’u rhoi ar restr fer ar gyfer Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2019 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel gwobr bwysicaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae cystadlu brwd am Wobr Goffa Syr Bryner Jones flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gyda chystadleuwyr eithriadol o 10 sir ar draws Cymru, mae’r beirniaid wedi bod â gorchwyl anodd yn cwtogi’r nifer i lawr i bedwar ymgeisydd teilwng iawn. Unwaith eto, bydd enillydd terfynol gwobr chwenychedig eleni’n cael ei gadw ynghudd tan Sioe Frenhinol Cymru, ble bydd y cystadleuwyr a roed ar y rhestr fer a’u teuluoedd yn mynychu cyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe i glywed yr enillydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 50 mlynedd, roedd yn Gomisiynydd Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymreig y Weinyddiaeth Amaeth. Roedd yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 1954, blwyddyn jiwbilî aur y gymdeithas.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i dyfarnu’n flynyddol i rywun o faes gwahanol o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o lwyddiant yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn sydd wedi creu busnes amaethyddol dichonadwy trwy denantiaeth gychwynnol, tenantiaeth busnes fferm (FBT), cytundeb ffermio cyfran neu ecwiti ar y cyd.

“Diolchwn i’r 10 unigolyn eithriadol am rannu eu siwrnai ffermio gyda ni.” meddai’r beirniaid, Martin Evans ARAgS ac Wynne Jones OBE FRAgS.

“Roedd sefyllfaoedd yr ymgeiswyr unigol yn amrywiol iawn, roedd hyd yr amser y buont yn eu busnesau presennol yn gwahaniaethu’n sylweddol ac roedd angen inni gydbwyso cyrhaeddiad â photensial. Roedd amrywiaeth eang o fentrau’n amlwg.

“Fel y cyfryw, er yn cael y gorchwyl yn dra phleserus ac addysgiadol cawsom ein herio i ddewis rhestr fer gyfryw oedd ansawdd diamheuol y busnesau y bu inni ymweld â nhw. Rydym yn llongyfarch pob un o’r ymgeiswyr yn gynnes am eu cynnydd hyd yma a byddwn yn dilyn y datblygiadau gyda diddordeb.”

Yn nhrefn yr wyddor, dyma’r pedwar ymgeisydd a roed ar y rhestr fer:


Mr Richard Anthony FRAgS & Mrs Lynwen Anthony, Tythesgton, Pen-y-bont ar Ogwr

Yn 1996 daeth Richard yn ymwybodol nad oedd y busnes teuluol yr oedd yn rhan ohono yn ddigon mawr i ddarparu bywoliaeth i bob un o’r partneriaid. Gan gymryd y cam cyntaf, aeth at berchnogion ystâd gyfagos fawr i rentu ond y tir glas ar fferm âr, ynghyd â rhywfaint o adeiladau a thŷ bychan yn Tythegston Farm. Fel hyn yn 1997 y dechreuodd Richard a’i wraig Lynwen eu busnes fferm eu hunain ar denantiaeth busnes fferm (FBT) gychwynnol o dair blynedd ar 110 erw.

Y cyfalaf yr oeddynt yn dod ag ef i mewn oedd 250 o ddefaid (eu cyfran hwy o’r busnes fferm deuluol gwreiddiol) a 12 mis yn ddiweddarach daeth 100 erw arall o dir glas ar gael trwy drefniant tebyg. Roeddynt yn gweithredu menter ddefaid a busnes contractio amaethyddol, ac yn cynhyrchu gwywair. Roeddynt yn ffermio seibiau glaswellt ar gylchdro âr pobl eraill, gan fabwysiadu cylchdro rhygwellt Eidalaidd dwy flynedd/gwenith gaeaf blwyddyn er mwyn cynyddu cynnwys deunydd organig y pridd. Erbyn yr adeg honno roedd y mentrau defaid i fyny i 600 o famogiaid ac roeddynt  yn gwerthu 100,000 o fyrnau o silwair, gwywair a gwellt.

Cafodd gallu hwsmonaeth a gallu technegol Richard eu cydnabod gan eu landlordiaid ac yn 2002 fe wnaethant lunio cytundeb ffermio contract ar 570 erw o dir âr yn Tythegston. Yn yr un flwyddyn cododd cyfle i gymryd ystâd arall o 775 erw o dir âr ar denantiaeth busnes fferm 10 mlynedd. Ar ddiwedd 2002 roedd y busnes yn cynnwys 1600 erw o dir. Roedd y twf hwn yn gam arwyddocaol a heriol iawn yn eu datblygiad, gan felly osod eu nod yn yr ychydig flynyddoedd nesaf i atgyfnerthu’r twf hwn yn system ffermio a busnes gynaliadwy. Yn 2010 sicrhawyd 350 erw ychwanegol ac yn 2013 cymerwyd 650 erw arall, y naill a’r llall ar denantiaethau busnes fferm. Mae hyn, ynghyd â blociau pellach a gymerwyd yn ddiweddarach wedi arwain at fusnes sy’n ffermio 3000 erw ar hyn o bryd.

Gwnaeth hwsmonaeth âr ac ymagwedd dechnegol Richard argraff fawr ar y beirniaid. Mae wedi ymrwymo i reoli pridd da, gan fabwysiadu cylchdro cnydau chwe blynedd arloesol sy’n cynnwys rêp had olew, gwenith gaeaf, rhyg Westerwolds ac indrawn. Fe wnaeth y mamogiaid a hyd at 3000 o ŵyn cadw ychwanegu at ffrwythlondeb a chynnydd yn neunydd organig y pridd. Mae hyn wedi arwain at well cynhwysedd dal lleithder a strwythur pridd gan wneud y pridd yn fwy tramwyadwy o’r herwydd, gan alluogi llai o weithgareddau trin y tir, a llai o lafur, tanwydd a chostau pŵer. Roedd angen llawer o waith unioni ar y priddoedd ac ar yr ystadau fferm cyffredinol.

Mae hi’n bwysig pwysleisio bod Richard a Lynwen Anthony yn ffermwyr da iawn ac maent wedi’u cydnabod felly gan eu cymheiriaid. Yn amlwg, mae tirfeddianwyr lleol wedi sylwi ar eu gallu i wella’r tir, i fabwysiadu cyfleoedd amaeth-amgylchedd gwell ac adnewyddu’r strwythurau ffisegol ar y tir dan denantiaeth. Chwiliodd landlordiaid amdanynt gan ddymuno manteisio ar eu harbenigedd a’u galluoedd ffermio. Yn werth sylwi arno fu parodrwydd y landlordiaid i ymestyn telerau’r tenantiaethau busnes fferm – ffurf ar gydnabyddiaeth a enillwyd yn amlwg.

Mae’r fferm yn cynnal lleiniau treialu amrywogaethau gwenith a barlys yr NIAB a lleiniau rêp had olew a gwenith i’r cwmni masnachol Agrii. Mae hyn yn golygu bod Richard yn gallu sylwi’n uniongyrchol ar yr amrywogaethau newydd addawol a’r cynhyrchion diogelu planhigion diweddaraf sydd ar waith. Maent yn agor y ffermydd hefyd i gyd-ffermwyr âr wrth gynnal diwrnodau agored i ymweld â’r lleiniau treialu.

Mae’r Richard a Lynwen yn ofalus iawn yn eu dewis o beiriannau fferm ac maen nhw’n mabwysiadu’n ewyllysgar y technolegau diweddaraf o ran systemau traffig rheoledig a mapio cynnyrch a maethynnau’r fferm.

Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys cytundeb i gyflenwi gwaith treulio anaerobig cyfagos â silwair indrawn. Mae hyn yn cynnwys derbyn hyd at 90,000 metr ciwbig o weddillion treuliad anaerobig i’w chwalu fel maethyn ar y tir âr. Mae hyn wedi creu sialensiau o ran storio a hefyd o ran taenu’r gweddillion treuliad anaerobig hylifol. Fe wnaeth y cynnydd hyd yn hyn mewn ymateb i’r sialensiau hyn argraff ar y beirniaid.

Maent hefyd wedi gosod uned biomas (1 megawat) a boeler gwres a phŵer cyfunedig (55 cilowat), y mae’i wres yn sychu’r ydau, sglodion coed a logiau a’r pŵer yn cynhyrchu trydan.

Roedd pryniadau tir ar y gweill pan oedd y beirniaid yn ymweld. Dychwelodd eu mab David i ymuno â busnes y fferm ar ôl graddio ac mae’r teulu’n edrych yn ffurfiol ar gynllunio ar gyfer olyniaeth at y dyfodol. Mae Richard wedi arwain datblygiad busnes ffermio âr a phorthiant amrywiol ac integredig cynaliadwy, effeithlon a phroffidiol.


Mr Sam Carey, Llanfor, Y Bala

Mae Sam yn hanu o fferm laeth yng Ngogledd Sir Benfro. Ar ôl ysgol, mynychodd Goleg Ceredigion cyn treulio pedair blynedd ym Mhrifysgol Harper Adams, gan raddio yn 2011. Ar gyfer ei ryng-flwyddyn hyfforddi bu’n gweithio fel cowmon amser llawn at fferm laeth 600 o fuchod yn Swydd Rhydychen. Ar ôl graddio bu’n gweithio ar fferm laeth fawr yn Arizona UDA ac yna ar fferm ddefaid a bîff fawr yn Seland Newydd. Atgyfnerthodd y profiadau hyn ei uchelgais a chadarnhau ei ddiddordeb mewn buchod llaeth.

Nid oedd y cyfle i ddychwelyd i’r fferm gartref yn opsiwn. Wedi’i ysbrydoli gan ei deithiau, cysylltodd Sam â nifer o ffermwyr dylanwadol a oedd yn gweithredu systemau cynhyrchu llaeth cost isel wedi’u seilio ar laswellt. Un o’r rhain oedd Rhys Williams, a oedd yn gweithredu menter ar y cyd gyda’r ffermwr/tirfeddiannwr, David Wynne Finch. Sicrhaodd swydd fel Rheolwr Cynorthwyol Padog Farms ym Mhentrefoelas yn 2013. Roedd yr uned yn rhedeg 430 o fuchod llaeth croesfrid yn lloia yn y gwanwyn, wedi’i seilio ar wneud y gorau o ddefnydd glaswellt, wedi’i gyfuno a rheoli costau yn llym. Ar yr un pryd, sefydlodd Sam ei gwmni ei hun, Milkwell Ltd., sy’n darparu gwasanaeth rheoli buchesi a phrydlesu heffrod. Fe wnaeth hyn ei alluogi i gynyddu ecwiti tuag at ei nod o ymuno â menter ar y cyd.

Yn ystod y ddwy flynedd yr oedd yn Padog Farms, profodd Sam ei hun yn stocmon a rheolwr tir glas tra galluog. Sylwyd ar ei botensial gan ei gyflogwyr ac mae yntau’n cydnabod eu cefnogaeth a’u mentoriaeth yn llawn.

Yn 2015 cododd cyfle newydd – roedd y teulu Price o Ystad y Rhiwlas ger Y Bala yn bwriadu sefydlu uned laeth, gyda chryn fuddsoddiad. Roedd y buddsoddiad yn cynnwys parlwr cylchdro, adeiladau ar gyfer y buchod, storfa slyri a sefydlu lonydd fferm a chyflenwad dŵr a system padogau i gael at y llwyfan pori. Roedd Sam yn gallu dod â’r cyllid i brynu cyfran o’r 500 o fuchod i’r bartneriaeth. Ei gynilion ei hun, gydag ecwiti o Milkwell Ltd, ynghyd â benthyciadau banc pellach, oedd y cyllid hwnnw. Rhoddodd pobl eu ffydd yn Sam trwy weithredu fel gwarantwyr i’r benthyciadau.

Mae’r busnes partneriaeth presennol yn ymestyn i 650 erw yn cario 500 o fuchod, 170 o loi benyw a 170 o heffrod yn gofyn tarw. Gwerthir heffrod sydd dros ben i greu mwy o ecwiti. Mae Sam yn cyflogi dau o bobl ynghyd â rhai godrwyr daliad achlysurol. Rhoddodd Sam wybod inni fod ei ffocws ar fuchod, glaswellt, pobl a chyllid. Gwnaed argraff fawr arnom gan yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd inni, a oedd yn cadarnhau bod yma fferm laeth wedi’i seilio ar laswellt yn cael ei rhedeg yn dda iawn.

Cyflenwyd y beirniaid â gwybodaeth a ffigurau manwl yn ymwneud â chynhyrchiant glaswellt, cynnyrch soledau llaeth, defnydd bwydydd, ffrwythlondeb y fuches a data iechyd, adroddiadau statws pridd a dangosyddion perfformiad ariannol dros bedair blynedd o weithredu, ynghyd â thargedau ar gyfer y flwyddyn gynhyrchu bresennol. Mae gwybodaeth o’r fath yn cael ei diweddaru’n rheolaidd i alluogi i addasiadau rheoli gael eu gwneud gan anelu at welliant cyson yn y system. Roedd yr holl ddata’n cael ei rannu â staff, a oedd yn dra hyddysg. Mae Sam yn rhoi pwys mawr ar reolaeth pobl effeithiol. Ar hyn o bryd mae Sam yn rhydd o ddyled, ac ar ben hynny, mae wedi creu ecwiti sylweddol y mae’n amcangyfrif ei fod yn compowndio ar gyfradd drawiadol iawn.

Ar ei siwrnai datblygu busnes mae Sam wedi manteisio ar lawer o gyfleoedd i astudio, teithio a chyfarfod dylanwadau allweddol y diwydiant gartref a thramor. Roedd hyn yn cynnwys bwrsari teithio Richard John i ailymweld â Seland Newydd. Mae wedi derbyn nifer o wobrau’r diwydiant hefyd, sy’n dystiolaeth glir o barch a chydnabyddiaeth cymheiriaid. Mae’n feddyliwr strategol a threiddgar ac yn gwneud i bethau ddigwydd.

Mae’r trefniant presennol yn gweithredu ar ddeiliadaeth amser gyfyngedig, a ’does dim amheuaeth y bydd arddull rheoli Sam, sy’n cael ei yrru gan ganlyniadau, yn fanteisiol iddo yn y dyfodol. Ei uchelgais yn y dyfodol yw dyblygu ei drefniadau presennol ac o bosibl gweithredu mentrau lluosog gan ddefnyddio’i fodel busnes llwyddiannus presennol. Yn bwysig mae Sam yn gweld hyn fel cyfle iddo gyflogi a mentora pobl ifanc, gan roi cyfle iddynt ddatblygu cyfle busnes ffermio. Mae perchenogaeth tai a thir yn opsiwn hefyd i atgyfnerthu ei ecwiti.

Mae gallu Sam, wedi’i gyfuno â’i egni a’i uchelgais yn nodedig ac yn heintus. Mae o’n llwyddo mewn amgylchedd busnes cystadleuol iawn ac mae wedi cychwyn yn llwyddiannus ar lwybr twf serth. Nid oes gan y beirniaid unrhyw amheuaeth y byddai tirfeddianwyr eraill yn dymuno harneisio arbenigedd rheolaethol Sam i fantais y naill a’r llall.


Mr Dylan Harries & Mrs Hannah Harries, Tyddyn yr Eglwys, Clydau, Llanfyrnach

Dechreuodd Dylan, nad oedd ganddo ddim cysylltiad uniongyrchol blaenorol â ffermio llaeth, weithio ar fferm laeth leol tra oedd yn dal yn fachgen ysgol yn Ysgol Crymych. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed a bu’n gweithio i ddechrau am flwyddyn ar fferm laeth organig leol. Dilynwyd hyn gan saith mlynedd yn gweithio ar fferm laeth fawr arall gyda’r teulu Thomas yn Drysgol Goch, Llanfyrnach. Yma roedd yn ffodus o weithio o fewn uned laeth a oedd yn cael ei rhedeg yn dda iawn, gan weithredu blociau yn lloia yn yr hydref a’r gwanwyn wedi’i seilio ar system rheoli tir glas o’r safon uchaf. Yn ystod yr amser hwn, datblygodd Dylan ddiddordeb gwirioneddol ac uchelgais gyrfa i redeg menter laeth cost isel wedi’i seilio ar laswellt. Crisialwyd yr uchelgais hwn yn llawn pan deithiodd i Seland Newydd am flwyddyn pryd y bu’n gweithio ar nifer o ffermydd llaeth. Ar ôl iddo ddychwelyd i Gymru, cyfarfu Dylan â Hannah (nad oedd ganddi ddim cysylltiad blaenorol â ffermio) ac fe wnaethant ddechrau ymgeisio am denantiaethau ffermydd cyngor yng Nghymru a Lloegr.

Yn 2013, roedd tendr yn cylchredeg ar gyfer menter ar y cyd gyda ffermwr llaeth/dyn busnes llwyddiannus, Kim Petty, yn Llanfyrnach yn Sir Benfro. Proses dendro gystadleuol oedd hon gyda pherchennog y fferm yn pwysleisio ei fod yn chwilio am gwpl ifanc i ymgymryd â’r fenter ar y cyd. Yn dilyn cyfnod o 12 mis pryd y bu’r ddwy ochr yn gweithio i ddod i adnabod ei gilydd, cychwynnwyd menter ar y cyd ffurfiol. Yn amlwg fe wnaeth Dylan a Hannah argraff.

Ar y cychwyn, roedd y fferm yn cynnwys 480 erw yn cario 350 o fuchod llaeth gyda stoc ifanc cyfatebol ac roedd wedi’i sefydlu ar gyfer system lloia bloc yn y gwanwyn wedi’i seilio ar laswellt. Dechreuodd Dylan a Hannah gyda £10,000 gan gyfrannu pŵer a llafur i’r busnes. Y ddealltwriaeth ar y cychwyn oedd y byddai’r tirfeddiannwr yn berchen ar y 350 fuwch gyntaf ac y byddai unrhyw ehangiad yn ychwanegol at hyn yn dod yn eiddo i Dylan a Hannah. Dyma oedd y modd yn ôl ba un yr oeddynt i gynyddu eu hecwiti. Mae’r busnes yn cynnwys tri chwmni, sef cwmni’r perchennog, cwmni Dylan a Hannah a chwmni menter ar y cyd. Heb fynd i fanylion, mae yna ddealltwriaeth glir o’r cyfraniadau i’r busnes a siariau’r elw.

Mae Dylan a Hannah wedi profi eu hunain yn rheolwyr tir glas a buches laeth eithriadol o lwyddiannus ac o’r cychwyn bu i’r fenter ar y cyd ffynnu. Yn amlwg roedd eu harbenigedd rheolaethol yn cael ei werthfawrogi gan y perchennog, Kim Petty, a allai weld eu bod yn alluog i greu arian dros ben i ddarparu elw da ar y cyfalaf oedd wedi’i fuddsoddi.

Serch hynny, daeth yn amlwg i bawb yn fuan ei bod yn rhaid iddynt gynyddu’r allbwn i gyflawni anghenion ariannol y perchnogion ac i’w galluogi i gynyddu eu siariau ecwiti. Cynigiodd Dylan a Hannah gynllun busnes i’r perchennog i gynyddu maint y fuches i 550 yr un pryd â chynnal cost cynhyrchu isel a galluogi cynhyrchu mwy o elw i’r ddwy ochr. Roedd y cynnig yn cynnwys lagŵn slyri newydd, cladd silwair hunan-fwydo, sied 300 ciwbigl, lle i loia y tu allan a pharlwr saethben 50/100 newydd. Fe wnaeth parodrwydd y perchnogion i ymrwymo i’r gwariant hwn argyhoeddi’r beirniaid fod Dylan a Hannah yn dîm medrus iawn sy’n gallu cyflawni’r cyfraddau elw cynlluniedig ar y buddsoddiad.

Ers cychwyn y fenter ar y cyd, gwnaed cryn fuddsoddiad mewn gwella’r rheolaeth tir glas, yn cynnwys lonydd buchod a chyflenwi dŵr. O ran cefndir, mae hi’n bwysig nodi fod pris llaeth yn 2015 mor isel â 14c y litr. Gwnaeth hyn hwy’n dra ymwybodol o’r angen am reolaeth costau llym a’r angen i reoli risg. Cânt eu poeni gan TB yn yr ardal. Mae’r arwynebedd sy’n cael ei ffermio bellach yn 720 erw, y mae 410 erw ohono’n darparu’r llwyfan pori i 560 o fuchod croesfrid gan mwyaf ac mae Dylan a Hannah yn cyflogi’r hyn sy’n cyfateb i 2.5 o unedau llafur. Yn 2018 cytunodd pawb i ymestyn y trefniant am bum mlynedd arall.

Nododd Dylan rai gwersi pwysig i’w dysgu yn ystod datblygiad y berthynas, megis creu model sy’n gweithio i’r ffermwr-berchennog ac i’r contractwr, pwysigrwydd rheoli pobl a’r gallu i weithredu busnes proffidiol yr un pryd â chadw cymaint o arian ag sy’n bosibl. Nododd hefyd bwysigrwydd sefydlu perthynas dda â chymdogion gan y gallent fod yn ffynhonnell mwy o gyfleoedd a chyfleoedd yn y dyfodol.

Mae Dylan a Hannah wedi canolbwyntio ar ffrwythlondeb pridd a gwella tir glas ac wedi ail-hadu 60% o’r tir a chynyddu twf glaswellt o 9.2 tunnell i 14.5 tunnell o ddeunydd sych yr hectar.  Roedd safon rheoli’r fuches laeth groesfrid a’r stoc ifanc o radd uchel.  Roeddynt yn rhoi sylw fforensig i gadw data ffisegol ac ariannol. Cyflenwyd y beirniaid â gwybodaeth ffisegol ac ariannol fanwl am y pedair blynedd, ynghyd â chyllidebau manwl ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

Mae Dylan a Hannah yn rhan o grŵp trafodaeth sy’n rhannu gwybodaeth i ddarparu meincnodi gwrthrychol. Mae hi’n briodol ychwanegu bod y Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwriaethol (AHDB) yn ystyried gweithio gyda hwy fel un o dair o ffermydd meincnodi lefel uchel yng Nghymru. Caiff pob cyfle technegol ac arloesol ei asesu a’i groesawu i ddarparu gwelliant cyson. Roeddynt yn glir iawn ynghylch eu nodau tymor byr, canolig a hir, er enghraifft ymhen 10 mlynedd pan fyddant ill dau’n 35 mlwydd oed maent yn anelu am berchenogaeth fferm. Maent yn cronni ecwiti ar gyfradd drawiadol ar ôl sefydlu busnes fferm laeth effeithiol iawn.

Maent yn hawlio parch eu partner busnes ac mae meddwl mawr ohonynt ymhlith eu cymheiriaid fel y gweithredwyr gorau yn eu maes. Maent yn gwpl gweithgar realistig mewn maes cystadleuol iawn ac yn haeddu llwyddiant.


Mr Matthew Jackson, Tudweiliog, Pwllheli

Mae Matthew Jackson yn dod o deulu heb fod yn amaethyddol, o Fanceinion yn wreiddiol. Eginodd ei ddiddordeb mewn ffermio tra oedd ei deulu’n treulio gwyliau ym Mhen Llŷn. Gadawodd ysgol yn 16 oed a dechreuodd weithio ar ffermydd ym Mhenllyn. Yn 17 oed, teithiodd i Seland Newydd gan gneifio defaid am bedwar mis. Ar ôl dychwelyd bu iddo gyfarfod â Rhys Williams, a oedd yn nhrydedd flwyddyn menter ar y cyd gyda David Wynne Finch yng Nghefn Amlwch. Erbyn hyn roedd wedi cyfarfod â’i bartner Mari o Benllyn hefyd.

Er mwyn sicrhau swydd yn gweithio gyda’r fuches laeth fawr yma, teithiodd yn ôl i Seland Newydd a threuliodd chwe mis yn godro buchod llaeth. Bu’n gweithio i Rhys Williams a David Wynne Finch am saith mlynedd yn rheoli mwy na 1000 o fuchod ar system loia bloc yn y gwanwyn wedi’i seilio ar laswellt. Ar yr un pryd, dechreuodd brynu lloi benyw o fuchod llaeth a rhentu pocedi o dir yn yr ardal, nes ei fod yn y diwedd yn berchen ar dros 200 o heffrod, yr oedd yn prydlesu rhai ohonynt i ffermydd llaeth lleol.

Yn bwysig, roedd wedi dod o hyd i fodel ariannu da iawn ar gyfer prydlesu’i heffrod llaeth yn Seland Newydd. Erbyn yr adeg yma roedd Rhys Williams wedi symud ymlaen i sefydlu busnes llaeth arall ac roedd Matthew bellach yn dal swydd y Rheolwr yng Nghefn Amlwch. Yn ystod y cyfnod hwn cafodd egni Matthew a’i barodrwydd i ddatblygu lefelau uchel o sgiliau rheoli buchesi llaeth a thir glas, yn cynnwys cydnabod pwysigrwydd cadw manylion manwl o’r holl wybodaeth ffisegol ac ariannol, ei gydnabod gan ei gyflogwyr a’i gymheiriaid.

Erbyn yr adeg yma roedd Matthew wedi cronni ecwiti sylweddol ac roedd wedi archwilio gyda’i fanc faint o arian y gallai’i fenthyg. Yn 2015, cododd y cyfle i ymuno â menter ar y cyd ar Fferm Penllech gyda David Wynne Finch. Fferm 220 erw tir glas i gyd oedd hon ac roedd y cytundeb am 10 mlynedd. Roedd Matthew yn gallu dod â’r hyn sy’n cyfateb i 300 o fuchod llaeth, ei lafur a’i arbenigedd rheoli i’r bartneriaeth. Mae cyfartaledd niferoedd y buchod yn 430 ar hyn o bryd gyda heffrod yn cael eu magu ar gontract oddi ar y fferm er mwyn mwyhau niferoedd y buchod sydd ar gael. Caiff unrhyw ornifer o heffrod eu magu i’w gwerthu hefyd.

Mae Matthew yn cyflogi dau o bobl ynghyd â rhywfaint o help achlysurol ar yr uned. Mae rheolaeth tir glas o ansawdd uchel a hwsmonaeth stoc medrus iawn, wedi’u cyfuno â sgiliau rheolaethol rhagorol wedi arwain at fusnes sy’n cynhyrchu gwarged iach iawn, sy’n cael ei rannu rhwng y partneriaid yn y fenter ar y cyd. Cyflenwyd y beirniaid â chofnodion manwl pob agwedd ar y busnes am y pedair blynedd ddiwethaf gyda chyllidebau ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae’r ecwiti y mae wedi’i gronni dros y blynyddoedd yn glodwiw iawn hefyd.

Yn ogystal â chynyddu ecwiti mewn stoc, mae Matthew wedi prynu eiddo lleol hefyd er mwyn darparu sicrhad cronfeydd ariannol. Yn 2018 dechreuodd Matthew ystyried o ddifrif y cam nesaf yn ei gynllun, sef prynu tir a dyblygu ei fodel busnes llaeth glaswellt llwyddiannus. Wrth gychwyn prynu fferm yn ne Cymru, ymunodd â menter ar y cyd arall gyda ffermwr llaeth o Swydd Stafford ac yn y pen draw prynwyd dwy fferm.

Adeg ymweliad y beirniaid, roedd Matthew yn gweithio’n galed iawn yn sefydlu’r ddwy uned yma yr un pryd â rheoli’i ymrwymiadau presennol. Trwy gyd-ddigwyddiad mae’r ddwy fferm newydd yn 185 erw gyda chynlluniau i redeg 300 o fuchod ar y ddwy uned gan gyflogi godrwr cyfran ar bob uned. Roedd angen cryn dipyn o fuddsoddiad ar y ffermydd hyn o ran cyfleusterau godro, adeiladau a sefydlu padogau tir glas gyda llwybrau buchod ar gyfer mynediad a chyflenwad dŵr. Roedd angen cryn lawer o waith gwella tir glas hefyd.

Ar hyn o bryd mae Matthew wedi ymgymryd â cham mawr iawn yn ei ddatblygiad a oedd yn golygu symiau sylweddol o fenthyca gan ei fanc. Mae wedi gwneud hyn yn seiliedig ar hanes gyrfa brofedig a pharatoi cynlluniau busnes cadarn y craffwyd arnynt yn drylwyr.

Mae Matthew yn ddyn ifanc go arbennig sy’n gosod nodau heriol iawn iddo’i hun. Mae’r hyn y mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn, o fewn graddfa amser cymharol fer i’w edmygu a’i barchu.  Mae’n feistr llwyr ar ei waith a ’dyw hi ddim yn syndod ei fod yn ddyn ifanc a galw amdano i siarad ar lwyfannau ffermwyr yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae yn wir yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl i ffermwyr ifanc a fyddai am efelychu ei lwybr at gynnydd. Mae’n cymryd pob cyfle i deithio ac yntau wedi bod yn UDA a Seland Newydd sawl tro, unwaith ar fwrsari teithio Richard John. Yn ogystal mae wedi mynychu cwrs creu cyfoeth yn cael ei redeg gan entrepreneuriaid/hwyluswyr adnabyddus o Gymru ac Iwerddon. Mae’n wir weithiwr proffesiynol sy’n paratoi’n drylwyr ac yn rhoi sylw tra manwl i fanylion er mwyn datblygu’i fusnes.  Fe wnaeth yr hyn a welsant ac a glywsant argraff dda iawn ar y beirniaid ar ôl iddynt gael eu cyflenwi â ffigurau a chostiadau manwl.


Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi pan gyflwynir gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe, dydd Llun 22 Gorffennaf 2019, am 2.30 y prynhawn.