Harry’n rhoi’r gorau iddi fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe ar ôl 25 mlynedd - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

I lawer, Mr Harry Fetherstonhaugh yw’r prif ffigwr y tu ôl i lwyddiant Sioe Frenhinol Cymru. Ond ar ôl 25 mlynedd mae Harry i fod i ymddeol fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe ar ddiwedd 2019, gan wneud 100fed Sioe Frenhinol Cymru yr un olaf iddo yn y swydd hon.

Am chwarter canrif bu Harry’n gyfrannol wrth lywio’r digwyddiad Cymreig eiconig hwn trwy liaws o heriau: y tywydd, achosion o glefyd ac ansicrwydd gwleidyddol i enwi ond ychydig, ac mae wedi gwylio’r sioe’n datblygu’n ffenestr siop ryfeddol amaethyddiaeth Cymru y mae hi wedi dod heddiw.

Er gwaethaf y siwtiau steilus a’r het bowler, mae Harry bob amser i’w gael yn ei chanol hi; yn torchi ei lewys, yn cael pethau wedi’u gwneud, yn cefnogi’r criw o wirfoddolwyr gweithgar yn fedrus ac yn sicrhau bod y sioe’n rhedeg yn esmwyth.

Mae cysylltiad Harry â’r Sioe Frenhinol yn rhychwantu oes, gydag ymglymiad ei deulu’n mynd yn ôl trwy’r cenedlaethau. Roedd tad Harry, yr Uwchgapten David Fetherstonhaugh, yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe am 21 mlynedd, gan ymddeol yn 1989. Mae Harry ei hun wedi stiwardio mewn amrywiol adrannau o’r sioe er 1977, yn cynnwys fel Prif Stiward Diogeledd, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Gweinyddiaeth a Dirprwy Gyfarwyddwr y Sioe.

Ar ben hynny mae Harry yn gadeirydd Pwyllgor Gweinyddu’r Sioe, y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ac yn Is-Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y gymdeithas. Yn 2004 derbyniodd Fedal Aur y gymdeithas am ei wasanaeth arbennig i’r gymdeithas fel Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe. Cyflwynwyd y wobr i Harry gan Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ystod ei hymweliad â’r sioe ym mlwyddyn ganmlwyddiant y gymdeithas.

Mae Harry’n ffermio defaid Romney pedigri ar ei fferm deuluol ar ystâd 2,900 erw Coed Coch, ger Abergele, Clwyd.

Yn 2001 derbyniodd Harry yr OBE am ei wasanaeth fel Comisiynydd Coedwigaeth Cymru.  Bu’n gwasanaethu hefyd fel Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Tyfwyr Coed (TGA) am bymtheg mlynedd ac fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru’r TGA am wyth mlynedd. Bu’n Llywodraethwr Ysgol am 30 mlynedd hefyd, ac fe’i penodwyd yn Arglwydd Raglaw Clwyd yn 2013.

Trwy gydol yr wythnos, bu dymunwyr da a chyfeillion yn diolch i Harry am y cyfan y mae wedi’i wneud tuag at lwyddiant y sioe dros y 40 mlynedd ddiwethaf a mwy. Ar ôl cystadleuaeth wefreiddiol Prif Bencampwr y Pencampwyr, y cafodd Harry yr anrhydedd o’i beirniadu, a Pharêd Mawr terfynol y stoc gwobrwyedig, fe wnaeth cyfarwyddwyr anrhydeddus a stiwardiaid Harry ei synnu gyda gosgordd er anrhydedd a model o gerflun y March Cob Cymreig a ddadorchuddiwyd ar faes y sioe yn gynharach yn yr wythnos.

“Mae wedi ein harwain gyda steil, pendantrwydd, cryn fedr a hiwmor” meddai Prif Sylwebydd ac Is-Gadeirydd y Cyngor, Mrs Nicola Davies. “Bydd pob un ohonom yn ei golli.”

Wedi cael ei syfrdanu, aeth y syrpréis yn drech na Harry. Gan gyfeirio at y tîm o stiwardiaid, a’r staff, soniodd Harry ei bod yn debyg i fod yn rhan o ‘un teulu mawr, hapus’. “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o dîm mor wych a bu hi’n fraint bod a wnelo â’r gymdeithas am dros 42 mlynedd, ac o gael bod yn Gyfarwyddwr y Sioe am 25.”

“Rhwng fy nhad a minnau rydym wedi cwmpasu 46 mlynedd o’r 100 o sioeau, fel cyfarwyddwr y sioe, a gyda dau o’m meibion eisoes wedi bod yn stiwardiaid ers blynyddoedd lawer, rwyf yn gobeithio y bydd fy nghysylltiadau teuluol gyda’r gymdeithas yn parhau.”

“Rwyf yn llythrennol wedi gwneud cannoedd o gyfeillion o ganlyniad i’r sioe. Bu hi’n anrhydedd llwyr bod a wnelo â sefydliad mor wych. Diolch yn fawr iawn ichi i gyd.”

Rydym wrth ein bodd, hyd yn oed er ei fod yn rhoi’r gorau i swydd feichus Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, y bydd cysylltiadau Harry gyda’r gymdeithas yn aros yn gryf. Yn 2020, bydd Harry’n dod yn Llywydd Clwyd CAFC yn ystod eu blwyddyn sir nawdd.

Yn cymryd yr awenau gan Harry fydd Richard Price o Feirionnydd. Mae Richard, fel Harry, eisoes wedi bod â chysylltiad oes â’r sioe a bu’n gwirfoddoli fel stiward ers y 90au cynnar. Yn fwyaf diweddar, mae Richard wedi dal swyddi Prif Stiward Diogeledd, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol Gweinyddiaeth ac eleni mae’n Ddarpar Gyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe. Mae Richard yn rheoli ystâd deuluol Rhiwlas, yn ogystal â mentrau’r fferm gartre.