Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ond wythnosau i ffwrdd - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda dim ond pythefnos i fynd nes bydd maes y sioe yn Llanelwedd yn llawn ymwelwyr, arddangoswyr a da byw ardderchog, mae’r paratoadau at 30ain Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn dod at ei gilydd yn dda.

Bydd Ffair Aeaf eleni’n cael ei chynnal ar ddydd Llun 25 a dydd Mawrth 26 Tachwedd.

Wedi’i chynnal gyntaf yn 1990 ac ond yn ddigwyddiad undydd cymharol fach yn wreiddiol, mae llawer yn cyfeirio at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru bellach fel y sioe stoc ddethol orau yn Ewrop ac mae hi wedi hen ennill ei phlwyf fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr sioeau amaethyddol Prydain.

Gyda miloedd o wartheg, defaid, moch a cheffylau yn cystadlu a thros £25,000 mewn arian gwobrwyo ar gynnig, mae’r gwobrau arobryn yn barod ar gyfer deuddydd gwych o gystadlaethau.

Bydd Ffair eleni’n cael ei hagor yn swyddogol gan Mr David Phillips, ffermwr bîff a defaid o Windsor Farm, Llandyfái, Penfro.

David yw’r drydedd genhedlaeth o’i deulu i ffermio Windsor, ble mae’n ffermio mewn partneriaeth â’i wraig Ruth a’i fab a’i ferch-yng-nghyfraith, Andrew a Jane. Mae’r bumed genhedlaeth, Eddie, ŵyr David yn cael ei feithrin yn yr un traddodiad ffermio.

Mae menter Windsor Farm yn cynnwys 1,200 erw o dir amaethyddol gorau Sir Benfro a’i uchder ar y mwyaf yn 150 troedfedd uwchben lefel y môr. Mae’r prif fentrau’n cynnwys 3,000 o famogiaid miwl iseldir Suffolk x Albanaidd. Caiff y mamogiaid eu rhoi dan do ym mis Rhagfyr a’u bwydo ar system TMR cyn ŵyna. Caiff yr ŵyn i gyd eu didolborthi, yn y gobaith y bydd yr ŵyn yn dal y farchnad gynnar ar ei gorau. Mae David yn rhedeg buches sugno 60 o bennau hefyd, gyda’r stoc sylfaenol yn dod o wartheg sioe. Tyfir 120 erw o indrawn porthi ar gyfer ei ddefnyddio ar y fferm gyda’r hyn sydd dros ben yn cael ei werthu i ffermydd llaeth lleol.

Mae David yn perthyn i Gymdeithas Tir Glas Cleddau ac mae wedi ennill llawer o gystadlaethau tir glas a chnydau. Mae David yn aelod blaenllaw o Glwb Ffermwyr Penfro gyda’u sioe undydd flynyddol yn cael ei chynnal ar Windsor Farm am y 49 mlynedd ddiwethaf.

Mae David a’i deulu’n parhau i wella’r fuches sugno Limousin ac maent yn llwyddiannus iawn yn y sioeau sirol a lleol ac yn dal i fod yn arddangoswyr a phrynwyr ffyddlon a theyrngar yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.

Mae’r teulu’n gefnogwyr ac aelodau pybyr o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a buont yn gyfrannog yn codi arian i’r gymdeithas yn ystod blwyddyn Sir Benfro fel blwyddyn nawdd. Mae David yn ffermwr ac yn stocmon da byw o’r iawn ryw sy’n uchel ei barch ymysg ei gymheiriaid.

Bydd y seremoni agoriadol yn cael ei chynnal i fyny’r grisiau yn y Pafiliwn Rhyngwladol ychydig yn gynharach na’r arfer am 10.30 y bore ar ddydd Llun 25 Tachwedd.

Yn dilyn yr agoriad swyddogol byddir yn cyflwyno Gwobr Goffa John Gittins, Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen CAFC ac Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield.

Ynghyd â’r rhaglen orlawn arferol o gystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau bydd y ffair ddeuddydd yn llawn dop o ddathliadau Nadoligaidd, yn cynnwys siopa gyda’r hwyr am ddim ac arddangosfa dân gwyllt ar y nos Lun.

Draw oddi wrth y cylchoedd beirniadu mae’r cynhyrchwyr bwyd Cymreig gorau un yn arddangos eu cynnyrch a bydd siopwyr Nadolig yn gallu chwilota cannoedd o stondinau masnach, arddangosiadau ac arddangosfeydd.