Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae un o’r gwobrau mwyaf ei bri yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad nodedig at ddiwydiant defaid Cymru, wedi’i hennill eleni gan Mrs Margaret Dalton o Langybi, Llanbed.

Mae Margaret wedi gweithio’n ddiflino i wneud llwyddiant o’i fferm fynydd Gymreig ac i fagu dau fab yn dilyn marwolaeth ei gŵr, Don, dim ond 12 mlynedd ar ôl iddynt brynu’r fferm yn 1963. Ar ben hynny, mae Margaret yn dal wedi dod o hyd i amser i ddal llawer o swyddi o fewn y diwydiant defaid.

Yn gyn-Gadeirydd NSA Cymru/Wales mae Margaret wedi ymgymryd â swyddi hefyd o fewn cangen sirol yr NFU, grŵp trafod amaethyddol a chymdeithas y sioe. Yn eiriolwr dros ferched mewn amaethyddiaeth, bu hi’n gyfrannog yn Undeb Bwyd a Ffermio’r Merched ac mae hi wedi ennill Gwobrau Ffermwraig y Flwyddyn yr NFU ac NFU Cymru.

Alwyn Rees, yn cynrychioli Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Kevin Parry, o Gymdeithas Bridwyr y Defaid Miwl Cymreig a Tim Ward, o Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol Cymru oedd panel y beirniaid ar gyfer y wobr.

Yn cyfweld rhestr fer o dri ymgeisydd, roedd y beirniaid yn cytuno bod pob un o’r tri yr un mor deilwng o’r wobr. “Roedd safon yr ymgeiswyr eleni, unwaith eto, yn eithriadol, ond ar ôl ystyriaeth ofalus bu inni gytuno yn y diwedd y dylai Gwobr Goffa John Gittins gael ei rhoi i Mrs Margaret Dalton mewn cydnabyddiaeth o’i chyfraniad oes at Ddiwydiant Defaid Cymru.” meddai’r beirniaid.

Dyfarnwyd OBE i Margaret yn 2001 am ei gwasanaeth i Amaethyddiaeth ac i’r gymuned yng Ngheredigion, ac yn 2010 derbyniodd Gymrodoriaeth Cyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am ei hymroddiad parhaol i amaethyddiaeth. Mae Margaret hefyd yn gyd-enillydd Gwobr Goffa George Hedley yr NSA yn 2013 am ei chyfraniad at y Diwydiant Defaid.

Mae Margaret yn parhau i gymryd rhan arweiniol yn y mentrau defaid, bîff a dofednod gartref tra bod ei meibion yn rhedeg delwriaeth beiciau cwad llwyddiannus. Mae hi’n dal i ymgyrchu dros ddeddfwriaeth cynhyrchu ‘cig defaid â chroen arno’, a allai yn ei barn hi agor marchnad gwerth miliynau lawer o bunnoedd i gynhyrchwyr defaid y Deyrnas Unedig.

Bydd hi’n derbyn y wobr ar ddydd Llun 25 Tachwedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.