Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn dathlu ei 30ain flwyddyn, mae Ffair Aeaf Frenhinol Cymru’n profi ei bod wedi sefyll prawf amser gyda dau ddiwrnod llwyddiannus iawn arall.

Ar ben blwydd sy’n gymaint o garreg filltir, rydym nid yn unig wrth ein bodd o edrych ymlaen at ddyfodol ffyniannus, ond hefyd edrych yn ôl a thalu teyrnged i’r ddeng mlynedd ar hugain ddiwethaf.

Wedi’i chynnal gyntaf yn 1990 ac ond yn ddigwyddiad undydd cymharol fach yn wreiddiol, mae llawer yn cyfeirio at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru bellach fel y sioe stoc dethol orau yn Ewrop ac mae hi wedi hen ennill ei phlwyf fel un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd ar galendr sioeau amaethyddol Prydain. Gellir priodoli llwyddiant y Ffair nid yn unig i’r pwyllgor gweithgar a phenderfynol, ond hefyd i deyrngarwch yr arddangoswyr.

Un arddangoswr o’r fath yw Mr David Phillips, ffermwr bîff a defaid o Windsor Farm, Llandyfái, Penfro, a agorodd y Ffair yn swyddogol fore dydd Llun.

“Dechreuodd fy nghysylltiad â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 30 mlynedd yn ôl pan wnes i, ynghyd â fy niweddar dad-yng-nghyfraith Idris James, a fy ngwraig, Ruth, arddangos yn y Ffair gyntaf un.” eglurodd Mr Phillips yn ystod ei anerchiad yn y seremoni agoriadol. “Heddiw, mae fy mab Andrew, fy merch-yng-nghyfraith Jane a fy ŵyr, Eddie, yn arddangos yn adran y gwartheg… dyna bedair cenhedlaeth o’n teulu ni yn unig yn cefnogi’r sioe stoc dethol wych hon.”

“Rwyf yn llongyfarch y gymdeithas ar ei chraffter wrth gyflwyno’r digwyddiad hwn yn ôl yn 1990, sydd ers hynny wedi mynd o nerth i nerth ac sy’n dal i chwarae prif ran yn natblygiad amaeth.  Mae bellach yn tynnu pobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i arddangos da byw a chynnyrch, gan ddangos y pethau ardderchog sydd gan amaethyddiaeth Prydain i’w cynnig.”

Eglurodd David Lewis, Cadeirydd Cyngor y Gymdeithas fod amaethyddiaeth, wrth gwrs, yn dal i ffurfio calon ein digwyddiadau. “Mae ein Ffair Aeaf yn gyfrwng i arddangos y stoc dethol gorau yn y DU ac ni fyddem yn gallu llwyfannu’r Ffair heb ein harddangoswyr, ein prynwyr ac wrth gwrs ein harwerthwyr – rhaid inni wneud y cyfan y gallwn i gefnogi’r sector cig coch yn y dyddiau ansicr hyn.

“Un o golofnau ein llwyddiant yw cefnogaeth ddiwyro ein harddangoswyr. Rydym wrth ein bodd, er gwaethaf heriau o fod â mwy o wartheg yn cystadlu, mwy yn cystadlu yn y neuadd garcasau, niferoedd cryf yn cystadlu yn y sioe ddofednod, adrannau’r defaid, ceffylau, moch, crefftau cartref a dofednod a mwy o osod blodau a Hamperi Cig eleni, mae’r Ffair yn mynd o nerth i nerth.”

Gan ddiolch i’r arddangoswyr am eu cefnogaeth aruthrol am y 30 mlynedd ddiwethaf, cyflwynwyd pob un â bôbl 30ain Ffair Aeaf goffaol, y mae tair ohonynt yn cynnwys tocyn aur cyfrinachol i ennill pâr o docynnau i un o ddigwyddiadau’r gymdeithas yn 2020!

Yn ddigwyddiad masnach yn anad dim, mae’r Ffair Aeaf yn rhoi cyfle perffaith i rwydweithio gyda chyd-ffermwyr, cynhyrchwyr, cyflenwyr a phrynwyr, ac mae wedi dod yn ganolfan ddelfrydol i drafod a gwneud busnes. Unwaith eto dangoswyd proffil a phwysigrwydd y digwyddiad gydag ymweliad gan y Prif Weinidog, Boris Johnson.

Fel digwyddiad yn llawn arweinwyr busnes ac arweinwyr y diwydiant, mae’r Ffair Aeaf yn prysur ddod yn lle perffaith i randdeiliaid ddod at ei gilydd. Mae’r gymdeithas yn falch fod y Ffair Aeaf wedi gallu chwarae rhan wrth hwyluso trafodaethau rhwng unigolion a sefydliadau dylanwadol iawn, sy’n cael effaith ar ddyfodol amaethyddiaeth Cymru a’r economi wledig.

Yn un o’r teitlau uchaf ei bri i’w hennill yn y Ffair bob blwyddyn, dyfarnwyd prif bencampwriaeth y gwartheg i ‘Rizzo’, heffer Limousin X Glas Prydeinig yn pwyso 672kg, a arddangoswyd gan Wilkinson & Marwood o Layburn, Gogledd Swydd Efrog. Fe’i gwerthwyd yn ddiweddarach gan ein harwerthwyr swyddogol, McCartneys, am bris sylweddol o £10,800, a phrynwyd ‘Rizzo’ gan Mr Webster o R.G.B Webster & Sons Ltd, Y Rhyl. Roedd ‘Rizzo’ yn ddim ond un o’r 24 o anifeiliaid a brynodd Mr Webster yn ystod y ffair, gan wario mwy na £47K ar yr anifeiliaid anhygoel a oedd ar werth yn yr arwerthiannau ar y pnawn dydd Mawrth.

Mewn man arall ar faes y sioe, enillydd gwobr y stondin fasnach gyffredinol orau oedd Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales. Cafodd y stondin, yng nghanol Neuadd De Morgannwg, ychydig ddiwrnodau prysur gydag amrywiol lansiadau, digwyddiadau newyddion, arddangosiadau coginio gyda’r cogyddion gorau a hyd yn oed ymdrech ar record byd tymhorol gan gynhyrchwyr porc i baratoi cymaint o selsig mewn bacwn ag y gallent, yn erbyn y cloc.

Roedd yna dros 400 o stondinau masnach eleni, yn cynnwys llecyn gorlifo newydd i’r neuadd fwyd, Cwrt Bwyd y Ffair Aeaf, a oedd yn cynnwys 20 o stondinau ychwanegol a thros 10 o stondinau allanol ychwanegol yn y lle newydd yr ydym wedi gorfod dod o hyd iddo i gwrdd â’r galw eithriadol yn y digwyddiad poblogaidd hwn. Fe welodd y noson siopa gyda’r hwyr filoedd o ymwelwyr yn ymbleseru eto mewn rhywfaint o siopa Nadolig ac yn mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd a’r arddangosfa dân gwyllt ysblennydd.

“Wrth i’r 30ain Ffair Aeaf ddod i’w therfyn gallwn fod yn falch unwaith eto o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Rydym yn ddyledus i’r peth wmbredd o waith caled ac ymroddiad y llu o wirfoddolwyr, stiwardiaid, masnachwyr, noddwyr ac, wrth gwrs, yr ymwelwyr.” meddai Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf, William Hanks.

“O ganlyniad i’r ymroddiad gan y cefnogwyr teyrngar hyn i’r Ffair Aeaf y mae’r digwyddiad wedi rhagori ar holl ddisgwyliadau ein cyndadau pan fu iddynt ddechrau cynllunio’r digwyddiad hwn yn ôl yn niwedd yr 1980au. Mae hi’n ddiogel dweud y byddent yn eithriadol o falch o’r fath ddathliad rhagorol o amaethyddiaeth Cymru y mae Ffair Aeaf heddiw wedi datblygu i fod.”