Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield yn cael ei noddi gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield, sefydliad sy’n gwobrwyo unigolion â chyfleoedd sy’n newid bywyd, gyda’r bwriad o ddatblygu arweinwyr ac arloeswyr y sector amaethyddol yn y dyfodol.

Mae pob un o Ysgolorion Nuffield yn gweithio o fewn y sector ffermio, y sector bwyd, y sector garddwriaeth neu’r sector gwledig ac yn ystod eu hastudiaethau 18 mis o hyd byddant yn ymgymryd â’u prosiect ymchwil yn eu maes diddordeb. Byddant yn derbyn bwrsari i’w hannog i deithio am o leiaf wyth wythnos, gan ganiatáu iddynt y cyfle i astudio arferion a ddefnyddir dramor a gartref.

Mae’n hyfrydwch gan y gymdeithas noddi Ysgolor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2020, Dr Edward Jones o Ynys Môn, a’i destun dewisedig ef yw ‘A ydym yn buddsoddi yn y dechnoleg a’r arloesi amaethyddol cywir?’.

Yn ogystal â bod yn ffermwr bîff a defaid, mae Edward yn ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Bangor hefyd ac yn un o raddedigion Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2018.

“Gan gyfuno fy nghefndir mewn cyllid gyda fy nghariad at ffermio, rwyf yn credu y bydd Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield yn fy nghyflenwi â chyfle unigryw i arwain newid cadarnhaol mewn amaethyddiaeth” eglura Edward.

“Buddsoddwyd $17bn yn fyd-eang mewn amaethyddiaeth a thechnoleg bwyd yn 2018, 44% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol. Prin y dylai’r ymchwydd mawr yn niddordeb buddsoddwyr mewn Amaeth-Dechnoleg (h.y. priodas amaethyddiaeth a thechnoleg newydd) fod yn syndod; mae angen cynyddu cynhyrchu bwyd a’i ddosbarthu’n gyflym er mwyn bwydo poblogaeth llawer mwy mewn ffordd sy’n gynaliadwy i’r blaned. Rhagwelir y bydd poblogaeth y byd yn cyrraedd 9.8bn erbyn 2050, cynnydd o 2bn o 2019.

“I lwyddo wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen bod gweledigaeth gyffredin a chydweithrediad rhwng buddsoddwyr, entrepreneuriaid, ffermwyr, a gwneuthurwyr polisi.”

Yn ystod ei astudiaethau, mae Edward yn bwriadu teithio ar draws y byd yn archwilio amcanion ei brosiect:

  1. Canfod a oes gweledigaeth gyffredin a chyflenwol ymhlith buddsoddwyr, entrepreneuriaid, ffermwyr, a gwneuthurwyr polisi ar gyfer cynyddu cynhyrchu a dosbarthu bwyd yr un pryd â lleihau effaith amaethyddiaeth ar y blaned,
  2. Asesu pa dechnolegau fydd yn caniatáu inni fynd i’r afael â’r heriau hyn,
  3. Pwysleisio’r buddsoddiad ariannol sydd ei angen gan y sector preifat a chyhoeddus i sicrhau ein bod yn cyrraedd ble mae angen inni fod.

“Yn sicr mae hi’n amser cyffrous i amaethyddiaeth ac edrychaf ymlaen at helpu i gefnogi’r diwydiant yn y cyswllt pwysig hwn.” ychwanegodd Edward.

“Mae’r gymdeithas wedi ymrwymo i annog a chefnogi addysg ac ymchwil o fewn y diwydiant amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad parhaol mewn pobl ifanc yn rhan allweddol o’n cymdeithas yn y dyfodol.” meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

“Mae darparu’r bwrsari a’r cyfle i unigolyn ddod yn Ysgolor Ffermio Nuffield yn sicrhau bod ein diwydiannau gwledig ac unigolion yn parhau i wella ac elwa ar eu hymchwil a’u dysg.”

“Dymunwn bob hwyl i Edward a’r holl ysgolorion eraill gyda’u hastudiaethau ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr adroddiadau pan gânt eu cyhoeddi.”