Cynllun Parhad Busnes CAFC - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a chanslad yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a digwyddiadau eraill ar y safle, rydym wedi rhoi mesurau yn eu lle i sicrhau bod ein busnes yn gallu dal i weithredu’n effeithlon drwy’r cyfnod heriol hwn yn ein hanes.

  • Rydym wedi sicrhau bod gyda’n staff yr offer, y dechnoleg a’r systemau yn eu lle i ganiatáu iddynt weithio o bell. Mae’r swyddfa’n gweithredu’n rhithwir yn awr yn unol â chyngor y Llywodraeth ac mae rhai staff wedi’u rhoi ar
  • Byddwn yn gallu cael mynediad at yr holl ddogfennaeth angenrheidiol yn ddiogel o bell wrth inni ddilyn ein prosesau a’n rheolaethau arferol.
  • Rydym wedi cymryd camau hefyd i liniaru pa mor agored ydym i Seiberdroseddu, ond yn atgoffa pawb i fod yn arbennig o ofalus y dyddiau.
  • Rydym yn derbyn llawer o’n cyfathrebiadau yn electronig ac rydym yn eich annog i ddal i ddefnyddio e‐bost i gyfathrebu â ni a gellwch sganio unrhyw ddogfennau y mae arnoch angen eu rhannu â ni a’u hatodi’n electronig at yr e‐bost. Os ydych yn credu eich bod wedi anfon rhywbeth atom yn y post ac nad ydym wedi ymateb iddo, siaradwch â’ch cyswllt arferol yn y Gymdeithas, neu os nad ydyn nhw ar gael e‐bostiwch requests@rwas.co.uk a fydd yn cael ei fonitro’n ddyddiol.
  • Byddem yn gofyn eich bod yn dewis e‐bostio pob dogfen, yn hytrach na’i phostio gan ei bod yn bosibl na fyddir yn edrych y post bob.
  • Er y bydd llawer o’r staff ‘ar ffyrlo’, mae hi’n bwysig nodi y gellir anfon e‐byst cyffredinol (heb fod yn rhai brys) i’r cyfeiriadau ebost presennol. Byddir yn ymateb i’r rhain pan fyddwn i gyd yn dychwelwyd i’r normalrwydd newydd. Rhaid anfon pob e‐bost brys sy’n gofyn am ymateb cyflymach gan y Gymdeithas i requests@rwas.co.uk gan y bydd y cyfeiriad e‐bost hwn yn cael ei fonitro trwy gydol cyfnod y pandemig.
  • Yn ogystal â chyfathrebiadau drwy e‐bost a thros y ffôn, rydym yn gallu cynnig cyfarfodydd drwy fideo‐gynadledda hefyd fel y bo’n briodol.
  • Os yw lefel yr adnoddau mewn unrhyw ran o’n busnes yn cael ei pheryglu oherwydd salwch neu anallu i weithio, byddwn yn addasu ein timau at ddibenion gwahanol fel y bo angen i gyflenwi gwasanaeth yn ôl y galw. Byddai hyn yn golygu blaenoriaethu beichiau gwaith a byddem yn diweddaru’r rheini a effeithir, tra byddwn yn gwneud pob ymdrech i liniaru’r effaith petai’r sefyllfa yma’n codi.
  • Rydym yn deall bod ein digwyddiadau yn rhan bwysig o fywyd gwledig ac rydym yn gwneud popeth i sicrhau parhad busnes fel rhan o’n dyhead tymor hir i sicrhau bod effaith y sefyllfa bresennol yma ar y busnes yn cael ei leihau, er lles gorau ein haelodau, cwsmeriaid, cefnogwyr, staff ac ymwelwyr.

Diolchwn ichi am barhau i gefnogi Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar yr adeg heriol yma. Cadwch yn ddiogel da chi ac fel ni rwyf yn gwybod y byddwch yn edrych ymlaen at ein digwyddiad nesaf.