Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn dilyn asesu’r sefyllfa bresennol a’r hyn sy’n ddisgwyliedig o ran cyfyngiadau COVID 19, mae’n flin gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi bod y penderfyniad anodd wedi ei wneud i ganslo Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2020. Hwn yw’r digwyddiad olaf yng nghalendr y Gymdeithas. Byddai’r digwyddiad wedi ei gynnal ar Faes y Sioe Frenhinol ar Dachwedd 30ain a Rhagfyr 1af.

Daw’r penderfyniad hwn yn dilyn canslo’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a’r Sioe Frenhinol. Bydd yr effaith ar y Gymdeithas a’r holl randdeiliaid yn sylweddol. Er gwaethaf rhywfaint o newyddion cadarnhaol o ran llacio’r cyfyngiadau, daeth yr Ymddiriedolwyr i’r casgliad na fyddai modd cynnal y digwyddiad mewn ffordd ddiogel ac yn gyfreithlon yng nghyd-destun cadw pellter cymdeithasol a chanllawiau ynghylch digwyddiadau torfol. Nid oes yna unrhyw gynlluniau i ganiatáu digwyddiadau torfol mawr neu leihau’r rheol 2m yng Nghymru yn y dyfodol agos.

Dywedodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru:
“Mae pawb yn y Gymdeithas yn siomedig iawn bod holl ddigwyddiadau mawr eleni wedi eu canslo. Fel corff sy’n trefnu digwyddiadau rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb o ddifrif ac mae’n rhaid i ni wneud ein rhan yn y frwydr yn erbyn y pandemig.

Hoffai’r Gymdeithas ddiolch i’r holl aelodau, masnachwyr, arddangoswyr, cystadleuwyr, noddwyr, a’r holl randdeiliaid am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau yn y sefyllfa anarferol hon.

Rydym yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod y Gymdeithas a’i digwyddiadau yn goroesi’r sefyllfa bresennol, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Faes y Sioe pan fydd hynny’n ddiogel.