Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL TYDDYN A CHEFN GWLAD
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
18-19 Mai 2024.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
22-25 Gorffennaf 2024.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ymuno â Business News Wales eto i greu platfform ar-lein gyda chefnogaeth HSBC UK i arddangos Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn rhithiol eleni!
Er bod cyfyngiadau Coronafeirws wedi atal Ffair 2020 rhag digwydd ar faes y sioe, mae’r Gymdeithas yn awyddus unwaith eto i ddathlu’r diwydiant amaethyddol a’i bwysigrwydd o ran cynhyrchu bwyd, ac i greu Marchnad Nadolig gywrain a fydd yn sicrhau y gellir dod o hyd i’r anrheg berffaith ar gyfer y Nadolig. Ni allai profiad rhithiol eleni fod wedi cael ei wneud yn bosibl heb haelioni HSBC UK ac mae’r Gymdeithas yn dra diolchgar iddynt am barhau eu perthynas a’u nawdd tuag at Ffair Aeaf rithiol eleni.
Bydd y Farchnad Nadolig ar-lein yn cynnwys cyfeirlyfr o holl stondinau masnach y llynedd er mwyn i’r aelodau a’r cyhoedd siopa ar-lein o’u hoff stondinau a darganfod yr anrhegion unigryw sydd ar gynnig fel arfer yn y Ffair Aeaf. Bydd y digwyddiad deuddydd arferol yn troi’n brofiad siopa ar-lein gwahanol i bob un arall, gyda stondinau’n agor am gyfnod o 6 wythnos, o ddechrau mis Tachwedd i sicrhau y bydd anrhegion a brynir yn cyrraedd mewn pryd at y Nadolig.
Meddai Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaeth Rhanbarthol HSBC UK: ‘Fel un o brif noddwyr Ffair Aeaf Cymru o’i chychwyn cyntaf yn ôl yn 1990 rydym yn cydnabod rôl bwysig yr achlysur yng nghalendr ffermio Cymru, ac rydym yn falch o gefnogi Ffair Aeaf Rithiol 2020. Er ein bod i gyd yn siomedig nad ydym yn gallu bod yn bresennol yn bersonol ar Faes Sioe Frenhinol Cymru eleni, edrychwn ymlaen at y rhaglen ddyfeisgar o weithgareddau sy’n cael ei pharatoi a dymunwn bob llwyddiant i’r trefnwyr wrth gynnal digwyddiad ar-lein cofiadwy.’
Nid yn unig y bydd y Ffair Aeaf rithiol yn cynnig llwyfan i’n stondinau masnach ymgysylltu ag ymwelwyr blynyddol niferus y Gymdeithas ond bydd yn rhoi cyfle arall hefyd i arddangos y diwydiant amaethyddol ac i addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd. Trwy gynnig Marchnad Nadolig ar-lein byddwn yn annog cymuned y Sioe Frenhinol i siopa’n lleol a chefnogi busnesau lleol trwy brynu cynnyrch sydd wedi’i wneud a’i greu yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.
Meddai Mark Powney, Rheolwr-Gyfarwyddwr, Business News Wales: ‘Rwyf wrth fy modd fod Business News Wales wedi sicrhau’r contract i weithio gyda CAFC eto i gynhyrchu Ffair Aeaf Rithiol eleni. Er y bydd miloedd lawer o ymwelwyr a chyfranogwyr yn siomedig o beidio â chael eu trip i faes y sioe, mae’r bartneriaeth hon yn golygu y byddant yn dal i gael profi digwyddiad rhithiol. Yn ogystal â darparu profiad Ffair Aeaf Rithiol eleni ar gyfer aelodau a gwylwyr, bydd ein tîm cynhyrchu yn rhannu pob sesiwn hefyd gyda’n cynulleidfa ddyddiol ein hunain o fwy nag 20,000, gan roi’r sioe o flaen cynulleidfa fusnes newydd eleni. Mae ein timau fideo, graffeg, golygyddol a datblygu’r we yn gweithio rownd y cloc i sicrhau bod sioe eleni’n llwyddiant digidol.’
Ychwanegodd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ‘Er nad all digwyddiadau a chyfarfodydd rhithiol fyth gymryd lle’r teimlad o fod yn bresennol mewn digwyddiad byw, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth i gadw ein digwyddiadau yn fyw a chefnogi ein nifer fawr o arddangoswyr, masnachwyr a chefnogwyr ehangach. Fe wnaeth llwyddiant y Sioe Frenhinol rithiol ddangos beth ellir ei gyflawni ac rwyf yn siŵr y bydd yr ymwelwyr â’n Ffair Aeaf rithiol yn gallu cael blas o’n hawyrgylch Nadoligaidd unigryw a’r cynnyrch a’r anrhegion hynny a gynhyrchir yn lleol na ellwch chi bob amser ddod o hyd iddynt ar y stryd fawr.’ Rydym yn gobeithio gallu’ch croesawu’n ôl i faes y sioe cyn gynted ag y mae’r cyfyngiadau yn caniatáu.’
Os hoffech chi ddod yn noddwr neu’ch bod yn meddwl tybed sut y gellwch gyfranogi yn Ffair Aeaf rithiol 2020 cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y gwnewch chi ymuno â ni yn y paratoadau at Nadolig 2020.