Er gwaethaf y cyfnod clo mae CAFC yn dal i gydnabod rhagoriaeth o fewn y Diwydiant Amaethyddol - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cystadlaethau Silwair Cladd a Byrnau Mawr Cymru Gyfan 2020 sy’n cael eu cynnal ar y cyd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru, wedi gweld silwair o’r safon uchaf yn cael ei gynhyrchu eto eleni gan lawer o’r tyfwyr silwair gorau o bob rhan o Gymru.

Bob blwyddyn mae’r ddwy gystadleuaeth silwair ymhlith y cystadlaethau â’r cystadlu mwyaf brwd amdanynt yn y diwydiant ac mae’r Gymdeithas yn falch iawn fod y cystadlaethau hyn wedi gallu cael eu beirniadu yn ystod y pandemig Covid-19.

 

Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan

Enillydd Cystadleuaeth Silwair Cladd 2020, a noddwyd yn garedig gan Wynnstay Group PLC ac a gefnogwyd gan Agri Lloyd International Ltd, yw Mr Michael Williams, Fagwrfran East, Cas-mael; gyda Mr David Lee, Winnington Green, Treberfedd, Y Trallwng yn ail agos iawn.

 

Fagwrfran East, Cas-mael

Fferm 310 erw sy’n cynhyrchu bîff, llaeth a defaid yw Fagwrfran East. Mae’r fferm yn eistedd gyda 85% ohoni’n wynebu’r De 750 troedfedd uwchben lefel y môr ar fath o bridd sy’n briddgleiog ac asidaidd ac sy’n draenio’n rhwydd.  Maent yn godro 145 o fuchod gan gynhyrchu 11,300 litr/fuwch (4.1% Braster Menyn 3.5% Protein); yn ogystal â defaid a thros 200 o wartheg bîff a llaeth ifanc.

Cymerwyd 135 erw ar gyfer y toriad cyntaf, 110 fel ail a 100 erw o drydydd toriad – Cyfanswm y tunelli a silweiriwyd 1995t. Roedd y dadansoddiad yn dangos ME o 12.7 a CP o 13.5%

 

Winnington Green, Treberfedd, Y Trallwng

Mae gan y teulu fferm laeth a bîff 450 erw gyda 420 o fuchod Llaeth yn ogystal â 90 o wartheg ifainc bob blwyddyn ac 80 o loi bîff.  Cymerir mamogiaid cadw i’w gaeafu. Cynhyrchir 5300 litr/fuwch (4.74% Braster Menyn 3.82% Protein).

Cynaeafwyd tri thoriad y llynedd (diwedd Ebrill, Mehefin a Gorffennaf) gyda 128 erw’n cael ei gymryd ar gyfer y toriad cyntaf, 136 ar gyfer yr ail doriad a 111 erw ar gyfer y trydydd toriad. Cyfanswm y tunelli a silweiriwyd 1665t. Roedd y dadansoddiad yn dangos silwair rhagorol hefyd gydag ME o 12.0 a CP o 16.2%

Y tri Enillydd Rhanbarthol llwyddiannus arall oedd:

Bryn a William Jones, Fferm Tŷ Newydd, Abersoch

Ben Williams o DR & AL Williams, Gwastod, Abermeurig, Llambed

Edward Williams, Pant-y-Cwcw Farm, Llanbadog, Brynbuga.

Mynegodd y Beirniad arweiniol, Mr John Evans ei foddhad wrth sôn am y fath “fraint oedd hi i feirniadu cystadleuaeth eleni.  Cawsom ddau ddiwrnod da iawn, gyda phenderfyniad anodd iawn ar y diwedd … gan fod pob un o’r pump yn y rownd derfynol yn agos iawn.  Gwelsom silwair a oedd wedi’i wneud yn dda iawn a’i storio’n eithriadol o dda.  Roedd pob un yn y rownd derfynol yn awyddus i gael y gorau o’u porthiant ac roedd y canlyniad yn benderfyniad agos.  Gwnaed y ddau ddiwrnod yn ddiddorol gan yr amrywiaeth o dechnegau yr oedd y ffermwyr yn eu defnyddio, pob un ohonynt yn benderfynol o wneud gwaith da gyda’u system neilltuol.”

 

Cystadleuaeth Byrnau Mawr Cymru Gyfan

Enillydd Cystadleuaeth Byrnau Mawr 2020, a noddwyd yn garedig gan BPI Agriculture (Silotite), yw Mr Keith Williams, Haverhill Farm, Spittal.  Rhoddodd cystadleuaeth eleni dasg anodd iawn i’r beirniaid – Dr Dave Davies, (Silage Solutions); Stuart Anthony (BPI Agri); ac Alan Davies, Fferm Llys, Dinbych (enillydd cystadleuaeth 2019), i wahanu’r enillwyr, gan eu bod yn teimlo bod tri yn gwthio mwy am gynhyrchiad o systemau wedi’u seilio ar borthiant.

Y tri hyn oedd Mr Keith Williams Haverhill Farm Spittal; Mr Marc Jones, Trefnant Hall, Y Trallwng a Mr Eurig Jenkins, Pentrefelin, Talsarn. Roeddynt i gyd yn rhedeg systemau ffermio ble oedd porthiant, boed hwnnw’n cael ei fwyta’n ffres neu’i gadw, yn darparu’r rhan fwyaf os nad y cyfan o’r porthi.  Ar ôl llawer o ystyriaeth dewiswyd Keith Williams yn enillydd, gyda dadansoddiad ei silwair ef yn well na phawb arall yn y rownd derfynol gyda 16.9 % protein Crai a chynnwys egni metaboladwy o 11 MJ/kg DM.  ’Dyw Keith ddim yn bwydo unrhyw ddwysfwyd yn y gaeaf na’r haf ac mae’n magu heffrod llaeth ar gontract o flwydd oed i fis cyn dod â lloi pan fyddant yn dychwelyd i’r perchennog.  Mae’i system yn dibynnu ar silwair wedi’i fyrnu o ansawdd uchel fel yr unig ffynhonnell maeth yn ystod y cyfnod cadw dan do, a’r un modd mae’r porthi yn yr haf yn laswellt a borir yn unig.  Roedd y system rheoli porthi a chadw dan do gyfan yn syml ond effeithiol ac roedd ei silwair heb ddim ohono i’w weld wedi difetha.

Gwnaeth Dave Davies, un o’r beirniaid, y sylw “Mae effeithiolrwydd y defnyddiad a’r gostyngiad yn y gwastraff yn gwella pob blwyddyn.  2020 oedd y flwyddyn waethaf o ran cyflwr y tywydd yn y 15 mlynedd ddiwethaf o feirniadu ac eto roedd y gwastraff y nesaf peth i ddim.”

Methodd y beirniaid â gwahanu’r 2il a’r 3ydd lle ac felly dyfarnwyd bod Mr Marc Jones Trefnant Hall a Mr Eurig Jenkins, Pentrefelin yn gydradd ail; gyda Mr Edward Jones, Parciau Home Farm, Marianglas, Ynys Môn a Mr Richard Isaac, Mynachdy Farm, Ynysbwl, yn Enillwyr Rhanbarthol teilwng iawn.

 

Byddai Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn hoffi cymryd y cyfle hwn i ddiolch i Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru a’r noddwyr BPI Silotite, Wynnstay, ac Agri Lloyd am barhau eu hymroddiad a’u cefnogaeth wrth gynnal cystadlaethau Silwair Cymru Gyfan.