Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Cynllun Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2020 wrthi’n cael trefn ar besgi eu da byw newydd, a’u paratoi ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth yn Ffair Aeaf Rithwir CAFC.

Mae’r chwe ffermwr ifanc yn cychwyn ar gam cyffrous nesaf y gystadleuaeth frwd flynyddol – sy’n ceisio annog y genhedlaeth nesaf o ffermwyr moch ac annog ffermwyr i ystyried cadw moch fel opsiwn arallgyfeirio posibl. Mae’r cyfyngiadau presennol yn golygu y bydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru y mis nesaf yn ddigwyddiad rhithwir – ac ymysg y digwyddiadau fe fydd uchafbwynt
cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru eleni.

Cynllun ar y cyd yw hwn rhwng CFfI Cymru a Menter Moch Cymru. Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer
Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Dyma’r chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Nghynllun Pesgi Moch
Menter Moch Cymru a CFfI Cymru eleni: Angharad Thomas CFfI Dyffryn Tywi, Emily Lloyd CFfI Llangwyryfon, Ethan Williams CFfI Llantrisant, Katie Hughson CFfI Howey, Teleri Vaughan Teleri Vaughan CFfI Eglwyswrw, a Teleri Evans CFfI Pontsian.

Fel arfer, bydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru, fodd bynnag eleni, trodd y trefnwyr at dechnoleg, a gwnaed y cyhoeddiad ar-lein fel rhan o raglen CFfI Cymru yn Sioe Rithwir Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf. Ar ddechrau mis Medi, cafodd pob un o’r chwe chystadleuydd llwyddiannus berchyll Cymreig pum wythnos oed i’w magu. Caiff y perchyll eu pwyso bob pythefnos er mwyn gallu cofnodi cyfradd eu twf a faint o borthiant maen nhw’n ei fwyta, ac mae’r cystadleuwyr eisoes wedi dechrau eu hyfforddiant pwrpasol i’w helpu gyda’u menter. Mae’r rhaglen hyfforddi sydd wedi’i chynllunio a’i darparu gan raglen Menter Moch Cymru, yn cynnwys lles a hwsmonaeth moch, deddfwriaeth a phorthiant/maeth,
ynghyd â sesiynau hyfforddi ychwanegol a gynhelir ar hyd y flwyddyn. Mae’r sesiynau hyfforddi hefyd yn cynnwys ffermwyr moch profiadol sy’n rhannu’r wybodaeth y maen nhw wedi’i chasglu dros y blynyddoedd.

Mae’r cystadleuwyr hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom bob mis lle mae siaradwr arbenigol yn trafod gwahanol agweddau ar gynhyrchu moch, eu paratoi ar gyfer sioeau a’u marchnata. Wrth i sgiliau’r ffermwyr ifanc ddatblygu, byddant yn parhau i dderbyn cymorth a hyfforddiant gan Fenter Moch Cymru – gan gynnwys cyngor ynglŷn â sut i farchnata eu cynnyrch porc.

“Mae’r moch i gyd yn setlo’n dda, ac mae’n wych gweld y ffermwyr ifanc hyn yn datblygu’n ffermwyr moch newydd. Mae’r hyfforddiant a’r cymorth a roddir gan brosiect Menter Moch Cymru yn ceisio sicrhau bod ganddynt yr holl sgiliau sydd eu
hangen arnynt ar gyfer y fenter newydd hon a bydd yr hyfforddiant yn parhau yn ystod y flwyddyn hon,” meddai Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru.

Meddai Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFfI Cymru, “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Menter Moch Cymru eto i hyrwyddo cadw moch fel menter i’n haelodau yn y dyfodol. Er bod y cyfyngiadau Covid-19 presennol yn golygu bod y gystadleuaeth eleni wedi bod yn ddigwyddiad rhithwir, ni fu diffyg brwdfrydedd nac ymroddiad ymhlith y rhai sy’n cymryd, ac mae cyffro’n adeiladu ar gyfer y rownd derfynol!”

Meddai Mared Jones, Pennaeth Gweithrediadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, “Cawsom ymateb gwych i Sioe Rithiwr Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, ac rydym yn edrych ymlaen at ddarparu llwyfan rhithwir gwych arall ar gyfer y Ffair Aeaf. Rydym yn falch iawn y bydd rownd derfynol Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru yn rhan o’r rhaglen lawn y byddwn yn ei chynnig i ymwelwyr ar-lein.”

Am fwy o fanylion am Ffair Aeaf Rithwir Frenhinol Cymru ewch i: www.rwas.wales

Rownd Derfynol Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru 2020
Mae bod yn rhan o fenter ffermio newydd yn brofiad i’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’u moch.
Mae Emily Lloyd a Teleri Vaughan yn gweithio yn y GIG ac maen nhw’n credu bod cadw moch yn ffordd dda o ymlacio ar ôl sifftiau prysur. Mae moch bach Emily yn mwynhau’r mes a’r afalau y mae’n eu casglu ar eu cyfer, ac meddai “Gallwn eu gwylio drwy’r dydd, maen nhw mor ddoniol, ac maen nhw’n fy helpu i ymlacio.”
Mae Teleri Vaughan yn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau sydd eisoes ar y fferm. Hi yw’r unig un yn y rownd derfynol sy’n cadw ei moch y tu allan, ac mae’n eu bwydo ar laeth dros ben o fenter laeth y teulu – a fydd yn rhan bwysig o’i phwynt gwerthu unigryw (USP) pan ddaw’r amser i farchnata’r porc. Meddai, “Mae’r moch yn byw mewn twlc a adeiladwyd gan fy nhad, ac rwyf hefyd yn defnyddio cyfarpar pwyso a wnaed gennym.”
Mae Angharad Thomas wedi creu cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ei moch. Meddai, “Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn ac rwyf eisoes wedi dod o hyd i brynwyr ar gyfer cig pedwar o’r pum porchell. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel ers i’r moch gyrraedd, gweld eu datblygiad ynghyd â chyfarfodydd misol gydag arbenigwyr a bridwyr o’r diwydiant moch yng Nghymru. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried cadw moch i roi cynnig ar y gystadleuaeth hon y flwyddyn nesaf gan ei bod wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn.”
“Rwy’n mwynhau’r profiad newydd yma ac rwy’n lwcus i gael help gan fy nheulu i ofalu am y moch bach, meddai Teleri Evans.
Mae Katie Hughson ac Ethan Williams yn byw ar ffermydd mawr sy’n cadw cig eidion a defaid. “Mae’n brofiad gwych, ac rwyf wedi gallu defnyddio rhan o’r siediau gwag ar gyfer fy moch bach, rwy’n mwynhau’n arw bod yn rhan o’r cynllun pesgi moch,” meddai
Katie.
Meddai Ethan, “Mwynheais y profiad yma’n fawr, cyn gorffen hyd yn oed roeddwn yn ystyried cael mwy o foch ar ôl hyn, rwy’n ei argymell yn arw. Mae fy nheulu eisoes yn gwerthu bocsys sy’n cynnwys cig eidion a chig oen ac maen nhw’n edrych ymlaen at ychwanegu porc Cymreig at y dewis.”