Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Roedd y Gymdeithas yn siomedig iawn o gyhoeddi y bu’n rhaid canslo Sioe Frenhinol Cymru 2021 eto oherwydd y pandemig ond mae’n edrych ymlaen yn fawr iawn at arddangos y digwyddiad ar-lein trwy’r platfform sioe rithiol a grëwyd i gynnal Sioe Frenhinol Cymru 2020.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ceisio cyflawni ei hamcanion elusennol ac arddangos y diwydiant amaethyddol ar-lein gyda dathliad wythnos o hyd o’r 19eg – 22ain Gorffennaf 2021. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at addysgu pobl ynghylch gwerth amaethyddiaeth a chynnyrch lleol, at rannu gwybodaeth o fewn y diwydiant yn gysylltiedig ag arferion gorau ac at drafod y pynciau diweddaraf o fewn y sector amaethyddol.

Bydd y Gymdeithas, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill yn sicrhau bod pob adran o’r sioe yn cynnig profiad i newydd-ddyfodiaid, ac yn dod ag atgofion yn ôl i’r rheini a fyddai fel arfer yn treulio dathliad wythnos o hyd o amaethyddiaeth yn Llanelwedd. Bydd sioe rithiol eleni yn cael ei gosod allan mewn diwyg tebyg ar ein platfform ar-lein i bawb ei mwynhau. Ni allwn ddiolch digon i Business News Wales am greu’r offeryn hanfodol hwn a fydd yn fodd i ddigwyddiadau’r Gymdeithas gael eu darlledu i bawb ar draws y byd.

Nid yn unig fydd y sioe yn cynnig platfform i bartneriaid gymryd rhan ond bydd hefyd yn datgelu’r materion a’r pynciau allweddol a fydd yn cael eu trafod gydol yr wythnos, yn addysgu’r cyhoedd ynghylch amaethyddiaeth a’r amgylchedd. Gyda mwy a mwy o ymwelwyr ag ardaloedd gwledig Cymru mae hi’n anochel bod y Gymdeithas yn cymryd rhan arweiniol wrth sicrhau bod y negeseuon cywir yn cael eu hegluro i’r rheini sydd arnynt eisiau mwynhau eu hamser yng nghefn gwlad Cymru. Bydd llawer o enillwyr gwobrau’n cael eu cyhoeddi hefyd gydol yr wythnos, yn dathlu myfyrwyr prifysgol amlwg i’r rheini sy’n nodedig o fewn y sector amaethyddol yng Nghymru.

Meddai Steve Hughson, y Prif Weithredwr, ‘Dangosodd llwyddiant Sioe Rithiol y llynedd y potensial y mae technoleg a chyfathrebu cyfoes yn ei gynnig i ddigwyddiadau, fel ein rhai ni.  Wrth gwrs, ’doeddem erioed wedi disgwyl gorfod canslo dwy Sioe yn olynol, ond gan ein bod yn y sefyllfa honno, rydym yn teimlo unwaith eto bod arnom eisiau creu fersiwn wahanol o’r Sioe Rithiol i ddathlu’r digwyddiad a chaniatáu blas o’r hyn yr ydym i gyd yn ei golli i bawb.  Rwyf yn gobeithio y mwynhewch chi’r cynnig digidol hwn, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl i Faes Sioe Frenhinol Cymru pan fydd y cyfyngiadau’n caniatáu.’

Bydd y sioe rithiol yn cael ei lansio ar y 19eg o Orffennaf 2021 a bydd yn cael lle amlwg yn ogystal ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas ble bydd ein dilynwyr yn gallu mwynhau amrywiaeth o fideos addysgiadol a fydd ar gynnig wythnos y sioe, yn digwydd rhwng y 19eg – 22ain Gorffennaf. Byddai’r Gymdeithas yn hoffi i bawb gymryd rhan ac mae’n annog arddangoswyr, masnachwyr, aelodau ac unrhyw un sydd wedi mynychu’r sioe i rannu eu hatgofion i ddangos beth y mae’r digwyddiad yn ei olygu iddyn nhw.

E-bostiwyd gwybodaeth i noddwyr a masnachwyr blaenorol digwyddiadau’r Gymdeithas ynglŷn â ffyrdd y gallant gymryd rhan yn sioe rithiol eleni. Os byddech chi neu sefydliad yr ydych yn rhan ohono yn hoffi cymryd rhan yn y dathliad wythnos o hyd yna cysylltwch â’r Gymdeithas heddiw os gwelwch yn dda.