Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae i Gymdeithasau a Sioeau Amaethyddol hanes hir a chlodfawr ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig yng Nghymru. Mae i bob un rôl bwysig wrth hyrwyddo ffermio a chynhyrchu bwyd cynaliadwy i’r cyhoedd ehangach ac wrth gynnal cydlyniant cymunedol, ein diwylliant, a’r agenda gwell iechyd.
O ganlyniad i’r pandemig COVID-19, cafodd y rhan fwyaf, os nad pob un o’r sioeau amaethyddol ar draws Cymru eu canslo yn 2020 a bydd nifer fawr yn cael eu canslo yn 2021.
Mae hi’n bwysig fod Cymdeithasau sioeau amaethyddol yn gallu dychwelyd i sefyllfa o rywfaint o normalrwydd ar ôl y pandemig sy’n cynnwys ailgyflwyno sioeau amaethyddol ar draws Cymru. Yn 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad byr o gadernid sioeau amaethyddol, gyda ffocws arbennig ar y canlynol:
Roedd un o’r argymhellion o’r adroddiad yn cynnwys sefydlu ‘cronfa arloesi’ trwy ba un y gall sioeau o bob maint wneud cais am gymorth ariannol i gyflenwi atebion newydd ac arloesol i’r heriau presennol.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) yn gweinyddu Cronfa Arloesi Sioeau Amaethyddol (y Gronfa Arloesi) ar ran Llywodraeth Cymru.
Pot Ariannu – £25,000
Agoriad ceisiadau – 18 Mehefin 2021.
Dyddiad Cau – 16 Gorffennaf 2021 am 5yh