Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Ar ôl bron 18 mis heb ddim digwyddiadau ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gyhoeddi Digwyddiad Ceffylau deuddydd ar Faes y Sioe ar y 18fed a’r 19eg Medi. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o ddosbarthiadau wedi’u gosod yn erbyn cefndir y Maes Sioe eiconig.
Neilltuwch y dyddiad i wneud yn siwr na fyddwch yn ei fethu. Bydd rhagor o fanylion am yr atodlen lawn a’r dosbarthiadau’n cael eu rhyddhau yn y man.