Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Yn niffyg Sioe Frenhinol Cymru, sydd wedi’i chanslo’n unol â’r cyfyngiadau sydd ohoni mae CAFC yn falch o gyhoeddi rhestr o ddosbarthiadau adrannau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y sioe geffylau sy’n dod yr Hydref hwn a gynhelir ar faes sioe Frenhinol Cymru dros y 3ydd penwythnos ym mis Medi.
Bydd yr Adrannau canlynol yn cael eu beirniadu dros y digwyddiad deuddydd a gynhelir ar y 18fed a’r 19eg o Fedi 2021;
Bydd angen i bob arddangoswr gadw at y rheoliad ffliw ceffylau er mwyn cael cystadlu. I’ch atgoffa ac i osgoi siom ar y diwrnod gwnewch yn siŵr fod eich ceffylau yn gyfredol o ran eu brechiadau ffliw ceffylau.
*Nodwch mae’r Rheolau Ffliw Ceffylau isod.*
Mae’r Gymdeithas yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar godi cyfyngiadau a gobeithir y bydd cyhoeddiadau yn y diwrnodau a’r wythnosau nesaf yn golygu y bydd modd rhedeg y digwyddiad hwn heb Gadw Pellter Cymdeithasol a niferoedd cyfyngedig. Bydd CAFC yn sicrhau bod camau’n cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau diogelwch pawb fydd yn dod.
Bydd atodlen lawn, beirniaid ayb. yn cael eu dosbarthu yn y man.
Rheolau Ffliw Ceffylau
Mae’r Gymdeithas yn disgwyl i’r holl geffylau fydd yn cystadlu fod â chofnod cyfredol o frechu rhag ffliw ceffylau. Rhaid iddynt fod wedi derbyn dau frechiad sylfaenol, sy’n cael eu rhoi dim llai na 21 diwrnod a dim mwy na 92 diwrnod oddi wrth ei gilydd.
Os oes digon o amser wedi mynd heibio rhaid i’r ceffyl sy’n cystadlu fod wedi derbyn brechiad atgyfnerthu hefyd, sy’n cael ei roi dim llai na 150 diwrnod a dim mwy na 215 diwrnod ar ôl ail elfen y brechiad sylfaenol, a brechiadau atgyfnerthu pellach o fewn ysbeidiau o ddim mwy na blwyddyn oddi wrth ei gilydd. Rhaid i ddim un o’r brechiadau fod wedi’i roi ar ddiwrnod y mynediad i faes y sioe nag ar unrhyw un o’r chwe diwrnod cyn y mynediad i faes y sioe.
Noder: Y gofynion lleiaf yw’r ddau frechiad sylfaenol, ynghyd â saith diwrnod cyn mynediad i faes y sioe. Rhaid i ebolion chwe mis oed neu hŷn gwrdd â’r gofyn lleiaf o ran brechu rhag ffliw ceffylau.