Adrannau wedi’u rhyddhau ar gyfer Sioe Geffylau Hydref Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Ffair Gaeaf nesaf o 30 Tachwedd – 1 Rhagfyr ’26.

Yn niffyg Sioe Frenhinol Cymru, sydd wedi’i chanslo’n unol â’r cyfyngiadau sydd ohoni mae CAFC yn falch o gyhoeddi rhestr o ddosbarthiadau adrannau a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y sioe geffylau sy’n dod yr Hydref hwn a gynhelir ar faes sioe Frenhinol Cymru dros y 3ydd penwythnos ym mis Medi.

Bydd yr Adrannau canlynol yn cael eu beirniadu dros y digwyddiad deuddydd a gynhelir ar y 18fed a’r 19eg o Fedi 2021;

  • Merlod Mynydd Cymreig – Adran A
  • Merlod Mynydd Cymreig – Adran A – Dan Gyfrwy
  • Merlod Cymreig – Adran B
  • Merlod Cymreig – Adran B – Dan Gyfrwy
  • Merlod Cymreig (Teip Cob) – Adran C
  • Merlod Cymreig (Teip Cob) – Adran C – Dan Gyfrwy
  • Cobiau Cymreig – Adran D
  • Cobiau Cymreig – Adran D – Dan Gyfrwy
  • Rhannol Bur Cymreig
  • Rhannol Bur Cymreig – Dan Gyfrwy
  • Adfeirch Cymreig
  • Ceffylau a Merlod Lliw
  • Merlod Shetland
  • Ceffylau Hela’n Magu
  • Ceffyl Chwaraeon
  • Ceffylau Hela’n Gweithio
  • Ailhyfforddi Ceffylau Rasio
  • Palominos
  • Cyfrwy Untu
  • Merlod Marchogaeth yn Magu
  • Merlod Hela Sioe yn Magu
  • Merlod Hela Sioe
  • Awenau Arwain a Marchogaeth Gyntaf
  • Merlod Marchogaeth Plant
  • Mynydd a Gweundir – A Farchogir
  • Mynydd a Gweundir – Awenau Arwain a Marchogaeth Gyntaf
  • Ceffylau Hela’n Marchogaeth
  • Cob, Ceffyl Cyfrwy a Cheffyl Marchogaeth
  • Ceffylau Tynnu Gwyddelig
  • Ceffylau Arab

Bydd angen i bob arddangoswr gadw at y rheoliad ffliw ceffylau er mwyn cael cystadlu. I’ch atgoffa ac i osgoi siom ar y diwrnod gwnewch yn siŵr fod eich ceffylau yn gyfredol o ran eu brechiadau ffliw ceffylau.

*Nodwch mae’r Rheolau Ffliw Ceffylau isod.*

Mae’r Gymdeithas yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar godi cyfyngiadau a gobeithir y bydd cyhoeddiadau yn y diwrnodau a’r wythnosau nesaf yn golygu y bydd modd rhedeg y digwyddiad hwn heb Gadw Pellter Cymdeithasol a niferoedd cyfyngedig.  Bydd CAFC yn sicrhau bod camau’n cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau diogelwch pawb fydd yn dod.

Bydd atodlen lawn, beirniaid ayb. yn cael eu dosbarthu yn y man.

Rheolau Ffliw Ceffylau

Mae’r Gymdeithas yn disgwyl i’r holl geffylau fydd yn cystadlu fod â chofnod cyfredol o frechu rhag ffliw ceffylau. Rhaid iddynt fod wedi derbyn dau frechiad sylfaenol, sy’n cael eu rhoi dim llai na 21 diwrnod a dim mwy na 92 diwrnod oddi wrth ei gilydd.

Os oes digon o amser wedi mynd heibio rhaid i’r ceffyl sy’n cystadlu fod wedi derbyn brechiad atgyfnerthu hefyd, sy’n cael ei roi dim llai na 150 diwrnod a dim mwy na 215 diwrnod ar ôl ail elfen y brechiad sylfaenol, a brechiadau atgyfnerthu pellach o fewn ysbeidiau o ddim mwy na blwyddyn oddi wrth ei gilydd. Rhaid i ddim un o’r brechiadau fod wedi’i roi ar ddiwrnod y mynediad i faes y sioe nag ar unrhyw un o’r chwe diwrnod cyn y mynediad i faes y sioe.

Noder: Y gofynion lleiaf yw’r ddau frechiad sylfaenol, ynghyd â saith diwrnod cyn mynediad i faes y sioe. Rhaid i ebolion chwe mis oed neu hŷn gwrdd â’r gofyn lleiaf o ran brechu rhag ffliw ceffylau.