Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cystadleuaeth Rheoli Tir Glas Cymru Gyfan 2021, sy’n cael ei rhedeg gan Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru ar y cyd â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac yn cael ei noddi’n garedig gan HSBC, yn gystadleuaeth y mae cystadlu brwd ynddi; ac er gwaethaf yr amgylchiadau diweddar, ’doedd eleni ddim yn eithriad.

Aeth y nòd buddugoliaethus olaf i enillydd teilwng iawn i aelod o Gymdeithas Tir Glas Powys: Marc Jones, Trefnant Hall, Aberriw, Y Trallwng; tra bod gwobr yr ail orau wedi’i rhoi i aelod o Gymdeithas Tir Glas Cleddau, Richard Morris, Bowett Farm, Hundleton, Sir Benfro.

Y ddau arall yn rownd derfynol y gystadleuaeth oedd:

  • Mark Egerton (MW & EM Egerton), Treveddw Farm, Pandy, Y Fenni (aelodau o Gymdeithas Tir Glas Sir Fynwy); a’r
  • Teulu Davies, Glaspant, Beulah, Castell Newydd Emlyn (aelodau o Gymdeithas Tir Glas Aberteifi)

Mae Marc Jones, gyda help a chefnogaeth ei dad David, yn rhedeg buches o 700 o wartheg bîff Aberdeen Angus croes gwartheg llaeth yn ogystal â diadell o 500 o famogiaid croes Romney Seland Newydd ynghyd â 130 o ŵyn benyw a gedwir ar 194 hectar defnyddiadwy (480 ers) o dir a rentir ar ddwy uned yn amrywio o 185 i 340m (600-1,100 troedfedd) uwchben lefel y môr.

Prynir 350 o loi benyw croes Aberdeen Angus wedi’u geni yn yr hydref bob blwyddyn yn 3 wythnos oed, a chânt eu magu ar silwair glaswellt o ansawdd uchel yn ystod ail hanner y gaeaf, eu troi allan i laswellt yn y gwanwyn a’u gorffen oddi ar laswellt yr haf canlynol yn 20-24 mis oed gyda phwysau carcas o 300kg ar ôl cael eu gaeafu allan ar fetys porthi a byrnau silwair glaswellt.  Mae’r ddiadell ddefaid sy’n ŵyna ym mis Ebrill yn cael ei gaeafu allan ar fetys porthi hefyd gydag 1.45 oen y famog yn cael eu magu gyda’r pwysau carcass yr anelir ato yn 19.5kg oddi ar laswellt.

Caiff 22.5 hectar (60 erw) o fetys porthi eu tyfu a’u pori gan wartheg blwydd a defaid sy’n cael eu gaeafu allan. Mae tua 16 hectar (40 erw) o wyndwnnydd tymor byr yn bennaf yn cael eu cynaeafu a’u clampio fel silwair o ansawdd uchel ar gyfer y lloi a gedwir dan do wedi’u diddyfnu gyda 40 hectar (100 erw) ychwanegol o wyndwnnydd tymor tir yn cynhyrchu tua 650 o fyrnau o silwair i’w bwydo i wartheg gyda’r betys porthi pori. I ymdopi ag effaith hafau sych, rhoddir pwyslais yn awr ar wyndwnnydd llysieuol sy’n cynnwys byswellt, meillion, sicori a llyriad gyda darn o gymysgedd llyriad, sicori, meillion coch a meillion gwyn yn cael ei bori gan y gwartheg ifanc am y tro cyntaf eleni. Mae’r fferm yn cymryd rhan yn y prosiect GrassCheck a chaiff y glaswellt ei fesur bob wythnos. Mae’r cynnyrch blynyddol wedi amrywio o 12.5 tunnell DM/hectar yn 2019 i 6.5 tunnell DM/hectar ym mlwyddyn sychder 2018. O ganlyniad, yr ymateb fu i gwestiynu’r ‘norm’ ac i gynyddu gorchuddion uwch nag o’r blaen yn ystod y tymor pori fel yswiriant yn erbyn y cyfnodau sych sydd bellach yn rhan anochel o’r rhan fwyaf o flynyddoedd.

Adroddodd y Beirniaid:

“Gyda Trefnant Hall, mae’r cynnyrch da byw cyffredinol yn dunnell o bwysau byw yr hectar, sy’n drawiadol iawn. Trwy fabwysiadu’r system, ac o ganlyniad i gynhyrchu a defnyddio porthiant yn effeithlon, mae’r fferm wedi gostwng costau yn fawr yr un pryd â chyflawni cynnyrch ffisegol ac ariannol i’w chwennych. I bob diben mae dwysfwydydd wedi’u dileu o’r ddiadell ddefaid yn ogystal â thu hwnt i’r cyfnod magu lloi i’r gwartheg, gan arwain at system ffermio sydd yn wirioneddol wedi’i seilio ar laswellt a phorthiant.

Yn ogystal mae’r fferm wedi cofnodi ôl troed Carbon tybiedig o 7.92kg CO y kg o gig oen a 10.37kg y kg o gig eidion mewn gwerthusiad diweddar a gynhaliwyd gan HCC o gymharu â chyfartaledd gwerthoedd cenedlaethol o 10.08kg a 14.05kg ar gyfer cig oen a chig eidion yn y drefn honno.  

Yn werth sylw arbennig oedd rheoli maethynnau yn effeithlon, mabwysiadu rhywogaethau porthiant a chymysgeddau hadau glaswellt newydd sbon i ymdopi â thueddiad y fferm i ddioddef gan sychder, defnydd effeithiol o bori cylchdro, mesur y glaswellt gyda mesurydd porfa yn rheolaidd a chynhyrchu silwair o ansawdd uchel yn ogystal â’r ddibyniaeth ar gnydau porthi a oedd yn galluogi i dda byw gael eu gaeafu allan yn llwyddiannus. Wedi’i ychwanegu at y rhain oedd hyblygrwydd a pharodrwydd i ymgyfaddasu oedd i’w fawr ganmol o ran agwedd ac o ran arfer, gwybodaeth hollgynhwysfawr am agweddau ffisegol ac ariannol y busnes, taro marchnadoedd premiwm a sicrhau contractau i ddiogelu prisiau a’r defnydd tra effeithlon o lafur.”

 Roedd gwanwyn oer a sych eleni gyda mis Mai gwlyb i ddilyn wedi creu rhai problemau’n gysylltiedig â diffyg porfa gynnar yn y gwanwyn a hefyd gynaeafau toriad cyntaf anodd i’r ddwy fferm laeth yn arbennig. Roedd y tywydd ychydig yn gynhesach ond ansefydlog a ddilynodd gydol yr wythnosau’n arwain at y beirniadu yn niwedd Mehefin yn golygu bod y tir glas a’r cnydau porthi fel ei gilydd yn edrych yn wirioneddol dda ac mae’r ymgeiswyr i gyd i’w canmol yn fawr ar olwg y tir glas a’r da byw yn ogystal â’r ffermydd yn gyffredinol.

Thema gyffredin, yn ogystal â rhagoriaeth rheoli’r tir glas, oedd yr ymwybyddiaeth o effaith bosibl dynodiadau NVZ sydd ar y gweill a chymwysterau rheoli amgylcheddol cadarn.  Roedd hyn yn wir am Bowett Farm, a oedd yn ail eleni, yn ôl y beirniaid:

“Ar Bowett Farm, yn ychwanegol at y rheoli trawiadol iawn ar y system bori ac ar y system silwair 3 thoriad, mae ail-hadu rheolaidd gyda glaswelltau siwgrog a mabwysiadu dull o fewn-chwistrellu gwrtaith nitrogen hylifol yn ddiweddar yn amlwg yn ogystal â seilwaith y fferm, sy’n dda ei gynllun ac yn cael ei gynnal yn berffaith. Mae cymwysterau ynni adnewyddadwy rhagorol sy’n arwain at hunangynhaliaeth o ran trydan o ffynonellau gwynt a ffynonellau solar a defnydd effeithlon iawn ar lafur yn ogystal â’r flaenoriaeth a roddir i amodau gwaith i gyd yn nodweddion allweddol ar ffordd Richard o wneud pethau”

Roedd Trefeddw Farm a Glaspant ill dwy’n cael eu cyfrif yn dda gan y Beirniaid hefyd – meddai Dr Iwan Owen:

“Mae Treveddw Farm wedi addasu’n llwyddiannus i’r math o system bori cylchdro drachywir a gysylltir yn bennaf fel arfer â buchod llaeth, roedd y defnydd effeithiol o bori gohiriedig a system aeafu a gynlluniwyd yn ofalus ar gyfer pob categori o stoc yn ogystal â mabwysiadu porfeydd amlrywogaeth yn agweddau tra nodedig. Roedd gorffen gwartheg ar laswellt pori, system gwbl ddi-ddwysfwyd a chadernid cyffredinol y system fferming yn nodweddion arbennig yn Treveddw hefyd yn ogystal â chariad diamheuol Mark at ei fferm a’i system ffermio.”

“Mae cynnyrch Llaeth Glaspant dros 7,400 litr y fuwch ar gyfartaledd gyda 3,620 litr oddi ar borthiant a 14,292l / hectar yn dod o’r llwyfan pori a thir silwair. Mae’r stoc ifanc yn cynhyrchu 822kg pwysau byw/hectar tra pharchus hefyd. Yn tynnu sylw’n arbennig oedd y silwair ansawdd uchel a wneir, rheolaeth gyffredinol y cladd silwair (yn arbennig y cladd agored a oedd yn cael ei fwydo yn yr haf gyda’r nesaf peth i ddim gwastraff amlwg), y defnydd trawiadol iawn sy’n cael ei wneud o slyri a thom, y defnydd effeithiol o gontractwyr a’u llafur eu hunain, y gofalu a’r cynnal a chadw ar beiriannau cynaeafu a oedd ymhell o fod yn newydd ond a oedd yn edrych yn berffaith a golwg cyffredinol y fferm, yr iard a’r adeiladau – nodwedd wirioneddol arbennig.”

 

Beirniaid y gystadleuaeth eleni, yr ydym yn wirioneddol ddiolchgar iddynt am eu cymorth, oedd:

  • Dr Iwan Owen Prifysgol Aberystwyth (Beirniad Technegol);
  • Euryn Jones Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth Rhanbarthol HSBC – Cymru a’r De-Orllewin
  • Sam Carrey, Rhiwlas Dairy Ltd, Rhiwlas, Y Bala – Enillydd Cystadleuaeth Rheoli Tir Glas FWGS 2019.

 

Meddai Charlie Morgan, Ysgrifennydd FWGS:

“Ar ôl y siom o ganslo cystadleuaeth 2020 a orfodwyd gan Covid, roedd yn fraint gan y panel beirniadu ymweld â phedwar ffermwr tir glas rhagorol ac rydym yn ddiolchgar i’r rhai yn y rownd derfynol am eu lletygarwch a’r teithiau rhagorol o gwmpas eu ffermydd.”

Bydd enillydd Cystadleuaeth Rheoli Tir Glas Cymru Gyfan, Marc Jones yn derbyn Tlws Parhaol y Ffederasiwn yn ogystal â £250; tra bydd Richard Morris yn derbyn £150 fel yr ail orau.  Mynegwn ein diolchgarwch hefyd i’n noddwyr a’r holl ymgeiswyr yn y rownd derfynol a’r rowndiau rhanbarthol, sydd gyda’i gilydd wedi sicrhau canlyniad gwerth chweil.  Dymunwn y gorau i Marc Jones a’r teulu wrth iddo symud ymlaen i gystadlu yng ‘Nghystadleuaeth Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn 2021’ Cymdeithas Tir Glas Prydain’.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn y gallai cystadleuaeth eleni gael ei beirniadu yn ystod y pandemig Covid 19 a byddai’n hoffi cymryd y cyfle hwn i longyfarch a diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth, yn cynnwys y beirniaid, y noddwr HSBC a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru am eu hymroddiad a’u cefnogaeth barhaus wrth redeg cystadleuaeth mor arbennig.