ENILLWYR CYSTADLEUAETH MENTER MOCH CYMRU A CFFI CYMRU YN DATHLU - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bydd chwech o aelodau ffermwyr Ifanc Cymru yn cychwyn magu moch mis Medi eleni wedi iddynt ennill Cystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a Cffi Cymru.

Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â’r enillwyr ei wneud heddiw yn y CAFC Sioe Frenhinol Rithiol.

Y chwe unigolyn fydd yn derbyn pum porchell ddechrau Medi eleni fydd Dylan Phillips o Fwlch y Rhandir, Ceredigion, Eiry Williams o Langwyryfon, Ceredigion, Luned Jones o Lanwnnen, Elliw  Roberts o Ynys Mon, Sally Griffiths o Faesyfed a Laura Evans o Langwyryfon

Lansiwyd y gystadleuaeth ym mis Ebrill eleni i ddod o hyd I 6 ceidwad moch newydd brwdfrydig.  Roedd y broses yn cynnwys cais ysgrifenedig ac yna ymweliad rhithiwr a’r fferm ac asesiad.

Yn ôl y beirniaid eleni roedd hi’n gystadleuaeth agos iawn gyda phob un o’r cystadleuwyr yn frwd am gadw moch. Roedd pob un o’r ceisiadau wedi creu argraff ar y beirniaid.

Fel gwobr yn ogystal â phum porchell bydd pob un cystadleuydd hefyd yn cael eu cefnogi gyda rhaglen hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau angenrheidiol i sefydlu’r a rheoli’r fenter newydd hon.

Bydd y rhaglen hyfforddiant yn cynnwys lles a gofalu am foch, deddfwriaeth, bwyd anifeiliaid a maeth gyda hyfforddiant ychwanegol yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal bydd cefnogaeth a sesiynau mentora ar gyfer y cystadleuwyr gan arbenigwyr o’r sector foch.

I gystadlu yn y gystadleuaeth roedd yn rhaid i’r cystadleuydd fod yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc ac yn angerddol am fagu moch. Bydd pob un o’r enillwyr yn derbyn yr her i fagu ei moch ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn ystod Ffair Aeaf Brenhinol Cymru, bydd y prif enillydd yn cael ei ddewis.

Wedi iddo glywed am ei lwyddiant dywedodd Dylan Phillips o Fwlch y Rhandir, Llangwyryfon ei fod yn anrhydedd iddo ennill ei le yn un o’r chwech olaf yn y gystadleuaeth.

“Rwy’n gyffrous iawn i gymryd rhan yng nghamau nesaf y gystadleuaeth ac rydw i wedi dysgu gymaint ynglŷn â chadw moch yn barod wrth gymryd rhan yn rhannau cyntaf y gystadleuaeth.  Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu llawer mwy dros y misoedd nesaf.”

“Rwy’n edrych ymlaen At ddysgu llawer mwy dros y misoedd nesaf, trwy gael profiad gyda’r moch ,a gyda’r hyfforddiant rhithiol.  Mae hyn yn gwireddu breuddwyd,” ychwanegodd.

Wrth drafod y cynnwrf ynglŷn â’r cyhoeddiad dywedodd Elliw Roberts o Fryn Sannan, Ynys Môn, aelod o CFFI Rhosybol bod y gystadleuaeth yn gyfle i’r to ifanc ddechrau meddwl am y posibilrwydd o arallgyfeirio i faes arall ym myd amaeth.

“Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi hyd yma ac wedi gwneud i mi ddechrau meddwl am arallgyfeirio ar ein fferm, ac rwy’n gobeithio gwneud hynny yn y dyfodol, ynghyd â chadw mwy o foch ar ôl y gystadleuaeth yma.”

Wrth longyfarch aelodau CFFI Cymru dywedodd Clare James, Cadeirydd Materion Gwledig CFFI Cymru.

“Mae’r rhaglen Menter Moch Cymru yn fenter arbennig i aelodau CFfI Cymru. Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu sgiliau busnes a rheoli da byw. Mae’n rhoi cyfle unigryw a chyffrous i aelodau gael profiad ymarferol o gadw moch, ac mae hyn yn oed yn rhoi’r cyfle i’r ffermwyr ifanc sy’n cymryd rhan i ddatblygu busnes newydd a chyffrous, cyfle y mae nifer o’n cyn-gystadleuwyr wedi mentro arno’n llwyddiannus.

“Rydym ni yn CFfI Cymru a’r Pwyllgor Materion Gwledig yn falch iawn o gael y cyfle i weithio unwaith eto gyda Menter Moch Cymru ar y prosiect yma, a hoffem gymryd y cyfle hwn i ddymuno pob lwc i’r enillwyr eleni.”

Ychwanegodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Mae Menter Moch Cymru yn falch o gydweithio gyda CFfI Cymru eto ar y cyfle unigryw yma. Mae’n galondid gweld bod brwdfrydedd a diddordeb yn y sector moch yma yng Nghymru, yn enwedig yn dilyn cyfnod anodd i’r diwydiant amaeth.

“Mae’r fenter wedi bod yn llwyddiant mawr yn y gorffennol, gyda nifer o ffermydd yn arallgyfeirio I gadw moch a busnesau newydd yn cael eu dechrau. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r enillwyr a’u cefnogi gyda’r fenter newydd.”

Ariannir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.