Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dewiswyd Luned Jones, myfyrwraig BSc (Anrh) blwyddyn olaf mewn Gwyddor Biofilfeddygol o Lanwnnen yng Ngorllewin Cymru, fel y sawl i dderbyn y wobr eleni.

Meddai hi: “Rwyf yn ei theimlo’n anrhydedd ac yn fraint aruthrol fy mod wedi fy newis yn enillydd Myfyriwr y Flwyddyn Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2021. “Teimlaf yn wylaidd fod fy nghyraeddiadau hyd yma wedi’u cydnabod fel hyn ac ni allwn feddwl am ddiweddglo gwell i’m pum mlynedd yn Harper Adams.”

Bu gwobr Myfyriwr y Flwyddyn Harper Cymry/Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn rhedeg am fwy na dau ddegawd, ar ôl cael ei sefydlu yn 1999 gan y diweddar Bill Ratcliffe, Cymrawd o Harper Adams a sylfaenydd cymdeithas cynfyfyrwyr Harper Cymry.

Mae’r wobr yn agored i fyfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf y pum mlynedd ddiwethaf, sydd wedi cyfrannu at gymdeithas myfyrwyr Harper Cymru a hefyd at gymuned myfyrwyr ehangach Prifysgol Harper Adams – ac yr ystyrir hwy’n llysgennad addawol yn y dyfodol i Brifysgol Harper Adams.

Mae’r sawl sy’n ei derbyn yn gymwys hefyd ar gyfer aelodaeth Ffermwyr Dyfodol Cymru, gan ymuno â chlwb elît o ffermwyr ifanc ymarferol, profedig y mae’u trafodaethau a’u barn yn helpu i lunio dyfodol ffermio yng Nghymru.

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn eleni yw’r ail waith y mae cyraeddiadau Luned wedi’u nodi gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru – gan fod bridio prif bencampwr Ffair Aeaf Cymru gan ei theulu, yn ôl yn 2015, wedi’i rhoi hi ar y llwybr at ei gradd bresennol – y cam cyntaf tuag at yrfa fel genetegydd da byw.

Ychwanegodd hi: “Rwyf yn fridiwr da byw brwd ac rwyf yn mwynhau cymryd rhan mewn amrywiol gystadlaethau a digwyddiadau megis Ffair Aeaf Cymru.  Yn 2015, roeddem ni fel teulu yn ddigon ffodus i fridio prif bencampwr Ffair Aeaf Cymru, sydd o bell yn un o’m llwyddiannau balchaf ac anwylaf.

“Byddwn yn ystyried y foment hon fel y trobwynt yn fy nyheadau gyrfa, a llwyddiant o’r fath, wedi ei gyplysu â fy magwraeth ffermio, yw ble mae fy niddordeb mewn geneteg a bridio yn deillio ohono.

“Dewisais astudio BSc mewn Gwyddor Biofilfeddygol gan fy mod wedi bod â fy ffocws o’r diwrnod cyntaf ar weithio o fewn ochr wyddonol y sector gwledig, gan roi’r cyfle imi roi yn ôl i’r sector sy’n chwarae rhan sylfaenol yn fy mywyd pob dydd.”

Luned a’i chwaer yw’r nawfed genhedlaeth o ffermwyr ar fferm bîff a defaid ei theulu, ac mae hi wedi sefydlu buches o wartheg Limousin ar y safle yn ddiweddar.

Mae hi’n gobeithio’n awr gyfuno ei gwaith ar y fferm gydag astudiaethau ôl-raddedig mewn geneteg – ac i gymhwyso’r wybodaeth honno i helpu i wella  proffidioldeb y fferm, yn ogystal ag ychwanegu at y sgiliau y mae hi wedi’u dysgu dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Ychwanegodd hi: “Yn ystod fy amser yn Harper Adams rwyf wedi neidio ar bob cyfle sy’n codi, gan ennill nifer o dystysgrifau yn cynnwys cymorth cyntaf, gyrru tractors, a rheolaeth busnes sylfaenol, ac rwyf wedi cwblhau fy nghymhwyster AMTRA yn ddiweddar. “Rwyf wedi cael cyfleoedd amhrisiadwy – megis y flwyddyn a dreuliais yn Seland Newydd ar leoliad – yn ogystal â sefydlu cysylltiadau hanfodol yn y diwydiant. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau oes ar hyd y ffordd, rhywbeth y byddaf yn ddiolchgar i Harper amdano am byth.

“Byddwn yn hoffi cymryd y cyfle hwn hefyd i ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Ddatblygu am eu holl waith caled a’u hymroddiad wrth annog myfyrwyr fel fi fy hun i wneud cais am ysgoloriaethau. Yn ddiamheuol mae’u cyfarwyddyd wedi fy helpu i ennill nifer o ysgoloriaethau trwy gydol fy amser yn Harper.”

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch o gefnogi’r Wobr hon sy’n cydnabod potensial eithriadol y genhedlaeth nesaf.