Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wrth ei bodd o gyhoeddi y bydd Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni yn dychwelyd i Faes y Sioe yn Llanelwedd fel digwyddiad deuddydd ar y 29ain a’r 30ain Tachwedd 2021.

Ar ôl peidio â gallu cynnal digwyddiadau ar Faes Sioe Frenhinol Cymru er Ffair Aeaf 2019 oherwydd y pandemig Coronafeirws, mae’r Gymdeithas yn llawn cyffro o fod yn croesawu arddangoswyr ac ymwelwyr sy’n dychwelyd i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021, a fydd unwaith eto’n arddangos y stoc ddethol orau i fwynhau dau ddiwrnod yn orlawn o gystadlaethau a siopa Nadolig ar gyfer y Gwyliau sydd ar ddod.

Meddai Alwyn Rees, Cadeirydd Pwyllgor y Ffair Aeaf, ‘Mae’r Gymdeithas wrth ei bodd o allu cynllunio ei digwyddiad mawr cyntaf dan y canllawiau presennol ers dengmlwyddiant ar hugain y Ffair Aeaf yn 2019. Rwyf yn siŵr fod yna lawer o arddangoswyr, masnachwyr a noddwyr yn aros yn eiddgar i’r Ffair ddychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru ac rydym ninnau’n edrych ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn Ffair Aeaf 2021. Mae’r achlysur yn cael ei gynllunio gyda chyfyngiadau Coronafeirws yn eu lle ond mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at sioe lwyddiannus a byddem yn hoffi annog pawb sydd â chysylltiad â’r Ffair i gymryd rhan yn nigwyddiad eleni.’

Bydd cynigion i gystadlu yn Ffair Aeaf 2021 trwy ein porth cynigion ar-lein y gellir ei gyrchu ar wefan y Gymdeithas er mwyn cydymffurfio â rheoliadau ‘Tracio ac Olrhain’. Byddir yn derbyn cynigion ar gyfer yr holl ddosbarthiadau o ddydd Mercher 22ain Medi 2021. Byddir yn trefnu bod atodlenni’r cystadlaethau ar gael i’w lawrlwytho ar dudalennau Ffair Aeaf gwefan y Gymdeithas.

Ynghyd â’r rhaglen arferol o gystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle perffaith i’r siopwr chwaethus ddod o hyd i anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol ar y cannoedd o stondinau masnach. Bydd y neuadd fwyd yn cynnig arddangosfa o’r cynhyrchwyr bwyd a’r cynnyrch Cymreig gorau un unwaith eto, gan demtio ymwelwyr i flasu’r amrywiaeth eang o ddanteithion wedi’u coginio sydd ar gael.

Bydd cyfyngiadau COVID yn eu lle yn y Ffair Aeaf a byddant yn cynnwys rheoliadau diweddaraf y Llywodraeth ar yr adeg y mae’r Ffair yn digwydd. Dim ond e-docynnau fydd ar gael i’w prynu ar gyfer y Ffair er mwyn i’r Gymdeithas gydymffurfio â rheoliadau ‘Tracio ac Olrhain’. Bydd tocynnau ar gael i’w prynu ar sail y cyntaf i’r felin gaiff falu unwaith y byddant yn mynd ar werth. Bydd manylion sut y gellwch brynu tocynnau yn cael eu rhyddhau maes o law.