Diwrnod cyntaf Sioe Geffylau yr Hydref CAFC yn cael ei ystyried yn llwyddiant gyda’r holl fynychwyr yn gyffrous i fod ar Faes Sioe enwog y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd unwaith eto - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’n hyfrydwch gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fod arddangoswyr, gwirfoddolwyr ac aelodau’r cyhoedd wedi teithio i Faes y Sioe i fod yn rhan o’r digwyddiad deuddydd untro hwn.

Ar ôl methu gallu cynnal digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru er Ffair Aeaf 2019 oherwydd y pandemig Coronafeirws, mae’r Gymdeithas ar ben eu digon gyda’r gefnogaeth a gafwyd ar ddiwrnod cyntaf Sioe Geffylau yr Hydref.

Cyrhaeddodd llawer o arddangoswyr ar y nos Wener gyda gwên ar eu hwynebau wrth iddynt gyfarfod hen gyfeillion a chystadleuwyr eraill sydd wedi gwneud y daith hirddisgwyliedig yn ôl i Faes y Sioe unwaith eto i gystadlu am eu teitlau clodfawr priodol yn Sioe Geffylau eleni.

Wrth i’r cystadlaethau dynnu at eu terfyn ar ddiwrnod cyntaf y Sioe, mae pawb yn barod am yr hyn sy’n addo bod yn ddiwrnod cyffrous arall eto yfory (19/09/2021). Ar ôl derbyn dros 1200 o geisiadau ar gyfer y cystadlaethau sy’n digwydd mae’n dipyn o olygfa unwaith eto gweld pawb yn cystadlu yn y tri chylch ar draws Maes y Sioe.

Meddai Chris Davies, Cyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol: ‘Rydym wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth yr ydym wedi’i derbyn i’r sioe geffylau, wrth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru gynnal ei digwyddiad cyntaf ers cyn y pandemig. Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cystadlu a hefyd wedi mynychu’r sioe geffylau gan eu bod wedi bod yn amyneddgar iawn gyda’r Gymdeithas yn gorfod cydymffurfio â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru a hefyd yn gweithredu rheoliadau Tracio ac Olrhain o gwmpas Maes y Sioe. Mae tocynnau yn dal i fod ar gael i’w prynu ac maent ar werth tan ganol dydd yfory drwy ein gwefan os hoffech chi ymuno â ni ddydd Sul.’