Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wrth i Sioe Geffylau’r Hydref dynnu at ei therfyn y prynhawn yma, mae’r ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn orlawn o ddathliadau ac wedi arddangos golygfa drawiadol i bawb sy’n selogion ceffylau o bob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Gyda dros 4000 o ymwelwyr i’n digwyddiad cyntaf ar Faes y Sioe ers y pandemig, mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn gefn iddynt yn y 18 mis diwethaf anodd iawn ac maent yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair iawn. Mae’r digwyddiad newydd hwn nid yn unig wedi dod â llawer o ymwelwyr yn dychwelyd i Faes y Sioe ond hefyd wedi rhoi ymdeimlad o normalrwydd i’r rheini yn y gymuned leol, gyda berw o weithgaredd yn dod o’r tu mewn i amderfyn gatiau Maes y Sioe.

Yn cwblhau ychydig ddyddiau gwych o gystadlaethau ceffylau lle bu’r cystadlu’n frwd, yng nghylch y ceffylau, y prif gylch a chylch y gwartheg, rydym wrth ein bodd fod pawb wedi cael amser gwych gyda ni unwaith eto ar Faes y Sioe. Llongyfarchiadau i holl enillwyr y penwythnos. Bydd rhestr lawn o’r canlyniadau ar gael i’w lawrlwytho ar ein gwefan ddydd Llun 20fed Medi.

Rhaid sôn yn arbennig am ein holl noddwyr sydd wedi cyfrannu tuag at y digwyddiad newydd sbon hwn a hefyd am bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i wirfoddoli gyda ni dros y ddau ddiwrnod diwethaf, bu eich cymorth amhrisiadwy heb ei debyg ac rydym yn gobeithio y bydd y cysylltiadau hyn yn parhau i dyfu wrth i’r Gymdeithas agor o fewn y diwydiant digwyddiadau unwaith eto.

Meddai Mared Jones, Pennaeth Gweithrediadau; ‘Ni allwn ddiolch digon i bawb a oedd a wnelo â’r digwyddiad y penwythnos yma wrth inni fynd llawer pellach nag oedd rhaid i sicrhau bod pawb a fu’n ymweld â Maes y Sioe wedi teimlo’n ddiogel i fod yn ôl allan yn cyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto gan weithredu canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar hyd a lled Maes y Sioe. Roedd y Gymdeithas wedi’i syfrdanu gan y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Sioe Geffylau a byddem yn hoffi diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni’r penwythnos yma.’