Myfyriwr y flwyddyn CAFC - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn cael ei dyfarnu gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau tystysgrif/diploma NVQ Lefel III neu ND/NC BTEC, C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad neu gyrsiau rheoli eraill yn gysylltiedig â’r tir.

Bydd Myfyriwr y Flwyddyn yn derbyn Tystysgrif a gwobr ariannol ac fe’i gwahoddir i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr 2022 y Gymdeithas.

Enillydd 2021 Winner – Joshua Adam O’Sullivan Woodward; (Coleg Penybont)

Mae Joshua’n fyfyriwr yng Ngholeg Penybont ar Gampws Pencoed, mae wedi astudio a chwblhau ei Lefel 2 Anifeiliaid Fferm a Sgiliau Cefn Gwlad a Lefel 3 Rheoli Cefn Gwlad gyda chlod.  Ym mis Medi bydd yn parhau i astudio ar gyfer HND mewn Rheolaeth Cadwraeth Amgylcheddol.

Mae Joshua wedi ennill profiad ymarferol o weithio ar Fferm Ynysnadd am y 5 mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys gwaith metel, plannu a phlygu gwrychoedd ynghyd â gwaith fferm pob dydd.  Mae’n parhau i ddysgu sgiliau newydd trwy wirfoddoli gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot fel Gweithiwr Cefn Gwlad ac yn ddiweddar bu’n gwirfoddoli yn Amgueddfa Glowyr De Cymru gan ennill mwy o sgiliau cynnal a chadw a gwaith gof.

Mae Joshua yn bwriadu gweithio gyda nifer o sefydliadau yn y sector rheoli tir a chadwraeth i feithrin mwy o sgiliau ymarferol ac i ehangu ei set sgiliau, gan weithio tuag at ddod yn Geidwad Cefn Gwlad, yn gweithio naill ai gyda Pharc Cenedlaethol neu brosiectau cadwraeth, cymysgedd rhwng amaethyddiaeth a chefn gwlad.

Un o brif orchestion personol Joshua yw ei fod yn rhedeg ei fusnes cadw gwenyn bach ei hun.  Dechreuodd y fenter hon ar ôl ymuno â chymdeithas cadw gwenyn leol a thros y blynyddoedd mae wedi cynyddu’r busnes yn araf o fenter fechan iawn o ddim ond dau gwch gwenyn i gymaint â 15 i 20 yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn.  Mae’r cynnyrch i gyd yn cael ei echdynnu â llaw, ei botelu a’i werthu trwy deulu, cyfeillion a phobl leol.

Fe wnaeth y beirniaid y sylw – “Mae Joshua’n ymgeisydd teilwng iawn i ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn, mae ganddo’r egni a’r cymhelliant i ennill profiad tra’i fod yn astudio yn y Coleg.  Mae’n gymunedol ei fryd ac mae ganddo feddwl agored cytbwys pan ddaw hi’n fater o gadwraeth ac amaethyddiaeth.  Dymunwn bob llwyddiant iddo gyda’i HND a’i yrfa yn y dyfodol.

Mr D Iori Evans

Yr Athro E Wynne Jones OBE FRAgS