Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
A ydych chi am ymuno â ni ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ar y 29 a 30 o Dachwedd ar gyfer Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2021? Mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at groesawu selogion y Ffair Aeaf ar eu dychweliad i Faes Sioe Frenhinol Cymru am ei digwyddiad mawr cyntaf er Ffair Aeaf 2019.
Ni fydd hi’n hir nes bydd maes y sioe yn llawn arddangoswyr, da byw gwobrwyol a siopwyr Nadolig unwaith eto gan fod y paratoadau at Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gynhelir bob blwyddyn fel arfer, ar eu hanterth. Mae mesurau diogelwch ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod diogelwch pawb yn brif flaenoriaeth pan fyddant yn ymweld â maes y sioe.
Fel un o’r sioeau stoc ddethol gorau yn Ewrop, mae’r Ffair Aeaf yn denu tyrfaoedd o bobman i fwynhau deuddydd yn orlawn o gystadlaethau, dathliadau a siopa Nadolig.
Ynghyd â’r rhaglen orlawn arferol o gystadlaethau, dosbarthiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau mae’r Ffair Aeaf yn cynnig y cyfle perffaith i’r siopwr chwaethus i gael gafael ar anrhegion Nadolig unigryw a gwreiddiol o’r cannoedd o stondinau masnach sydd wedi’u gwasgaru ar draws maes y sioe yn ystod y sioe ddeuddydd. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau edrych o gwmpas yr arddangosiadau a’r arddangosfeydd, yn gwrando ar garolau a bandiau’n perfformio ledled maes y sioe.
Rydym wedi cael ymateb enfawr gan ein harddangoswyr a’n masnachwyr sy’n edrych ymlaen at roi troed yn ôl ar Faes y Sioe ym mis Tachwedd. Mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen hefyd at yr hyn sydd am fod yn ddigwyddiad deuddydd gwych yn llawn dathliadau yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.
Bydd y ffair yn agor ei drysau i’r cyhoedd am 8 bob bore ac ar y nos Lun bydd stondinau masnach ar agor trwy’r min nos ar gyfer siopa Nadolig gyda’r hwyr ac yn gweld arddangosfa tân gwyllt ardderchog yn dychwelyd. Oherwydd rheoliadau Tracio ac Olrhain Llywodraeth Cymru ni fyddwn yn gallu cynnig mynediad am ddim ar ôl 4.00 y pnawn ar y nos Lun.
Bydd angen i bob tocyn gael ei brynu cyn y digwyddiad trwy ein gwefan ar gyfer Ffair Aeaf 2021 er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau Coronafeirws cyfredol. Er mwyn cael mynediad i’r Ffair bydd angen i bawb sy’n ymweld â ni yn Llanelwedd ddarparu tystiolaeth o’u pàs COVID GIG neu brawf llif unffordd negyddol wrth gyrraedd er mwyn cael mynediad.
Os hoffech chi ymuno â ni yn Ffair Aeaf 2021, prynwch eich e-docynnau cyn y Ffair ar ein gwefan heddiw.
I gael mwy o wybodaeth ac i brynu’ch tocynnau ewch i: