Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Oherwydd y newidiadau yn y trwyddedu gyda chrynoadau adar, a ddaeth i rym ar yr 8fed Tachwedd ynglŷn â lledaeniad Ffliw Adar, ni fydd y Gymdeithas yn gallu cynnal y Sioe Ddofednod yn Ffair Aeaf 2021.

Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth pawb hyd yma pa un ai fel cystadleuydd, noddwr, beirniad, stiward neu gefnogwr ac rydym yn siomedig y bu’n rhaid gwneud y penderfyniad hwn i beidio â chael y sioe ddofednod yn Ffair Aeaf eleni.

Os ydych wedi bod a wnelo mewn unrhyw ffordd ag adran Ddofednod y Gymdeithas yn Ffair Aeaf eleni, ac nad ydych wedi clywed gan aelod o’r staff cysylltwch â phrif swyddfa’r Gymdeithas ar Faes y Sioe ar 01982 553683 os gwelwch yn dda.

Mae canllawiau bioddiogelwch a gwybodaeth ynglŷn â sefyllfa ddiweddaraf y ffliw adar ar gael ar:
Lloegr: https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu
Yr Alban: www.gov.scot/avianinfluenza
Cymru: https://gov.wales/avian-influenza-bird-flu