Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o barhau i gefnogi Ymddiriedolaeth Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield, sefydliad sy’n gwobrwyo unigolion â chyfleoedd sy’n newid bywyd, er mwyn ceisio datblygu arweinwyr ac arloeswyr y dyfodol yn y sector amaethyddol.
Mae pob Ysgolor Nuffield yn gweithio o fewn y sectorau ffermio, bwyd, garddwriaeth neu’r sector gwledig ac yn ystod eu hastudiaethau 18 mis o hyd byddant yn ymgymryd â’u prosiect ymchwil yn eu maes diddordeb. Byddant yn derbyn bwrsari i’w hannog i deithio am o leiaf wyth wythnos, gan ganiatáu iddynt y cyfle i astudio arferion a ddefnyddir dramor a gartref.
Mae’n bleser mawr gan y gymdeithas noddi Ysgolor Sioe Frenhinol Cymru 2022, Ms Miranda Timmerman o’r Fenni, a’i dewis bwnc hi yw ‘‘Ymchwilio i ddulliau cynaliadwy i wella rheoli parasitiaid gastro-berfeddol – gan leihau ymwrthedd i anthelmintigau yn niadell ddefaid y DU’. Fe’i noddir ar y cyd gan CAFC, Cwmni Anrhydeddus y Ffermwyr gyda Savills a Gwobr Nuffield i’r Ifanc.
Milfeddyg yw Miranda sy’n gweithio gyda ffermydd defaid, llaeth a bîff yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Mae hi’n cymryd diddordeb arbennig mewn dewisiadau eraill cynaliadwy i reoli parasitiaid ac mae hi wedi defnyddio technegau nad ydynt yn gofyn am bryfleiddiaid. Ar gyfer ei hysgoloriaeth, mae Miranda’n dymuno ymchwilio i ddulliau cynaliadwy o leihau ymwrthedd i anthelmintigau, problem gynyddol yn niadell ddefaid y DU. Mae hi’n bwriadu defnyddio ei dysg i gyflenwi ffermwyr defaid, milfeddygon a’r diwydiant ehangach ag ymagwedd ymarferol, flaengar at reoli parasitiaid sy’n fuddiol i bawb.
“Mae’r gymdeithas wedi ymrwymo i annog a chefnogi addysg ac ymchwil o fewn y diwydiant amaeth a diwydiannau’r tir yng Nghymru. Mae ein buddsoddiad parhaol mewn pobl ifanc yn rhan allweddol o’n cymdeithas yn y dyfodol.” medd Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.
“Mae darparu’r bwrsari a chyfle i unigolyn ddod yn Ysgolor Ffermio Nuffield yn sicrhau bod ein diwydiannau gwledig ac unigolion yn parhau i wella ac elwa ar eu hymchwil a’u dysg.”
“Dymunwn bob lwc i Miranda a’r holl ysgolorion eraill gyda’u hastudiaethau ac edrychwn ymlaen at dderbyn yr adroddiadau pan gânt eu cyhoeddi.”