Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Dyw hi ond mater o ddyddiau yn awr nes bydd Maes y Sioe yn Llanelwedd yn llawn ymwelwyr, arddangoswyr a da byw gwych unwaith eto. Mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at groesawu selogion y Ffair Aeaf sy’n dychwelyd i Faes Sioe Frenhinol Cymru ar gyfer ei digwyddiad mawr cyntaf ers Ffair Aeaf 2019.

Eleni mae hi’n bwysig nodi y bydd angen i bob tocyn gael ei brynu cyn y digwyddiad trwy ein gwefan ac na fydd tocynnau ar gael wrth y giât. Bydd angen i ymwelwyr sy’n mynychu’r Ffair Aeaf sydd dros 18 oed ddarparu tystiolaeth o’u Pàs COVID GIG neu brawf llif unffordd negyddol wrth gyrraedd er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau Coronafeirws cyfredol yng Nghymru. Oherwydd rheoliadau Tracio ac Olrhain Llywodraeth Cymru ni fyddwn yn gallu cynnig y mynediad am ddim arferol ar ôl 4 pm ar y nos Lun.

Mae mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod diogelwch pawb yn brif flaenoriaeth pan fyddant yn ymweld â maes y sioe. Rydym yn gofyn yn garedig i bob ymwelydd wisgo gorchuddion wyneb pan fyddant y tu mewn i unrhyw un o’n hadeiladau, glynu at gadw pellter cymdeithasol a chadw at systemau unffordd a defnyddio ein mannau diheintio dwylo yn rheolaidd.

Prynwch eich tocynnau ar gyfer y Ffair Aeaf ar-lein yn awr ar ein our gwefan. I gael mwy o wybodaeth am y ffair a’n mesurau diogelwch COVID ewch i www.rwas.wales/winter-fair/.