Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Wrth i ddiwrnod cyntaf Ffair Aeaf Brenhinol Cymru dynnu at ei derfyn, mae’r Gymdeithas wedi mawr fwynhau croesawu ymwelwyr ac arddangoswyr yn ôl i Faes y Sioe yn Llanelwedd ar gyfer yr hyn a fu’n gychwyn ardderchog i’r digwyddiad.

Agorwyd Ffair Aeaf eleni yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, Mr David Lewis DL FRICS FLAA FRAgS yn Neuadd Arddangos Frenhinol Cymru. Mae Mr Lewis yn rhoi’r gorau iddi fel Cadeirydd y Cyngor ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth eithriadol, sydd wedi cynnwys bod yn Gadeirydd y Bwrdd ac yn Llywydd ym Mlwyddyn Nawdd Sir Gâr.
Yn dilyn yr agoriad cafodd gwobrau eu cyflwyno.

Dyfarnwyd Gwobr Goffa John Gittins 2021, un o’r gwobrau mwyaf clodfawr yn amaethyddiaeth Cymru, i Mr Terry Bayliss am gyfraniad nodedig i Ddiwydiant Defaid Cymru.

Aeth Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen CAFC 2022 i Miss Katie Davies, cyn-Gadeirydd CFfI Cymru. Mae’r bwrsari yn galluogi’r person ifanc a ddewiswyd i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen, un o’r digwyddiadau pwysicaf yn y diwydiant amaethyddol.

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Ffermio Nuffield 2022 i Ms Miranda Timmerman, milfeddyg o’r Fenni sydd â’i bryd ar ymchwilio i ddulliau cynaliadwy o leihau ymwrthedd i anthelmintigau, sy’n dod yn broblem gynyddol mewn diadelloedd defaid ledled y Deyrnas Unedig.

Cyflwynwyd Gwobr Cymrodoriaeth CARAS i deulu’r diweddar Mr Richard Tudor.

Yn ystod ei anerchiad agoriadol, meddai Mr Lewis; “Gadewch inni gael ein calonogi gan ansawdd rhagorol a gwirioneddol eithriadol y cynnyrch, yma yn y cylchoedd dangos ac yn y Neuaddau Arddangos. Rydym yn falch iawn ohono. Peidied neb ag anghofio mai Amaethyddiaeth Cymru yw asgwrn cefn ein cymunedau, ac mae gennym i gyd gyfrifoldeb i gefnogi a darlledu’r neges gadarnhaol yma ymhell ac agos.”

Roedd cystadleuwyr da byw yn eiddgar i ddychwelyd i gylchoedd sioe Frenhinol Cymru unwaith eto bore heddiw, gyda sioe gampus o dda byw o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn cael eu harddangos. Bydd rhestr lawn o ganlyniadau’r Pencampwriaethau’n cael ei dosbarthu ar ôl y Ffair. Mae’r Gymdeithas yn fythol ddiolchgar am y gefnogaeth gan gannoedd o stondinau masnach sy’n bresennol dros y ddau ddiwrnod, yn cynnwys yr arddangosfa orau o gynnyrch Cymreig yn y Neuadd Fwyd adnabyddus. Gydag anrhegion unigryw, y gorau oll o gynnyrch Cymreig a’r offer
amaethyddol mwyaf diweddar, mae yna rywbeth ar gyfer pawb ar ddangos a bu siopwyr yn dal i gefnogi busnesau bach a lleol i sicrhau dyfodol ffrwythlon i’r economïau gwledig ledled Cymru.

Yn olaf, gwelsom yr arddangosfa dân gwyllt wych yn ei hôl heno, a oedd fel bob amser, yn ddigwyddiad hynod o drawiadol ac yn ffordd berffaith o ddiweddu diwrnod cyntaf y Ffair Aeaf.

Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr “Ar ôl 18 mis o ansicrwydd, mae’n wych cynnal y Ffair Aeaf ar faes y sioe eto. Mae ein digwyddiadau yn dod â phobl at ei gilydd i ddathlu goreuon oll Cymru ac mae hi wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld wynebau hapus pobl, da byw ardderchog, cynnyrch Cymreig gwych ac amrywiaeth eang o arddangosfeydd a stondinau masnach i gyd yn creu un o’n hoff ddigwyddiadau. I ni a llawer un arall, mae’r Nadolig yn dechrau yma.”

Ni all y Gymdeithas aros i agor y giatiau eto am 8 bore fory ar gyfer diwrnod arall yn orlawn o gystadlaethau, cynnyrch Cymreig a siopa Nadolig. I’r rheini sy’n ymweld â ni ar Faes y Sioe yfory cofiwch eich Pàs COVID da chi a dilynwch ein mesurau diogelwch os gwelwch yn dda.