Fel y digwyddiad mawr cyntaf ar Faes y Sioe yn Llanelwedd ers 2019 bu Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn llwyddiant ysgubol. Mae’r Gymdeithas a’r ymwelwyr wedi colli’r Ffair yn fawr ac mae wedi bod yn wych croesawu pawb yn ôl eleni i weld rhywfaint o stoc ddethol campus y Deyrnas Unedig ac i fynd i ysbryd y Nadolig.
Ar ôl yr hyn a fu’n ddwy flynedd heriol, rydym wrth ein bodd o edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus ac at lawer mwy o ddigwyddiadau i ddod. Meddai Alwyn Rees, Cadeirydd Pwyllgor y Ffair Aeaf: “Mae hi wedi bod yn wefr gennym groesawu ein ffyddloniaid, yn arddangoswyr, stondinau masnach, aelodau ac ymwelwyr, sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, yn ôl.”
Yn ddigwyddiad masnach yn anad dim, mae’r Ffair Aeaf yn cynnig cyfle perffaith i rwydweithio gyda chyd-ffermwyr, cynhyrchwyr, cyflenwyr a phrynwyr, ac mae hi wedi dod yn ganolbwynt delfrydol i drafod ac i wneud busnes.
Fel digwyddiad yn llawn busnes ac arweinwyr y diwydiant, mae’r Ffair Aeaf yn gyflym ddod yn lle perffaith i randdeiliaid ddod at ei gilydd. Mae’r Gymdeithas yn falch fod y Ffair Aeaf wedi gallu chwarae rhan unwaith eto mewn hwyluso trafodaethau rhwng unigolion a sefydliadau dylanwadol iawn, sy’n effeithio ar ddyfodol amaethyddiaeth Cymru a’r economi wledig.
Yn un o’r teitlau mwyaf clodfawr i’w ennill yn y Ffair bob blwyddyn, dyfarnwyd prif bencampwriaeth y gwartheg, i ‘Read All About It’, heffer Las Brydeinig X, yn cael ei harddangos gan Tippets & Williams. Fe’i gwerthwyd yn ddiweddarach gan ein harwerthwyr swyddogol, McCartneys, am y swm trawiadol o £8,000 ac fe’i prynwyd gan Mr Kitson o Ogledd Swydd Efrog.
Yn rhywle arall ar faes y sioe, enillydd ein gwobr stondin fasnach gyffredinol orau oedd Cymdeithas Gwartheg Charolais Prydain Cyf.
Roedd yna dros 400 o stondinau masnach eleni, yn cynnwys y Neuadd Fwyd, ble oedd ymwelwyr yn gallu blasu cynnyrch gorau Cymru. Gwelodd y noson siopa hwyr-y-nos gannoedd o ymwelwyr yn ymroi i rywfaint o siopa Nadolig ac yn mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd a’r arddangosfa dân gwyllt drawiadol.
Mae gardd goffa wedi’i chreu y tu allan i’r Pafiliwn Rhyngwladol ar gyfer unrhyw deuluoedd, ffrindiau ac ymwelwyr sy’n dymuno cofio a dangos parch i’r rheini nad ydynt gyda ni mwyach. Roedd yna rosedau i bobl ysgrifennu neges fach a’i gosod ar y goeden ar gyfer eu hanwyliaid. Bu’r ardd goffa yn deyrnged deimladwy yn Ffair Aeaf eleni.
“Wrth i’r Ffair Aeaf ddod i ben gallwn fod yn falch unwaith eto o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Rydym wrth ein bodd o allu cynnal y Ffair ar ôl yr hyn a fu’n 18 mis heriol. Bu’n wych croesawu pawb yn ôl i Faes y Sioe a dathlu ac arddangos amaethyddiaeth Cymru a’i chynnyrch.” meddai William Hanks, Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf.
“Rydym yn ddyledus i’r peth wmbredd o waith caled ac ymroddiad gan y llu o wirfoddolwyr, stiwardiaid, masnachwyr, noddwyr ac, wrth gwrs, ymwelwyr. Fel canlyniad i’r ymroddiad yma gan gefnogwyr ffyddlon y Ffair Aeaf y bu i’r digwyddiad fod yn gymaint o lwyddiant.”
“Wrth i’r Ffair Aeaf ddod i ben gallwn fod yn falch unwaith eto o’r hyn sydd wedi’i gyflawni. Rydym wrth ein bodd o allu cynnal y Ffair ar ôl yr hyn a fu’n 18 mis heriol. Bu’n wych croesawu pawb yn ôl i Faes y Sioe a dathlu ac arddangos amaethyddiaeth Cymru a’i chynnyrch.” meddai William Hanks, Cyfarwyddwr y Ffair Aeaf.
“Rydym yn ddyledus i’r peth wmbredd o waith caled ac ymroddiad gan y llu o wirfoddolwyr, stiwardiaid, masnachwyr, noddwyr ac, wrth gwrs, ymwelwyr. Fel canlyniad i’r ymroddiad yma gan gefnogwyr ffyddlon y Ffair Aeaf y bu i’r digwyddiad fod yn gymaint o lwyddiant.”
Prif Bencampwr y Gwartheg
Read all about it, heffer Las Brydeinig X, yn cael ei harddangos gan Tippets & Williams. Fe’i gwerthwyd am £8,000 i Mr Kitson o Ogledd Swydd Efrog.
Prif Bencampwr y Bîff Ifanc
Shakira, heffer Limousin X, yn cael ei harddangos gan TW & MW Price & Morgan. Fe’i gwerthwyd am £3,500 i Mr Tomlinson o Weston Underwood, Swydd Buckingham
Prif Bencampwr y Moch Unigol
Mochyn Cymreig unigol, yn cael ei arddangos gan Mr & Mrs HD & EM Roberts. Fe’i gwerthwyd am
£630 i T Hughes, Rhydeilian, Llanfairpwll.
Prif Bencampwr y Pâr o Foch
Pâr o foch Cymreig, yn cael eu harddangos gan Mr & Mrs HD & EM Roberts. Fe’u gwerthwyd am
£630/pen i T Hughes, Rhydeilian, Llanfairpwll.
Prif Bencampwr Carcas Unigol
Carcas Beltex X, yn cael ei arddangos gan B Blandford a’i Feibion. Fe’i gwerthwyd am £2,200 i Roberts a’i Feibion
Prif Bencampwr y Pâr Carcas
Pâr Beltex X, yn cael eu harddangos gan I T Davies a’i Feibion. Fe’u gwerthwyd am £500/pen i Morgan Livestock
Pencampwr Hamper Cig Cyffredinol
Arddangosfa Gymreig o Gig, yn cael ei arddangos gan Mr Adrian Walker. Fe’i gwerthwyd am £210 i DG Roberts, Dinbych
Prif Bencampwr y Defaid
Pâr o ŵyn Beltex, yn cael eu harddangos gan Mr Robert West. Fe’u gwerthwyd am £1,250/pen i Terry Bayliss, Farmers Fresh.
Dofednod wedi’u Trin
Twrci, yn cael ei arddangos gan Mrs E Marion Evans. Fe’i gwerthwyd am £660 i Morgans Family Butchers, Llanfair-ym-Muallt.
Pencampwr Ceffylau Cymreig
Llanarth Consort, Ebol blwydd merlyn Cymreig (teip cob), yn cael ei arddangos gan The Llanarth Stud o Swydd Henffordd.
Prif Bencampwr y Ceffylau
Ilar Dakota, Ebol blwydd merlyn mynydd Cymreig, yn cael ei arddangos gan Sam Morsley o Milton Keynes.
Gosod Blodau
Mrs Mary Gittoes a Mrs Susan Thomas gyda’u dehongliad o Sinderela.