Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Derbyniodd y teulu Tudor Gymrodoriaeth CARAS yn seremoni agoriadol Ffair Aeaf
Frenhinol Cymru yn gynharach yr wythnos hon ar ran y diweddar Mr Richard Tudor. Mae
CARAS (Cyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol) yn gwobrwyo
cyfraniad nodedig unigolion at y Sector Amaethyddol trwy ddyfarnu Aelodaeth Gyswllt a
Chymrodoriaeth.
Roedd Richard Tudor yn gymeriad uchel ei barch ac adnabyddus yn y diwydiant
amaethyddol ac roedd ei farwolaeth y llynedd yn ergyd fawr ac yn dristwch i’r gymuned.
Meddyliwyd am gyflawniadau Richard yn seremoni agoriadol y Ffair Aeaf yn Llanelwedd,
ble cyflwynwyd y wobr i’r teulu Tudor.
Ym Mehefin 2015 daeth Richard Tudor yn Aelod Cyswllt o CARAS am ei gyflwyniad ‘Gwella
Effeithiolrwydd Buchod Sugno yn Llysun’. Roedd Richard yn ffermio Llysun gyda’i rieni Tom
ac Ann Tudor ynghyd â’i wraig Catrin, a’u dau o blant Morgan a Lois. Yn 2016, enwyd
Richard yn Ffermwr Bîff y Flwyddyn y Farmers Weekly a’i foli am ei rheolaeth effeithlon yn
Llysun. I ehangu ei wybodaeth ffermio, roedd wedi teithio’r byd, fel Ysgolor Hybu Cig
Cymru ac fel Ysgolor Nuffield, a rhannodd ei ymchwil yn eang gyda’r gymuned ffermio
ehangach yn ogystal â’i roi ar waith ar y fferm.
Yn 2018 bwriad Richard oedd i fuchod llaeth gymryd lle’r fuches bîff gyfan. Gyda pharlwr
cylchdro newydd wedi’i osod yn Llysun, dechreuwyd godro yn nechrau’r Gwanwyn 2020,
ond lladdwyd Richard yn drasig iawn ar y fferm yn Ebrill 2020. Mae’i fab Morgan a’r teulu’n
parhau’n awr â breuddwyd Richard o ffermio llaeth yn Llysun. Dyfodol wedi’i adeiladu ar
weledigaeth, arweinyddiaeth ac etifeddiaeth arbennig Richard.
Meddai llefarydd y Gymdeithas: “Rydym wrth ein bodd mai Morgan oedd un o dri yn unig i
gyrraedd rownd derfynol genedlaethol Gwobr ‘Young Countryside Champion’ Countryfile,
sy’n wobr a gyflwynir yn flynyddol gan BBC Countryfile, ac sy’n dathlu pobl ifanc sy’n cael
dylanwad cadarnhaol yng nghefn gwlad. Mae Morgan yn berson ifanc gwirioneddol
ysbrydoledig gyda llawer o egni, angerdd a phenderfyniad, ac fe’i cefnogir yn llwyr gan ei
deulu, gan sicrhau bod etifeddiaeth Richard yn parhau i fyw.”
Capsiwn y Llun: Mr Tom Tudor MBE FRAgS, Mrs Ann Tudor, Miss Lois Tudor, Mrs Catrin
Tudor, Mr Morgan Tudor, gyda Chynrychiolwyr CARAS – Mr Emyr Jones FRAgS (Cadeirydd) a
Mr Cyril Davies FRAgS