Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae’r Is-Gadeirydd blaenorol Mrs Nicola Davies wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd y Cyngor yn dilyn penderfyniad Mr David Lewis i ymddeol ar ôl 40 mynedd o wasanaeth ymroddedig i’r Gymdeithas. Nicola fydd y fenyw gyntaf i’w phenodi’n Gadeirydd y Cyngor yn hanes y Gymdeithas.
Mae Mrs Davies, o Geredigion, wedi arddangos Cobiau Cymreig yn Sioe Frenhinol Cymru ers blynyddoedd lawer ac ymunodd â Phwyllgor Ymgynghorol Ceredigion gyntaf yn 1996. Gyda’i brwdfrydedd dros y diwydiant, mae Nicola wedi ymgymryd ag amryw o swyddi yn flaenorol, yn cynnwys Prif Gyflwynydd a Sylwebydd, stiwardio o fewn yr adrannau Nawdd a Lletygarwch.
Gwnaeth Mr John T Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr sylw ar y penodiad newydd; “Mae Nicola Davies yn ddewis naturiol i ddod yn Gadeirydd Cyngor CAFC.”
“Mae hi wedi tyfu i fyny yng nghylchoedd sioeau Cymru ac wedi rhoi oes o wasanaeth a chefnogaeth hyglod i CAFC, fel arddangoswr Cobiau Cymreig llwyddiannus, Stiward, Llysgenhades, Uwch-Sylwebydd, Is-Gadeirydd y Cyngor ac Aelod Cyswllt CARAS. Mae Nicola’n ffigwr galluog ac awdurdodol a fydd yn ddiamheuaeth yn llysgennad rhagorol i’r Gymdeithas’’.
Bydd y gorchwyl o geisio enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Cyngor yn dechrau’n awr a bydd cyfarfod o’r Cyngor yn cael ei gynnal tua diwedd Ionawr.
Mae hyn yn dod ar adeg o fwy o newid o fewn y Gymdeithas gan fod Mr Steve Hughson y Prif Weithredwr wedi cyhoeddi ei ymddeoliad ar ôl Sioe Frenhinol Cymru 2022. Ar ôl rhoi bron 10 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i’r Gymdeithas, mae Steve wedi bod yn ystyriol wrth roi 10 mis o rybudd o’i ymddeoliad.
‘’Y buddsoddiad mwyaf y gall Cymdeithas Sioe ei wneud ydy penodi Prif Weithredwr gweithgar ac ymroddedig, fel y gwnaethom ddegawd yn ôl. Bryd hynny dywedodd Steve y byddai’n cysegru deng mlynedd o’i fywyd fel arweinydd y Gymdeithas ac mae e wedi gwneud hynny gyda chlod.” meddai John T Davies.
“Wrth i Steve ymddeol o’r swydd ar ôl Sioe 2022, byddwn yn cael cyfle i fyfyrio ynghylch cyfnod llwyddiannus iawn o dyfiant a sefydlogrwydd. Mae Steve yn bendant iawn wedi rhoi’r Gymdeithas ar sylfeini cadarn ar adeg o her heb ei thebyg o’r blaen. Mae ar y Gymdeithas ddyled enfawr o ddiolchgarwch i Steve, mae hi wedi bod yn bleser gweithio wrth ei ochr’’.
Byddai’r Gymdeithas yn hoffi penodi Prif Weithredwr newydd cyn Sioe’r haf er mwyn cael cyfnod trosglwyddo yn y cyfnod yn arwain i fyny at y digwyddiadau. Bydd y swydd yn cael ei hysbysebu yn yr wythnosau i ddod.