Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Yn dilyn penodiad Mrs Nicola Davies yn Gadeirydd y Cyngor, mae Mr Alwyn Rees yn camu i mewn yn awr fel yr Is-Gadeirydd newydd wedi iddo gael ei benodi gan y Gymdeithas.
Mae Mr Rees, sy’n ffermio yn Caeceinach, Pennal ym Meirionnydd wedi bod a wnelo â’r Gymdeithas ers blynyddoedd lawer ac mae’n cyfrannu at nifer o Bwyllgorau’r Gymdeithas, gan gynnwys bod yn Gadeirydd Pwyllgor Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ar hyn o bryd. Mae Alwyn wedi beirniadu llawer o gystadlaethau da byw, yn cynnwys Adran y Defaid Mynydd Cymreig, y Prif Bencampwr Bîff yn CAFC a’r Adran Bridiau Mynydd Ŵyn Cigydd yn y Ffair Aeaf.
Mae ymroddiad Alwyn i’r diwydiant wedi arwain at lawer o anrhydeddau. Yn 2014 cafodd ei wneud yn Gymrawd gan Gyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol. Yn 2015, dyfarnwyd iddo Wobr Goffa John Gittins CAFC am gyfraniad eithriadol i Ddiwydiant Defaid Cymru ac yn 2016 roedd yn Gadeirydd Digwyddiad Tir Glas Brenhinol Cymru, a gynhaliwyd gan Sir Nawdd Meirionnydd ar Ystâd y Rhug, Corwen. Yn fwy diweddar etholwyd Alwyn yn ei sir enedigol yn Llywydd newydd CFfI Meirionnydd.
Mae swyddi blaenorol eraill o fewn y diwydiant yn cynnwys Cadeirydd Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig Meirionnydd, aelod Cyngor Cymru Cymdeithas y Gwartheg Charolais Prydeinig, a Chadeirydd Cymru Cynghres Charolais y Byd.
Swydd Alwyn fel Is-Gadeirydd y Cyngor fydd gweithio gyda Mrs Nicola Davies, y Cadeirydd sydd newydd ei phenodi, wrth gyflawni nodau ac amcanion y Gymdeithas. Dywedodd Nicola Davies fod penodiad Alwyn yn Is-Gadeirydd y Cyngor yn gydnabyddiaeth o’i ymroddiad i CAFC dros flynyddoedd lawer.
“Mae’n ffermwr bîff a defaid uchel ei barch ac mae wedi arwain Pwyllgor y Ffair Aeaf yn fedrus iawn yn ei swydd fel Cadeirydd. Mae CAFC yn ffodus iawn o gael rhywun cystal ag ef sy’n barod i ymgymryd â’r swyddi pwysig hyn.”
Wrth dderbyn y swydd yng nghyfarfod mis Ionawr y Cyngor, diolchodd Alwyn yn gynnes i aelodau Cyngor y Gymdeithas am y fraint a’r anrhydedd trwy’i benodi’n Is-Gadeirydd y Cyngor. Tynnodd sylw at y ffaith ei fod wedi dechrau arddangos a stiwardio gyda’r Gymdeithas dros 40 mlynedd yn ôl a’i fod wedi bod â rhan yn ‘ystafell injan’ y Gymdeithas. Mae Alwyn yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Nicola a’r tîm cyfan.