Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd ceisiadau cystadlaethau da byw a cheffylau ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2022 yn agor yn swyddogol ar ddydd Mercher 30ain Mawrth am 10 y bore, ac mae atodlenni ar gael i’w gweld yn awr ar wefan CAFC.
Bydd Sioe Frenhinol Cymru, y bu hir ddisgwyl amdani, yn dychwelyd eleni ar ôl egwyl o ddwy flynedd oherwydd y pandemig Coronafeirws. Mae cystadleuwyr, arddangoswyr masnach ac ymwelwyr fel ei gilydd i gyd wrth eu bodd o fod yn dychwelyd i Faes y Sioe yn Llanelwedd o’r 18fed – 21ain Gorffennaf eleni.
Bydd arddangoswyr yn gallu cofrestru ar gyfer y cystadlaethau trwy’r system geisiadau ar-lein newydd. Mae’r Gymdeithas yn gyffrous o fod yn lansio’r system newydd ac mae’n gallu eich sicrhau y bydd y broses geisiadau ar-lein yn cynnig hawster defnydd, talu diogel a chyfleustra llwyr i arddangoswyr. Rydym yn awyddus i wneud ein system geisiadau yn brofiad esmwythach a mwy
effeithlon, ac i wneud ceisiadau yn llawer haws i’n holl arddangoswyr wrth inni leihau ein llwybr papur a’n dibyniaeth ar y system bost.
Fel bob amser, mae’r atodlen lawn o ddosbarthiadau a gwobrwyon arbennig ar gyfer gwartheg, defaid, moch, geifr a cheffylau yn mynd i ddenu ceisiadau o bell ac agos. Yn y blynyddoedd cynt rydym wedi gweld tua 8,000 o geisiadau yn dod o bob rhan o Gymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ac rydym yn gobeithio bod ein harddangoswyr yn awyddus i fod yn cystadlu unwaith eto.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau ac at eich croesawu’n ôl i Sioe Frenhinol Cymru fis Gorffennaf yma i fwynhau’r gorau oll sydd gan Gymru i’w gynnig gyda Rhaglen Sioe lawn.
Os oes unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r atodlenni neu geisiadau cystadlaethau cysylltwch â’r tîm Da Byw ar livestock@rwas.co.uk neu ewch i’r wefan.