Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae’r ceisiadau ar gyfer dosbarthiadau Da Byw a Cheffylau wedi bod yn dod i mewn yn aml ac yn fynych ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru eleni, sy’n cael ei chynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, o Orffennaf 18 – 21 2022.

Agorodd ceisiadau am 10 bore dydd Mercher 30ain Mawrth, a derbyniwyd dros 1000 o geisiadau mewn 3 awr yn unig, gan ddangos pa mor awyddus yw arddangoswyr i fod yn dychwelyd i Faes y Sioe am y Sioe Frenhinol gyntaf mewn tair blynedd oherwydd y pandemig coronafeirws. Ar hyn o bryd rydym wedi derbyn bron 2000 o geisiadau gan dros 500 o gystadleuwyr ac mae’r nifer yma’n dal i ddringo wrth i fwy o geisiadau lifo i mewn.

Bu ymateb anhygoel gan arddangoswyr a byddai’r Gymdeithas yn hoffi diolch i bob un o’r arddangoswyr sydd wedi ymgynnig mewn cystadlaethau yn barod.

Eleni mae arddangoswyr yn gallu rhoi’u henw ar gyfer y cystadlaethau drwy’r system geisiadau ar-lein newydd. Yn anffodus, oherwydd y galw uchel, cafodd gwefan CAFC a’r system geisiadau newydd rywfaint o anawsterau technegol yn ystod yr ychydig oriau cyntaf yr agorodd y ceisiadau ac mae’r problemau hyn yn cael eu datrys, gyda chymorth ein darparwyr meddalwedd newydd.

Mae’r atodlenni Da Byw a Cheffylau i gyd ar gael i’w gweld ar wefan CAFC, ynghyd ag arweiniad i ddefnyddwyr ar sut i ymgynnig ar-lein a fideo defnyddiol sy’n dangos y broses gam wrth gam. Mae ceisiadau’n cau ar ddydd Mercher 20fed Ebrill.

Mae’r Gymdeithas yn dra diolchgar am y gefnogaeth ryfeddol gan arddangoswyr, ymwelwyr, masnachwyr a noddwyr yr ydym wedi’i derbyn hyd yma. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at weld Maes y Sioe’n dod yn fyw unwaith eto fis Gorffennaf yma wrth inni eich croesawu’n ôl i’r prif ddigwyddiad yng nghalendr amaethyddol Prydain, Sioe Frenhinol Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr atodlenni neu geisiadau cystadlaethau cysylltwch â’r tîm Da Byw ar livestock@rwas.co.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01982 553683. Mae tocynnau ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru ar gael i’w prynu oddi ar ein gwefan.