Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Sir Nawdd Clwyd ar fin croesawu Digwyddiad Tir Glas Brenhinol Cymru ar ddydd Iau 12fed Mai 2022 yng Ngholeg Llysfasi, Coleg Cambria, Llysfasi, Rhuthun, LL15 2LB.
Mae’r Digwyddiad Tir Glas yn ddiwrnod gwych sy’n cynnig amrywiaeth aruthrol i ffermwyr,
contractwyr, a phobl cefn gwlad. Bydd y diwrnod yn cynnwys arddangosiadau peiriannau yn gweithio yn y cae, lleiniau treialu porthiant sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o’r cnydau a’r amrywiaethau
diweddaraf, offer da byw i’r ffermwr tir glas, ynghyd ag amrywiaeth o stondinau masnach a
chyflenwyr sy’n cynnwys amrediad llawn o anghenion tir glas a da byw.
Y prif atyniadau i’w gweld yn y Digwyddiad Tir Glas wrth gwrs yw’r arddangosiadau byw. Mae’r
arddangoswyr sy’n arddangos a’r brandiau peiriannau y byddant yn eu harddangos yn cynnwys:
• Mona Tractors Co. Ltd gyda John Deere, Kverneland UK a Vicon
• Emyr Evans a’i Gwmni Cyf gyda Massey Ferguson, Fendt, JCB, McHale a PÖTTINGER
• HJR Agri Oswestry Ltd gyda McCormick Tractors UK & Ireland a Pottinger
• Malpas Tractors gyda New Holland Agriculture a Kuhn Farm Machinery
• Hughes Bros. Agricultural & Groundcare Machinery gyda Kubota
• CASE IH
Yn ogystal â digonedd o fynd byw yn y digwyddiad, mae ymwelwyr yn gallu gwrando hefyd ar siaradwyr
gwadd gwych sy’n ymdrin â phynciau pwysig mewn ffermio.
• Prosiect Pridd Cymru – Rhoi Ffigwr ar Gyflenwadau Carbon yng Nghymru. Siaradwyr: Non Williams a Menna Williams, Cyswllt Ffermio
• Rôl y Rhyngrwyd Pethau (IoT) mewn Rheoli Slyri. Siaradwyr: Geraint Hughes,
Ymgynghori Lafan Consulting a Ceredig Evans, Erw Fawr, Ynys Môn
• Rôl Priddoedd mewn Cynhyrchu, Iechyd Anifeiliaid, a Ffiniau Elw. Siaradwr: Andrew Rees, Moor Farm, Sir Benfro
• Rôl Bwyd Deiliol mewn Tir Glas. Siaradwr: Nigel Howells, Nigel Howells Consulting
Ar ddiwrnod y digwyddiad bydd tractor a threlar yn cludo ymwelwyr o amgylch y safle. Mae pris
tocynnau’n £10 y pen a gellir eu prynu ar y diwrnod wrth y giatiau. Bydd gan y trefnwyr beiriant
cardiau ond oherwydd ansawdd gwael y signal maent yn annog defnydd arian parod.
I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan neu dudalen Facebook y Digwyddiad Tir Glas