Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae Gwobr Menter Bwyd Cymreig CAFC yn wobr flynyddol newydd er cof am y diweddar Mr Bill Ratcliffe OBE FRAgS. Bydd y wobr am y Cynhyrchydd/Gwerthwr Bwyd a Diod Cymreig Gorau sy’n Arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chyflwyno gyntaf yn Sioe Frenhinol Cymru 2022.

Bu Mr Ratcliffe yn gysylltiedig â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am fwy na 60 mlynedd a bu’n gyfarwyddwr am dros 30 mlynedd.  Un o’i ddiddordebau allweddol oedd bwyd, yn arbennig y busnesau fferm hynny sydd wedi arallgyfeirio a datblygu marchnadoedd a safleoedd i werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.  Roedd yn ddyfeisiwr brwd hefyd.

Mae meini prawf y gystadleuaeth yn cynnwys:

  • Mentrau bwyd a/neu ddiod o Gymru yn unig.
  • Rhaid i bencadlys y busnes a’r prif waith prosesu fod wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Cymru i fod yn ffynhonnell y rhan fwyaf o’r cynhwysion.
  • Yn arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru 2022.
  • Tystysgrif Sgôr Iechyd yr Amgylchedd o 4 neu 5 wedi’i harddangos ar eu stondin.

Gwahoddir cynhyrchwyr a masnachwyr sy’n arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 i wneud cais erbyn dechrau Gorffennaf i gystadlu yn y gystadleuaeth. Bydd y beirniadu’n cael ei wneud ar ddiwrnod cyntaf y Sioe a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Seremoni Gwobrwyo’r Gymdeithas a gynhelir yn Ardal y Cyngor ar ail ddiwrnod y Sioe.

Bydd masnachwyr a chwmnïau sy’n arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru 2022 yn cael eu gwahodd i gyflwyno ffurflen gais i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Byddir yn cyflwyno Gwobr Menter Bwyd Cymreig CAFC a Chofrodd y Gymdeithas i’r enillydd. Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar iawn Mr Alistair Ratcliffe a Mr Anthony Ratcliffe a’u teuluoedd am noddi’r Wobr.