Ymgeiswyr wedi’u rhoi ar restr fer ar gyfer Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2022 - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Fel gwobr bwysicaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae cystadlu brwd am Wobr Goffa Syr Bryner Jones flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gyda cheisiadau eithriadol o ddeg sir ar draws Cymru, mae’r beirniaid wedi cael gorchwyl anodd yn eu cwtogi i dri ymgeisydd teilwng iawn. Unwaith eto, byddir yn cadw enillydd cyffredinol gwobr dra chwenychedig eleni ynghudd tan Sioe Frenhinol Cymru, ble bydd yr ymgeiswyr a gyrhaeddodd y rhestr fer a’u teuluoedd yn mynychu cyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe i glywed cyhoeddi’r enillydd am y tro cyntaf.

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lunio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 50 mlynedd, roedd yn Gomisiynydd Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymru’r Weinyddiaeth Amaeth. Roedd yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 1954, blwyddyn jiwbilî aur y gymdeithas.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am unigolyn neu fusnes sy’n ymwneud yn weithredol â chynhyrchu bwyd a/neu ddiod sy’n dangos arloesedd cynaliadwy ac sy’n gwella’r amgylchedd yng Nghymru.

“Cawsom y fraint o ymweld â deg busnes ledled Cymru yn ystod pum diwrnod trwy gydol Mai a Mehefin.” meddai’r beirniaid Mr Brian Jones MBE FRAgS a Mr Richard Vaughan.

“Roedd yr holl ymgeiswyr yn glod i’r sector bwyd a diod yng Nghymru gan ddangos gwybodaeth ragorol am y cynnyrch gyda chyfundrefn farchnata effeithlon, sy’n argoeli’n dda ar gyfer tyfu’r diwydiant yma yng Nghymru.”

Yn nhrefn yr wyddor, dyma’r pedwar ymgeisydd a roed ar y rhestr fer:

Gwenyn Gruffydd Ltd, Bryn Bach, Dryslwyn, Caerfyrddin

Sefydlwyd Gwenyn Gruffydd yn 2010 ar ôl i Gruffydd benderfynu gwireddu ei freuddwyd o gadw gwenyn.  Mae’i gariad at gadw gwenyn wedi dal i dyfu ac arweiniodd yr hobi llwyddiannus at sefydlu Gwenyn Gruffydd Ltd ym Medi 2019.  Mae’r busnes sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn o fasnachu fel busnes Cyfyngedig yn falch o gyflenwi siopau fferm, siopau deli a chyfanwerthwyr sy’n dosbarthu’r mêl ar draws y wlad.

Mae’r perchnogion, Angharad a Gruffydd, yn gwpl ifanc brwdfrydig ac ymroddedig sydd mor hanfodol i gynhyrchu bwyd oherwydd heb bobl o’r fath a’u hymroddiad i’r diwydiant gwenyn yna byddai cnydio’n cael ei leihau o dros 60%.  Cafodd pob cwestiwn a ofynnwyd iddynt ei ateb mor broffesiynol ac mewn ffordd mor ddealladwy.

Mae Gwenyn Gruffydd yn cynnig dewis o gynhyrchion mêl naturiol pur yn cynnwys mêl blodau gwyllt Cymreig, mêl grug Cymreig, Crwybr Blodau Gwyllt a Grug wedi’i Dorri, ynghyd â chynyrchiadau cyfyngedig o fêl Iorwg Hydref.  Mae pob cynnyrch yn unigryw – o’r lliw yr holl ffordd i lawr i’r nodiadau arogl a’r blas.  Mae’r busnes wedi datblygu ble mae ffermwyr eraill wedi’u contractio i leoli cychod gwenyn ar dir sbâr a oedd yn rhoi rhywfaint o incwm ychwanegol a gwerthfawr iddynt ac mae bellach yn un o’r gwenynwyr mwyaf yng Nghymru gyda dros 200 o gychod gwenyn yn ei ofal.  Mae cŵyr gwenyn yn cael ei gynhyrchu’n awr ar gyfer y farchnad ganhwyllau ac mae manteision enfawr i’r cwmni brynu mêl cynhyrchwyr eraill i’w gymysgu gyda’u mêl eu hunain i gael gwahanol flasau.

Mae’u gwybodaeth a’u profiad o gadw gwenyn yn cael ei rannu â’r gymuned. Maen nhw’n rhedeg cyrsiau cadw gwenyn, yn rhannu fideos trwy Sianel Cadw Gwenyn YouTube i helpu gwenynwyr newydd sy’n dechrau arni ac maen nhw wedi rhoi sgyrsiau i grwpiau lleol, yn cynnwys ysgolion, ar wenyn, cadw gwenyn a’u pwysigrwydd ar gyfer peillio ac i’r gadwyn diogeledd bwyd gyfan. Mae’r busnes yn cynnig amrywiaeth eang o gyflenwadau cadw gwenyn i roi cychwyn ichi ar gadw gwenyn o’r gwenynwr amatur i’r proffesiynol, yn cynnwys cyfarpar cadw gwenyn, offer, bwyd gwenyn a’r gwenyn.

Mae’r cwmni’n parhau i dyfu a buddsoddi yn y busnes trwy ehangu eu cyfleusterau presennol yn gymedrol a bydd caniatáu adnewyddu un o dai allan presennol y fferm yn galluogi’r busnes i gynyddu maint y cynhyrchu y dydd, gan ychwanegu at effeithiolrwydd a’r dewis o gynnyrch.

Radnor Hills Water Co Ltd, Heartease Farm, Trefyclo, Powys

Mae Radnor Hills Water Co Ltd yn fusnes soffistigedig iawn gyda buddsoddi mawr mewn awtomatiaeth a oedd yn gofyn am set sgiliau sylweddol o ran peirianwyr. Mae Radnor Hills wedi addasu’n aruthrol ar gyfer galwadau dim gwastraff a defnyddio deunydd pacio adnewyddadwy yn ei holl gynwysyddion. Mae ailgylchu’r holl wastraff yn drawiadol iawn a ’does dim tirlenwi’n cael ei ddefnyddio. Mae unrhyw ddŵr nas defnyddir a dŵr o’r gwaith sydd wedi’i ddefnyddio ar gyfer glanhau a golchi ayb yn cael ei hidlo’n ôl i’r afon gerllaw fel dŵr perffaith lân digon da i’w yfed wedi iddo fynd trwy system o’i hidlo llawer o weithiau.

Fe wnaeth Mr William Watkins arallgyfeirio’r busnes yn 1988 pan ddechreuodd bacio cwpaneidiau bach o ddŵr mwynol ar gyfer y Diwydiant Cwmnïau Awyrennau.  O’r fan honno tyfodd y cwmni a sefydlwyd Radnor Hills yn 1990. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, ar ôl gwerthu eu poteli cyntaf, maen nhw bellach yn cyflenwi dros 250 o gyfanwerthwyr a manwerthwyr y DU, yn cynnwys rhai o archfarchnadoedd mwyaf Prydain.  Mae pwyslais eu cynnyrch ar flas ac ansawdd a bellach maen nhw wedi arallgyfeirio gyda llawer o wahanol ddewisiadau cynnyrch.  Mae lles y staff yn flaenoriaeth uchel yn ogystal â bod eu busnes mor ecogyfeillgar â phosibl.  Mae recriwtio staff gyda setiau sgiliau arbenigol yn her barhaus ac maen nhw yn hyfforddi rhai yn fewnol.  Mae’n gyflogwr ar raddfa fawr iawn mewn ardal wledig iawn, felly mae’r budd y maen nhw’n ei ddod i’r economi a’r ardal leol yn enfawr. Mae llawer o weithwyr allweddol y busnes yn byw ar y fferm.

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol ar y pen blaen i Radnor Hills ac maen nhw wedi ymrwymo i leihau eu heffaith a dyna sut y maen nhw wedi llwyddo i beidio ag anfon dim gwastraff i dirlenwi er 2018.  I ganfod canlyniad eu hôl troed ymgymerwyd ag ymarferiad PESTEL (“political, economic, social, technological, environmental and legal”) ac mae’r model hwn wedi’i briodoli i ganlyniadau eu System Reoli Amgylcheddol a bu honno’n weithredol er 2018.

Mae fferm Heartsease, ble mae’r cwmni dŵr wedi’i leoli, yn ymestyn dros tua 1400 o erwau, y mae 800 erw ohonynt yn dir âr.  Mae’r gweddill yn laswellt ac yn cario tua 140 o Fuchod Duon Cymreig ac ymhell dros 1000 o ddefaid miwl.

Er nad yw’r fferm yn gyfan gwbl organig mae’n system mewnbwn isel iawn sy’n gwneud defnydd effeithlon iawn o dom/dail. Ar y tir gerllaw’r ffatri mae tua 14 o dyllau turio sy’n cyflenwi’r dŵr i’r ffatri o ffynhonnau naturiol.

Mae i’r busnes hwn gynllun busnes cadarn gyda chyfeiriad strategol clir, un a fydd yn cadw brand Radnor Hills ar y silffoedd am flynyddoedd i ddod.

Ystâd Y Rhug, Corwen, Sir Ddinbych

Mae Ystâd y Rhug yn Sir Ddinbych yn ymestyn dros 12,500 o erwau gyda thua 6,700 o’r rheini’n cael eu ffermio mewn llaw.  Cymerodd yr Arglwydd Newborough yr Ystâd drosodd gan ei dad yn 1998 a gan fod cynaliadwyedd wrth galon y genhadaeth fusnes, cafodd ei haddasu’n fferm organig gyda statws organig llawn o 2000.  Mae’r model ffermio cynaliadwy yma’n cynhyrchu cymaint yn awr â phan oedd yn cael ei ffermio’n gonfensiynol.

Mae Ôl Troed Carbon ac Effaith Amgylcheddol bob amser ym mhob cynllun ar draws y busnes ac wedi bod felly o’r cychwyn ac ers bod yr ôl troed carbon yn cael ei fesur, maen nhw mewn sefyllfa garbon negyddol oherwydd y system a’r ffordd y maen nhw wedi ffermio a rheoli’r tir.

Agorodd y siop fferm yn Rhug yn 2002 gan werthu ei gig gwobrwyedig o ansawdd uchel, yn gig eidion, cig oen, cyw iâr, cig carw, gwyddau a thwrci, mewn amrywiaeth eang o gynhyrchion, dewisiadau a thoriadau.  Mae yna fwyty, caffi a lle bwyd i fynd hefyd ac ychwanegiad diweddar yw’r cyfleuster trwy ffenast y car newydd sy’n boblogaidd iawn oherwydd ei leoliad yn union ar ochr yr A5.

Gellir compostio neu ailgylchu’r deunydd pacio yn siop y fferm, y cyfleuster trwy ffenast y car a’r lle prydau i fynd yn llwyr ac felly hefyd yr hambyrddau cardbord ar gyfer eu cynhyrchion cig ac maen nhw’n adolygu’r deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar diweddaraf yn gyson. Mae’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan yr ymwelwyr yn cael ei ddidoli ac mae popeth y gellir ei ailgylchu yn cael ei ailgylchu.

Mae Ystâd Y Rhug yn cyflenwi cig ar draws y DU i’r bwytai gorau yn ogystal â’i allforio i leoedd megis Hong Kong, Singapore a Dubai.

Bedair blynedd yn ôl, dyfarnwyd Gwarant Benodi Frenhinol i’r Arglwydd Newborough ar Fferm Organig Rhug, siop y fferm a chownter y cigydd i EUB Tywysog Cymru.  Mae hyn ynddo’i hun yn gamp ryfeddol sy’n dangos cydnabyddiaeth i gynaliadwyedd a’i werth.

Mae cynhyrchu Ynni Gwyrdd yn Rhug yn rhan annatod o’r model cynaliadwyedd a dros y blynyddoedd maen nhw wedi adeiladu nifer o gynlluniau ynni dŵr, tyrbinau gwynt, systemau paneli solar a storfeydd batris ac mae nifer o brosiectau ar fynd ar hyn o bryd, yn cynnwys wyth o fannau gwefru trydan ar gyfer ymwelwyr a chwsmeriaid sy’n galw yn Rhug.

Fe wnaeth ymagwedd arloesol yr Arglwydd Newborough eu helpu nhw i lansio dewis gofal croen newydd wedi’i frandio yn 2020 gan ddefnyddio cynhwysion a chwilotwyd ac a dyfwyd ar yr Ystâd.  Mae ymhell dros 100 o staff wedi’u cyflogi ar draws yr amrywiol fentrau ar yr Ystâd bellach ac  hynny mewn ardal wledig o arwyddocâd ac o bwysigrwydd enfawr i’r economi a’r seilwaith lleol.

Mae hwn yn weithgaredd “cae i’r plât” gwirioneddol wedi’i drwytho ag angerdd a brwdfrydedd a arweinir yn dda gan yr Arglwydd Newborough a’i dîm wedi’i seilio ar fodel busnes eithriadol o gryf.  Mae â gweledigaeth a chenhadaeth glir i fynd â’r busnes yn ei flaen am flynyddoedd i ddod i ehangu enw a brand Rhug.

Byddai’r beirniaid yn hoffi diolch i bob un o’r deg ymgeisydd am eu hamser a’u lletygarwch yn ystod y beirniadu, a dymunant yn dda i’r holl ymgeiswyr ar gyfer y dyfodol ac edrychant ymlaen at glywed am eu llwyddiant yn parhau.

Byddir yn cyhoeddi’r enillydd yng nghyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Ardal y Cyngor ar ddiwrnod cyntaf y sioe, dydd Llun 18 Gorffennaf, am 2.30 y pnawn a bydd yn derbyn Tlws Coffa Syr Bryner Jones, Medal a Thystysgrif. Mae CAFC yn cydnabod yn ddiolchgar Mr Gareth Roberts, aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas, am noddi’r fedal.