Anrhydeddau i arweinwyr ffermio Cymru - CARAS - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae nifer o arweinwyr gweithgar a haeddiannol y diwydiant wedi’u hanrhydeddu eto gan Gyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am eu cyfraniad i’r diwydiannau amaethyddol a gwledig yng Nghymru.

Mae Panel Cenedlaethol Cymru a’r Panel Safonwyr Cenedlaethol i Gyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn ystyried yn fanwl gywir lawer o geisiadau a wneir bob blwyddyn, ac mae’r ymgeiswyr canlynol, yr ystyriwyd eu bod o safon digon uchel i dderbyn y teitl chwenychedig o naill ai gymrodor neu aelod cyswllt, wedi cael eu gwobrwyon yn swyddogol mewn derbyniad a gynhaliwyd ar nos Fawrth (19eg Gorffennaf) Sioe Frenhinol Cymru 2022.

Aelodaeth Gyswllt:

Ym mhob achos mae disgwyl i gyflawniadau ymgeiswyr fod yn ddangosadwy uwch na lefel gyffredinol pobl eraill sy’n gweithio yn yr un maes, pa un ai ym maes ffermio, ymchwil, gwaith cyhoeddus neu weithgareddau eraill.

Mr Richard Wyn Davies o Landyrnog, Dinbych
Dyfarnwyd mis Rhagfyr 2021 – Hwyluso a Chyfnewid Gwybodaeth yn Niwydiant Llaeth Cymru

Mrs Myfanwy Edwards o Dregolwyn, Y Bont-faen
Dyfarnwyd ym mis Ionawr 2022 – Hyrwyddo a Hygyrchedd Cynyddol Bwyd Lleol

Mr Eifion Huws o Fodedern, Caergybi
Dyfarnwyd ym mis Mawrth 2022 – Cyfraniad Diflino i’r Diwydiant Amaethyddol, yn arbennig y Sector Llaeth

Mr Eifion Rhys Jones o Gydweli, Sir Gaerfyrddin
Dyfarnwyd ym mis Hydref 2021 – Bridio er Rhagoriaeth

Mr Graham Jones o Lanfabon, Pontypridd
Dyfarnwyd ym mis Hydref 2021 – Cychwyniad y Ffordd i Ddamascus i siwrnai i newid gwedd cynhyrchu defaid a gwella cydffurfiad

Mr Huw Thomas Jones o Gwbert, Aberteifi. Dyfarnwyd ychydig ddyddiau’n ôl yn unig – Newidiadau i’m system ffermio dros y 12 mlynedd ddiwethaf.

Mr Aled Alun Owen o Lannefydd, Dinbych. Dyfarnwyd mis Rhagfyr 2021 – Cynhyrchu Llaeth Cynaliadwy

Mrs Kathryn Whitrow o Gastell-nedd. Dyfarnwyd ym mis Mawrth 2022 – Balchder wrth Roi yn Ôl

Cymrodoriaethau:

Dyw Aelodau Cyswllt ond yn cael eu hystyried i’w dyrchafu i Gymrodoriaeth os gellir dangos cyfraniad arwyddocaol parhaus i amaethyddiaeth neu ddiwydiant cysylltiedig yn ystod eu cyfnod yn Aelod Cyswllt.  ’Dyw dyrchafiad ddim yn awtomatig ac mae’n rhaid ei ennill trwy wasanaeth pellach i’r diwydiant.

Mrs Valerie Cooke o Landeilo Gresyni, Y Fenni.
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddi ym mis Hydref 2014 – Pleserau Bridio a Dangos Gwartheg

Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Ebrill 2020.

Mr Gareth Davies o Langamarch

Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Mawrth 2015 – Cyfuno Ffermio Proffidiol a Chynaliadwy gyda’r Diwydiant Cyflenwi Amaethyddol. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth mis Ebrill 2020.

Mr Richard Gibb o Dregolwyn, Y Bont-faen
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Ionawr 2016 – Hyrwyddo Llaeth. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Tachwedd 2021.

Mrs Cynthia Higgon o Crundale, Hwlffordd
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddi ym mis Ionawr 2016 – Fy Myd Ceffylau a Gwasanaeth i’r Gymuned Amaethyddol o fewn Sioeau mewn amrywiol swyddi. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Tachwedd 2021.

Mr Arthur Owen o Lannefydd, Dinbych
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Gorffennaf 2014 – Glaswellt i Laeth i Elw a Ffordd o Fyw. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Tachwedd 2019

Mr John M Owen o Landybïe, Rhydaman
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Mehefin 2016 – Llaeth yn profi ei werth ar Ffermydd Llaeth Cymru. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Tachwedd 2021.

Mr Richard Roderick o Aberhonddu

Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Hydref 2016 – Gyrru tuag at Gynhyrchu Wŷn Cynaliadwy. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Tachwedd 2021.

Mr William Lloyd Williams o Fachynlleth
Dyfarnwyd Aelodaeth Gyswllt iddo ym mis Ebrill 2015 – Fy Nghyfraniad at Fachynlleth ac Amaethyddiaeth yn Nyffryn Dyfi. Dyrchafwyd i Gymrodoriaeth ym mis Ebrill 2015.