Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Mae Gwobr Menter Bwyd o Gymru CAFC yn wobr flynyddol newydd er cof am y diweddar Mr Bill Ratcliffe OBE FRAgS a fu’n gysylltiedig â’r Gymdeithas am fwy na 60 mlynedd ac a fu’n gyfarwyddwr am dros 30 mlynedd. Un o’i ddiddordebau allweddol oedd bwyd, yn arbennig y busnesau fferm hynny sydd wedi arallgyfeirio a datblygu marchnadoedd a safleoedd i werthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.
Cyhoeddwyd y wobr flynyddol newydd am y Cynhyrchydd/Gwerthwr Bwyd a Diod Cymreig Gorau sy’n Arddangos yn Sioe Frenhinol Cymru yn seremoni wobrwyo ddoe (19eg Gorffennaf 2022). Mae’r Gymdeithas wrth ei bodd fod dau fab Mr Ratcliffe, Alistair ac Anthony, ill dau wedi gallu ymuno yn y seremoni wobrwyo ac wedi beirniadu cystadleuaeth eleni gyda Mr Gareth Roberts, Aelod o Fwrdd y Gymdeithas.
Sioe eleni fu’r cyfle cyntaf i feirniadu’r gystadleuaeth newydd. Digwyddodd y beirniadu ar ddiwrnod cyntaf y Sioe, gyda chyfanswm o bedwar ar bymtheg o fusnesau wedi cynnig yn y gystadleuaeth. Enillwyr Gwobr Menter Bwyd o Gymru CAFC ar gyfer 2022 yw Môn ar Lwy – Taste of Anglesey.
Busnes bach ar Ynys Môn yw Môn ar Lwy – Taste of Anglesey, sydd wedi arallgyfeirio eu busnes ffermio ac sy’n awr yn creu hufen iâ moethus ar y fferm gan ddefnyddio llaeth Jersey a hufen Cymreig.
Bu sylfaenydd a pherchennog y busnes, Helen Holland yn athrawes am 35 mlynedd ac arallgyfeiriodd y fferm bedair blynedd ar ddeg yn ôl ar ôl colli ei thad. Eleni maen nhw’n defnyddio llaeth Jersey o’r ansawdd gorau o fuches sydd newydd ei sefydlu ar Ynys Môn. Disgrifiodd Helen sut y maen nhw’n defnyddio’r cynnyrch gorau i greu’r cynhyrchion gorau, mae’r llaeth Jersey fel ‘aur hylifol’.
Wrth wneud sylw am fod y busnes cyntaf i ennill y wobr, meddai Helen “Rydym ar ben ein digon. Mae o’n gymaint o hwb gwych ar ôl y tair blynedd ddiwethaf yn dilyn y pandemig.” Mae Helen yn ddiolchgar fod Sioe Frenhinol Cymru wedi dychwelyd, a hithau wedi bod yn masnachu’n rheolaidd yn y sioe am y pedair blynedd ar ddeg ddiwethaf.
Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar y nawdd i’r Wobr gan Mr Alistair Ratcliffe a Mr Anthony Ratcliffe a’u teuluoedd.