Myfyrwyr Addawol yn derbyn Gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - Royal Welsh Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol a sêr ar eu cynnydd sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.

Derbyniodd pob un o’r myfyrwyr canlynol eu gwobrau yn Sioe Frenhinol Cymru yn seremoni wobrwyo ddoe, dydd Mawrth 19eg Gorffennaf 2022.

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2022 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi’i hennill ar y cyd eleni gan Elin Protheroe o Feulah, Llanwrtyd a Hefin Lloyd Owen o Lanrwst, Conwy.

Mae’r Wobr Myfyriwr y Flwyddyn flynyddol yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau NVQ Lefel III neu ND/NC BTEC, tystysgrif/diploma C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad, neu gyrsiau rheoli eraill yn gysylltiedig â’r tir.

Soniodd y beirniaid, Mrs Joy Smith a’r Athro E Wynne Jones OBE FRAgS am safon eithriadol bob ymgeisydd. Er yn benderfyniad anodd, fe wnaethant benderfynu ar gyd-enillwyr i’r wobr eleni, Elin Protheroe a Hefin Owen.

“Yr hyn a’n trawodd am y ddau unigolyn eithriadol o alluog yw eu bod yn cymryd rheolaeth lawn ar eu dyheadau gyrfa a’u cyfleoedd addysgol yn y dyfodol.” meddai’r beirniaid.

“Mae ganddynt ill dau feddwl ac uchelgais mawr am eu swyddi yn y dyfodol o fewn y diwydiant amaethyddol a’r diwydiant bwyd yng Nghymru. Mae gan Elin gariad enfawr at y diwydiant, mae hi’n unigolyn eithriadol o awyddus a galluog. Dangosodd Hefin inni ei fod yn unigolyn aeddfed, gwybodus a selog dros ben. Fe wnaeth eu gallu i drafod pethau mewn ffordd addysgiadol ac aeddfed iawn argraff arnom.”

Bwrsari Addysgol Gwili Jones – Coleg Sir Gâr

Mae Bwrsari Addysgol Gwili Jones – Coleg Sir Gâr wedi’i dyfarnu i Llewellyn Stephen Roberts, o Langynydd, Gŵyr.

Mae’r wobr hon yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi myfyrwyr sy’n mynd i mewn i’r diwydiant peirianneg amaethyddol trwy hwyluso lleoliad gwaith wythnos o hyd gyda gwneuthurwr blaengar o fewn y sector.

Mae’r Bwrsari’n agored i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio Peirianneg Amaethyddol ar hyn o bryd o fewn y gyfadran ar gampws Gelli Aur a Phibwrlwyd.

Mae Llewellyn yn byw ar y fferm deuluol yn Llangynydd, Gŵyr, ble mae ganddynt fenter gymysg, yn wartheg bîff, defaid ac âr. Mae Llewellyn newydd gwblhau ail flwyddyn Lefel 3 mewn Peirianneg Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr.

Meddai Geraint Evans, Arweinydd Tîm Peirianneg Amaethyddol i’r coleg, amdano: “Mae ganddo etheg gwaith gref iawn, ac mae’n angerddol ynglŷn â’i waith. Mae ganddo ddyfodol disglair o’i flaen”.

Mae cynlluniau gyrfa tymor byr Llewellyn yn cynnwys gweithio i ddelwriaeth er mwyn ennill profiad peirianyddol a gyda’i ddiddordeb brwd mewn technoleg fodern, mae’n gyffrous ynghylch yr addewid o brofiad uniongyrchol o’r gwaith a wneir yn Bailey Trailers ac mae’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn.

Yn y tymor canolig, byddai’n hoffi dilyn ei dad a gweithio i ddelwriaeth leol, ac yn yr hirdymor ei uchelgais yw rhedeg ei ddelwriaeth amaethyddol ei hun.

Gwobr Myfyriwr IBERS

Mae’r wobr am y myfyriwr amaethyddiaeth gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i hennill gan Mollie Hooper o Gasgob, Llanandras, Powys.

Mae Mollie newydd gwblhau ei FDSc mewn Amaethyddiaeth, gradd sylfaen dwy flynedd sy’n cael ei haddysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaengar yn eu maes mewn adran sy’n enwog am arloesi amaethyddol.

Mae hi’n gweithio’n rhan-amser ar hyn o bryd ar uned dofednod maes fawr sy’n golygu pacio wyau ar gyfer cyfanwerthu ynghyd â manwerthu, yn ogystal â chadw golwg ar iechyd a lles 40,000 o ieir.

Mae Mollie’n rheoli ei diadell ddefaid ei hun a buches fechan o fuchod pedigri hefyd, ac yn helpu ar ffermydd lleol gan gynorthwyo gydag ŵyna, rheolaeth diadell a thrin gwlân.

Gwobr Myfyriwr Harper Cymry

Mae Gwobr Myfyriwr Harper Cymry, sy’n cael ei hyrwyddo ar y cyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Harper Cymry, yn cael ei dyfarnu i Siôn Meirion Thomas, o Gefnbenydd, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin.

Cyflwynwyd Gwobr Myfyriwr Harper gyntaf yn 1999 gan y diweddar Mr Bill Ratcliffe, Cymrodor Harper Adams a sylfaenydd Cymdeithas Cynfyfyrwyr Harper Cymry. Mae’r wobr yn ceisio annog myfyrwyr o Gymru sy’n astudio ym Mhrifysgol Harper Adams i gyfrannu’n llawn at ddatblygu eu potensial academaidd ynghyd â’u potensial personol.

Mae’r wobr yn cydnabod y myfyriwr gyda’r yrfa academaidd orau wedi’i gyfuno â chyfraniad cadarnhaol iawn at amgylchedd dysgu myfyrwyr ehangach y coleg trwy’i glybiau, cymdeithasau neu drwy weithgareddau allgyrsiol eraill.  Wedi’i gwmpasu yn y wobr hefyd mae cyfraniad llawn at weithgareddau Harper Cymry (y clwb yn y coleg ar gyfer myfyrwyr o Gymru).

Yn ogystal, yn y cyfweliad mae’r beirniaid yn ceisio ac yn dod o hyd i’r myfyriwr sydd â’r cynlluniau a’r potensial gyrfa sydd wedi’u cynllunio orau.

Magwyd enillydd y gystadleuaeth, Siôn Meirion Thomas ar fferm ddefaid 252 erw ger Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod yn ei deulu ers cenedlaethau.

Mae’n stocmon brwd ac yn helpu’n ddyddiol ar y fferm. Ers colli ei dad ym mis Mawrth 2020, mae wedi derbyn mwy o’r cyfrifoldebau ar y fferm, gan ymgymryd â’r swyddi dyddiol a hwsmonaeth gyffredinol y stoc a’r tir, tra’i fod yn chwarae rhan arweiniol yn y dyletswyddau tymhorol.

Mae Siôn yn chwaraewr rygbi brwd gartref yn ogystal ag yn Harper Adams, ble mae wedi chwarae i’r tîm cyntaf a’r trydydd tîm.

Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips

Mae gwobr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fyfyrwyr er cof am y diweddar Dr Richard Phillips, ffigwr blaengar ym myd addysg amaethyddol yng Nghymru, wedi’i hennill gan Grant Samuel ‘Sam’ Halliday, Coleg Sir Gâr.

Gwneir y Wobr yn bosib trwy haelioni teulu Dr Phillips, ac mae’n cynnwys Tystysgrif y Gymdeithas a gwobr ariannol ac mae’n agored i fyfyrwyr sy’n graddio o Adrannau Amaethyddol Prifysgol Cymru.

Caiff y myfyrwyr eu dewis o flaen llaw gan Benaethiaid Adrannau Amaethyddol, ac mae gan bob Prifysgol yr hawl i gyflwyno hyd at bedwar o fyfyrwyr amaethyddiaeth a/neu fyfyrwyr pynciau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.

Mae’r dewis terfynol wedi’i seilio ar werthusiad o bersonoliaeth y myfyriwr, a’i wybodaeth ymarferol am amaethyddiaeth a’i ddefnydd, dyfnder gwybodaeth am y Gwyddorau Amaethyddol, y goblygiadau economaidd, a rôl amaethyddiaeth yn y dyfodol.

Fe wnaeth hyder tawel a phendant Sam a’i wybodaeth am y diwydiant amaethyddol, yn arbennig bîff a defaid, argraff ar y beirniaid, Mr Huw Griffith, Mrs Mary Elder Richards a Mr WI Cyril Davies FRAgS.

Mynychodd Sam Goleg Pencoed a Choleg Sir Gâr ble enillodd ei radd mewn amaethyddiaeth. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar ddwy fferm yn Ne Cymru gyda gwartheg Duon Cymreig a Defaid Mynydd. Bu Sam yn aelod o Glybiau Ffermwyr Ifanc Gelli-gaer a Llantrisant ac mae’n chwarae bob  wythnos i dîm pêl-droed 7 bob ochr answyddogol CFfI Morgannwg.