Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.
Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Wanwyn, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.
GŴYL WANWYN
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
17-18 Mai 2025.
SIOE FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
21-24 Gorffennaf 2025.
FFAIR AEAF FRENHINOL CYMRU
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY
25-26 Tachwedd 2024.
Gyda thristwch dwys ac ymdeimlad dwfn o golled y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn nodi marwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II.
Ymunwn â’r wlad gyfan wrth alaru dros y Frenhines, a fu’n Noddwr y Gymdeithas am 70 mlynedd. Mae’i hymroddiad a’i diddordeb yn amaethyddiaeth Cymru wedi bod yn gefnogaeth gyson i’r Gymdeithas.
Yn 1947, cafodd Y Frenhines, y Dywysoges Elizabeth fel oedd hi bryd hynny, ei rôl swyddogol gyntaf yn y Gymdeithas fel Llywydd Anrhydeddus am y flwyddyn. Yn ystod ei hamser fel Llywydd, ymwelodd y Dywysoges â Sioe Frenhinol Cymru, a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, a bu iddi ymgymryd â ‘thaith fuddugoliaethus o amgylch maes y sioe’. Mae dyfyniad o adroddiad sioe 1947 yn disgrifio’r ymweliad:
“Ymwelodd y Dywysoges Elizabeth â’r sioe ar y diwrnod agoriadol a rhoddwyd cymeradwyaeth iddi ar ei hynt yn ôl a blaen i faes y sioe a aeth, ar adegau, bron yn chwithig yn ei danbeidrwydd. Yna gwnaeth Ei Huchelder Brenhinol araith ac yn ystod yr araith honno fe wnaeth hi ennyn brwdfrydedd mawr trwy’i chyfeiriad at ‘Gymru, y wlad hyfryd yma’.”
Ar ôl marwolaeth ei thad, y Brenin Siôr VI, cymerodd y Frenhines rôl Noddwr y Gymdeithas drosodd yn 1952 ac mae hi wedi dal y swydd byth ers hynny. Mewn dyfyniad a gymerwyd o flwyddlyfr 1952 y Gymdeithas, ysgrifennodd Syr Bryner Jones, Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ynghylch penderfyniad y Frenhines i ddod yn noddwr inni:
“… rhaid mai fy nyletswydd gyntaf yw mynegi ein hymdeimlad dwfn o ddiolchgarwch fod Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II yn raslon wedi ein hysbysu o’i bwriad i barhau’r nawdd yr oedd ei diweddar dad y Brenin Siôr VI a’i thad-cu, y Brenin Siôr V, wedi’i estyn i’r Gymdeithas. Trwy’i phenderfyniad graslon i ganiatáu i’w henw gael ei gysylltu â’n Cymdeithas, mae hi wedi rhoi prawf digonol o’i chonsýrn am ffyniant amaethyddiaeth Cymru yn y dyfodol. Ein gobaith taer yw y caiff Ei Mawrhydi fyw i fwynhau teyrnasiad hir, hapus a heddychlon.”
Roedd Ei Mawrhydi’r Frenhines wedi ymweld â Sioe Frenhinol Cymru ar sawl achlysur arall ers hynny, yn fwyaf diweddar yn 2004 ym mlwyddyn ganmlwyddiant y Gymdeithas. Yn ystod ei hymweliad agorodd y Frenhines y Fynedfa A newydd a’r Pafiliwn Cneifio newydd yn swyddogol cyn galw heibio golygfeydd y sioe a chyflwyno gwobrau swyddogol y Gymdeithas a gwobrwyon Meirch y Merlod Cymreig a’r Cobiau Cymreig yn y Prif Gylch.
Meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr y Gymdeithas; “Ar ran pawb yng Nghymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, anfonaf fy nghydymdeimlad dwysaf ag aelodau’r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd yma. Mae’r Frenhines wedi darparu cefnogaeth ac arweiniad cadarn i’n gwlad ac eraill ar draws y byd, ac rwyf yn ffodus o fod wedi profi ei chwilfrydedd, ei hiwmor, a’i hymdeimlad dwfn o ddyletswydd yn uniongyrchol. Mae’r rhain yn atgofion na fyddant yn fy ngadael byth.”
Fe wnaeth Yr Athro Wynne Jones, Darpar Gadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr y sylwadau a ganlyn hefyd; “Estynnwn ein cydymdeimlad i’r Brenin Siarl a’r Teulu Brenhinol cyfan a dymunwn gofnodi ein diolch i’r Frenhines am ei diddordeb mewn materion gwledig ac am ei chefnogaeth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.”
Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd i’r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist yma.